Neges FUW i’r archfarchnadoedd: Rhaid amddiffyn hyfywedd tymor hir ffermydd teuluol yn ystod pandemig

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) wedi ysgrifennu at archfarchnadoedd y DU a Chonsortiwm Manwerthu Prydain yn gofyn iddynt sicrhau bod hyfywedd tymor hir ffermydd teuluol yn cael ei amddiffyn yn ystod pandemig Covid-19.

Daw'r alwad ar ôl i brisiau wrth gât y fferm gwympo’n ddramatig gan effeithio’n fawr ar gynhyrchwyr da byw a llaeth dros y deng niwrnod diwethaf o ganlyniad i newidiadau ym mhatrymau prynu cwsmeriaid a chau allfeydd y sector gwasanaeth bwyd fel caffis a bwytai.

Gostyngodd prisiau cig oen o chwarter ar gyfartaledd yn ystod penwythnos 21 a 22 Mawrth, tra bod llawer o broseswyr llaeth y DU wedi cyhoeddi toriadau sylweddol i'r hyn y maent yn ei dalu i gynhyrchwyr llaeth ac wedi gohirio taliadau am ddosbarthiadau llaeth.

“Mae lefelau uchel o ‘brynu panig’ wedi arwain at brinder sydyn iawn o rai bwydydd a silffoedd gwag,” meddai Llywydd FUW, Glyn Roberts.

Er bod hyn wedi amlygu’r pwysigrwydd i ddiogelu’r cyflenwad bwyd domestig, mae colli marchnadoedd y sector gwasanaeth bwyd fel caffis a siopau eraill, ynghyd â newidiadau yn y galw, wedi cynyddu anwadalrwydd y farchnad ac wedi arwain at ostyngiadau sylweddol yn y prisiau a delir i'r mwyafrif o gynhyrchwyr Cymru.”

Mae pwysau tebyg hefyd wedi effeithio ar farchnadoedd cig eidion, dywedodd Mr Roberts, gyda chwymp yn y galw am doriadau penodol yn gwthio prisiau lawr ar adeg pan oedd prisiau cig eidion eisoes ar lefelau anghynaladwy o isel am fwy na blwyddyn.

“Gydag ymyrraeth enfawr ar farchnadoedd domestig a byd-eang yn debygol o barhau am rai misoedd, a bwgan Brexit yn debygol o ychwanegu at yr ansicrwydd, mae’n hanfodol bod y ffermydd teuluol sy’n cyflenwi’r mwyafrif o fwyd i’r archfarchnadoedd yn derbyn prisiau cynaliadwy am eu cynnyrch, fel bod eu busnesau, sy’n parhau i gyflenwi bwyd yn y tymor hir, yn cael eu gwarchod”, meddai Mr Roberts.

Mae Mr Roberts yn cloi ei lythyr trwy ofyn am sicrwydd y bydd y sector yn gwneud popeth o fewn ei allu i sicrhau hyfywedd a chynaliadwyedd tymor hir y ffermydd teuluol a'r busnesau hynny sy'n hanfodol i ddiogelu cyflenwad bwyd y DU.