FUW yn annog pawb i barchu canllawiau'r Llywodraeth a’r Côd Cefn Gwlad

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) yn annog y cyhoedd i ddilyn canllawiau’r Llywodraeth a pharchu’r Côd Cefn Gwlad yn sgil yr argyfwng Coronafirws.

Ar ôl derbyn nifer o alwadau gan ffermwyr ynglŷn â’r cyhoedd yn cerdded ar draws tir fferm, gadael gatiau ar agor a gadael i’w cŵn redeg heb dennyn, mae Llywydd yr Undeb, Glyn Roberts, yn annog y cyhoedd i ddilyn y rheolau.

Wrth siarad o’i fferm yng Ngogledd Cymru, dywedodd Mr Roberts: “Nid oes unrhyw amheuaeth - mae llwybrau cyhoeddus a thir mewn sawl ardal boblogaidd ledled Cymru wedi bod ar gau er mwyn osgoi torfeydd yn ymgynnull, a hynny am reswm da iawn.

“Fodd bynnag, er gwaethaf arweiniad clir, rydym yn parhau i dderbyn galwadau gan aelodau bod y cyhoedd yn anwybyddu’r cyfyngiadau, gan adael gatiau ar agor a gadael i’w cŵn redeg yn rhydd ar dir sydd â da byw.

“Beth sy’n rhaid i’r cyhoedd ei gofio pan fyddant yn defnyddio llwybrau cyhoeddus sy’n croesi tir fferm, yw bod nhw’n cerdded trwy gartref a gweithle rhywun. Mae llawer o'n ffermwyr yn y categori bregus ac yn hunan ynysu tra hefyd yn gofalu am eu hanifeiliaid.

“Petai nhw'n mynd yn sâl, fydd neb i ofalu am eu hanifeiliaid a chynhyrchu'r bwyd rydyn ni gyd ei angen.”

 

Mae FUW yn apelio ar bobl, yn enwedig cerddwyr cŵn - i ddilyn rheolau'r Llywodraeth:

  • I beidio teithio - Gwnewch ymarfer corff yn yr awyr agored, yn agos at eich cartref
  • Ewch allan ar ben eich hunan neu gydag aelodau o’ch teulu
  • Cadwch 2 fetr oddi wrth eraill bob amser
  • Cofiwch fod angen golchi dwylo yn rheolaidd – mae gatiau, sticlau a strwythurau allanol arall yn cael eu cyffwrdd gan eraill yn rheolaidd
  • Peidiwch â gwneud unrhyw weithgareddau newydd neu beryglus- cadwch yn ddiogel yn ystod yr amser lle mae yna faich cynyddol ar ein gwasanaethau iechyd a brys
  • Dilynwch y Côd Cefn Gwlad- meddyliwch am ffermwyr ac eraill sydd yn gweithio'n galed i gadw stoc ar y silffoedd ac yn cynnal y rhwydweithiau
  • Cadwch cŵn ar dennyn bob amser

 

Gyda phenwythnos Gŵyl Banc y Pasg ar y trothwy, ychwanegodd Mr Roberts: “Cadwch at y pellter cymdeithasol bob amser, a dilynwch y Côd Cefn Gwlad. Rydym wedi cynhyrchu arwyddion postyn giât a phosteri yn atgoffa'r cyhoedd o'r rheolau a'r rheoliadau – ac mae modd eu lawrlwytho yma: 

Covid-19 Postyn Giât

Covid-19 Poster A4