Cefnogaeth i'r sector llaeth sy’n dioddef yn sgil Covid-19 yn gam i'w groesawu - ond rhaid gwneud mwy

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) wedi croesawu mesurau a gyflwynwyd i gynorthwyo’r diwydiant llaeth, sydd wedi cael eu heffeithio’n ddifrifol yn sgil cau’r sector gwasanaethau bwyd ac aildrefniad y gadwyn gyflenwi a phrisiau’r farchnad yn ofalus.

Y gobaith yw y bydd llacio deddfau cystadlu dros dro, sy'n berthnasol ledled y DU gyfan, yn galluogi mwy o gydweithredu fel y gall y sector llaeth, gan gynnwys ffermwyr llaeth a phroseswyr, weithio'n agosach i ddatrys y materion sy’n eu hwynebu.

Roedd atal deddfau cystadlu dros dro ar gyfer y sector llaeth yn un o'r opsiynau a drafododd yr FUW gyda'r Gweinidog Materion Gwledig fel rhan o'r Grŵp Cydnerth Amaethyddol.

Wrth ymateb i’r cyhoeddiad, dywedodd cadeirydd Pwyllgor Llaeth FUW, Dai Miles: “Mae hwn yn gam i’w groesawu i’r cyfeiriad cywir. Bydd yn darparu darlun mwy cywir o faint o laeth sydd ar gael, yr oedd y proseswyr eu heisiau. Bydd yn caniatáu iddynt gydweithio.

“Fodd bynnag, gallai ei effaith ar ffermwyr fod yn negyddol a rhaid gweithredu mesurau cymorth eraill ar frys. Wrth gwrs, mae angen gwybodaeth gywir arnom o faint o laeth sydd dros ben, ond gyda hynny daw'r perygl iddo gael effaith negyddol brisiau ar y pryd - y mae llawer o ffermwyr llaeth yn dibynnu arno.

“Felly er bod y cyhoeddiad hwn yn cael ei groesawu, gydag ewyllys da ar ran cwmnïau, mae risg y bydd yn chwarae i ddwylo’r cwmnïau hynny yr effeithir arnynt leiaf. Oni bai bydd y wybodaeth hon yn cael ei defnyddio i weithredu cynllun digolledu lleihau cyfaint, gallai achosi mwy o niwed nag o les.”

Er mwyn parhau â'i gwaith yn cefnogi'r diwydiant llaeth, mae'r FUW ochr yn ochr ag eraill, wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol George Eustice i bwysleisio na fydd yr un mesur yn darparu ateb cyflawn ar gyfer y cyfuniad unigryw hwn o amgylchiadau.

Mae'r llythyr yn gofyn yn benodol am:

Gynllun grant wedi'i dargedu ar gyfer y ffermwyr sy’n cael eu heffeithio sy'n debyg i'r Cynllun Grant Manwerthu a Lletygarwch;

Cynllun lleihau cynhyrchiant cenedlaethol gwirfoddol, sy’n cael ei ariannu’n llawn gan y Llywodraeth;

Ymgysylltu â Chomisiwn yr UE i gyflwyno mesurau cymorth marchnad, fel Cymorth Storio Preifat.

“Er bod hi’n sefyllfa o well hwyr na hwyrach, rhaid i’r Llywodraeth ddeall bod ffermwyr yn chwarae rhan hanfodol, nid yn unig yn cynhyrchu bwyd i’r genedl, ond cadw olwynion ein heconomi wledig i fynd.

“Mae’n bwysig cofio, am bob £100 sy’n cael ei gynhyrchu ar y fferm, mae £60 yn cael ei wario o fewn 7 milltir i’r fferm. Rydym yn parhau i dynnu sylw at effaith gynyddol trafferthion busnesau llaeth ar fusnesau eraill sy'n ddibynnol iawn ar amaethyddiaeth ac os bydd ein busnesau ffermydd llaeth yn methu - felly hefyd ein heconomi wledig,” ychwanegodd Dai Miles.