COVID-19: Paratoi ar gyfer Covid-19

O ystyried nifer yr achosion o Covid-19 yn fyd-eang, mae'n bwysig bod pob busnes fferm yn barod am y posibilrwydd y bydd aelodau o'r teulu neu weithwyr y fferm yn dal y firws. Os fydd y gwaethaf yn digwydd, bydd y ffaith bod yna fesurau priodol ar waith yn help i leihau'r effaith ar eich busnes fferm. Mae sawl cynllun ar gael a allai fod o help i ddod o hyd i wirfoddolwyr i ymgymryd â gwaith y fferm os fydd rhywun o'r fferm yn mynd yn sâl ac mae'r rhain yn cael eu rhestru ar ddiwedd y ddogfen.

Bydd cytuno ar gynllun gweithredu cyn i rywun fynd yn sâl yn helpu i leddfu straen ac yn helpu'r busnes fferm i weithredu'n fwy effeithlon nes bod pethau'n dychwelyd i normal. Dylai'r cynllun gynnwys pwy fydd yn cymryd awenau’r busnes fferm a pha waith sydd angen blaenoriaeth.

Mae'r FUW yn darparu rhestr wirio er mwyn paratoi ar gyfer Covid-19 a thempled cynllun paratoi fferm i helpu i darfu cyn lleied â phosib ar fusnesau pe bai angen gwirfoddolwyr neu'r rhai sy'n llai cyfarwydd ag arfer cyfredol y fferm i weithio ar y fferm.

 

Rhestr Wirio Covid-19 FUW

1 Blaenoriaethu

Cyn i Covid-19 gael effaith ar y fferm, rhowch flaenoriaeth i’r gwaith sydd angen ei wneud. Rhestrwch yr hanfodion sydd angen eu gwneud yn nhrefn blaenoriaeth a, lle bo hynny'n briodol, diweddarwch y rhestr yn fisol i gynnwys newidiadau tymhorol mewn arferion y fferm. Gadewch waith sydd ddim yn hanfodol nes bod busnes y fferm nôl i normal. Efallai y bydd angen i chi feddwl faint o ddyddiau y bydd angen gwirfoddolwr neu gynorthwyydd i weithio ar y fferm a bydd hyn yn cynnwys ymgymryd â thasgau ailadroddus fel bwydo anifeiliaid.

2 Siaradwch

Trafodwch eich cynllun gydag eraill o fewn busnes y fferm. Gwnewch restr o gysylltiadau allweddol y bydd angen eu hysbysu os bydd yna achos o Covid-19. Dylai'r rhain gynnwys milfeddyg y fferm, contractwyr, cyflenwyr, cwmnïau nwy/trydan/olew, cyfrifydd y fferm, cneifwyr, ffrindiau a theulu. Gall eich swyddfa sir FUW hefyd ddarparu help a chymorth yn ystod yr amser hwn.

3. Helpwch y Cynorthwy-wyr

Mae'n bwysig bod cyfleusterau golchi dwylo a chitiau diheintio ar gael i wirfoddolwyr sy'n gweithio ar eich fferm. Meddyliwch am y gwaith bydd angen ei wneud, a dywedwch lle mae offer pwysig ar gyfer y gwaith megis cyfleusterau golchi dwylo, allweddi, tapiau, meddyginiaethau, diheintyddion, cemegau ac unrhyw eitemau eraill fydd cynorthwy-ydd fferm angen. Sicrhewch fod yr holl ddogfennau a gwybodaeth bwysig am y fferm ar gael yn hawdd. Dylai hyn gynnwys y rhestr o waith pwysig, eich cysylltiadau fferm, llyfr meddygaeth y fferm, cynllun iechyd y fuches neu'r ddiadell, rhestr o’r tir lle mae’r da byw ac ati.

 

 

Cynllun Paratoi Fferm Covid-19 FUW

 

Nodwch, cyn y gall gwirfoddolwr ymweld â'ch fferm, rhaid bod gennych Yswiriant Atebolrwydd Cyflogwr ac Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus cyfredol a dilys. Cliciwch yma i gysylltu â'ch swyddfa Gwasanaethau Yswiriant FUW leol i sicrhau bod yr yswiriant cywir gyda chi.

 

 

Gwasanaeth Paru Sgiliau Lantra

Mae Gwasanaeth Paru Sgiliau Lantra yn cysylltu busnesau gyda darpar weithwyr. Cliciwch yma i weld y Gwasanaeth Paru Sgiliau ar gyfer Busnesau.

Cliciwch yma i weld y cwestiynau cyffredin ynglŷn â’r gwasanaeth.

 

Menter Mon a Conwy Cynhaliol

Mae gan raglen Menter Mon yn Ynys Môn a Gwynedd linell gymorth bwrpasol ar gyfer y rhai sydd angen cefnogaeth ymarferol ar y fferm yn ystod Covid-19. Dylai aelodau sydd am ddefnyddio’r gwasanaeth hwn ffonio 07739 948883 neu e-bostio This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it.

Bydd y rhaglen yn cysylltu â gwirfoddolwr sydd wedi cofrestru ar ei gronfa ddata. Bydd y gwirfoddolwr yn cysylltu â chi i gael mwy o wybodaeth ac arweiniad ar yr hyn sydd angen ei wneud. Fel rhan o'r rhaglen, gofynnwch am y gwaith mwyaf sylfaenol a phwysig YN UNIG gael ei wneud.

Mae’r gwasanaeth yma ar gael yng Nghonwy hefyd drwy - Conwy Cynhaliol. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Rhys Evans 01492 576671/07733 013 328 neu This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it.

 

 

Gwybodaeth bwysig i’n haelodau a chwsmeriaid

Ar hyn o bryd mae'r holl staff yn gweithio o bell, sy'n golygu bod ein tîm yn parhau gyda'r union un gwasanaeth ond, yn hytrach dros y ffôn/e-bost/skype neu ddulliau eraill o gyfathrebu o bell.

Dylai aelodau a chwsmeriaid barhau i gysylltu gyda ni yn yr un modd ag arfer, gellir cysylltu â’r staff trwy ddefnyddio’r rhifau ffôn arferol.  

Byddwn yn sicrhau bod safon ein gwasanaethau yn parhau. Caiff apwyntiadau SAF/IACS barhau fel yr arfer ond fe cant eu gwneud dros y ffôn. 

 

 

Linciau pwysig ynglŷn â'r Coronafeirws: