FUW yn annog siopwyr i ‘fod yn anturus ac yn ddewr - rhowch gynnig ar doriad newydd o Gig Oen neu Gig Eidion Cymru PGI a dewch â phrofiad y bwyty i’ch cartref’

‘Byddwch yn anturus ac yn ddewr - rhowch gynnig ar doriad newydd o Gig Oen a Chig Eidion Cymru PGI’ – dyna neges Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) Glyn Roberts wrth i’r argyfwng Coronofirws presennol greu helbul ymhlith y diwydiant.

Gyda newidiadau cynyddol ym mhatrwm prynu cwsmeriaid a’r sector cig eidion a chig oen Cymru yn dioddef yn sgil cau bwytai a chaffis oherwydd sefyllfa’r Coronavirus, anogir siopwyr i ddod â'r profiad o fwyta allan i’r cartref.

“Mae’n amser rhyfedd iawn ac mae’n anodd iawn i bawb. Mae ein diwydiant llaeth eisoes yn dioddef yn sgil bod y siopau coffi a chaffis ar gau ac nid yw ein sector cig eidion ac oen ymhell ar ôl.

“Er ein bod wedi gweld cynnydd yn y bobl sy'n prynu cig coch mewn naill ai archfarchnadoedd neu o'u cigydd lleol, briwgig a darnau man sy’n cael eu prynu yn bennaf. Mae'n dod yn broblem o ran cydbwysedd carcas gan nad yw'r toriadau o gig rydyn ni'n eu bwyta fel arfer mewn bwytai yn cael eu defnyddio.

“Gofynnaf felly i’n siopwyr fod yn anturus ac yn ddewr - dewch â’r profiad o fwyta allan i’ch cartrefi. Beth am noson stêc gyda Chig Eidion Cymru PGI gwych neu beth am wneud cyri eich hun gyda Chig Oen Cymru PGI?  Mae yna ryseitiau gwych ar gael, sy'n hawdd eu dilyn ac yn gyfle i’r teulu cyfan ddod ynghyd i baratoi swper.

“Os oes gyda chi ychydig o amser sbâr ar eich dwylo tra bod ni’n cydymffurfio gyda’r cyfyngiadau symud, beth am goginio chwip o bryd bwyd gan ddefnyddio cynnyrch cynaliadwy Cymreig.”