FUW yn croesawu mesurau brys Llywodraeth Cymru

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) wedi croesawu ystod o fesurau brys a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â’r Cynlluniau Taliad Sylfaenol a Glastir.

Yn unol â galwadau’r FUW, cyhoeddodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths heddiw (Ebrill 1) fod y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno Ffurflenni Cais Sengl wedi’i ymestyn o fis, i’r 15fed o Fehefin.

Mewn ymateb i bryderon a godwyd ynghylch gofynion tyfu amrywiaeth o gnydau yn dilyn y llifogydd diweddar a'r pwysau a'r ansicrwydd ychwanegol oherwydd y pandemig coronafirws, cadarnhaodd hefyd ei bod yn tynnu’r gofyniad yn gyfan gwbl ar gyfer Taliad Sylfaenol 2020.

Mae £5.5m ychwanegol o gymorth ar ffurf benthyciad hefyd ar gael i gefnogi ffermwyr sydd heb dderbyn eu taliadau sengl 2019 a/neu Glastir.

Wrth ymateb i’r cyhoeddiad, a llythyr oddi wrth y Gweinidog yn diolch i’r undebau amaethyddol, eu staff a’u haelodau am eu gwaith yn sicrhau bod y gadwyn cyflenwi bwyd yn parhau, dywedodd Llywydd FUW, Glyn Roberts:

“Rydyn ni wedi bod yn lobïo dros y newidiadau a’r ymyriadau hyn ers rhai wythnosau bellach, felly rydyn ni’n croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i’w gweithredu.

“Rydym mewn trafodaethau dyddiol gyda Llywodraeth Cymru ynghylch cyflwyno newidiadau eraill o bosib, i sicrhau bod ein diwydiant a’n ffermydd teuluol yn parhau i fod yn hyfyw ac yn gallu parhau i gynhyrchu bwyd yn y tymor byr a'r tymor hir."

Dywedodd Mr Roberts fod yr undeb hefyd wedi bod mewn trafodaethau cadarnhaol yn ddiweddar gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart, pan godwyd ystod o bryderon.