Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Meirionnydd - rhaid i ffermio fanteisio ar y dyfodol yn gadarnhaol

Mae gan ffermio stori wych i’w hadrodd ac mae’n rhaid manteisio ar y dyfodol yn gadarnhaol, dyna oedd y neges allweddol yng nghyfarfod cyffredinol blynyddol cangen Sir Meirionnydd o Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) yn ddiweddar.

Roedd y digwyddiad, a gynhaliwyd yn Neuadd y Parc, ger y Bala ar ddydd Gwener Ionawr 31, yn canolbwyntio ar 'Cig Coch - yr 20 mlynedd nesaf' ac ar ôl diweddariad ar weithgaredd y sir dros y flwyddyn ddiwethaf, clywodd y gynulleidfa gan Dewi Williams o ladd-dy Cig Eryri yn Ffestiniog; Gwyn Howells - Hybu Cig Cymru; Wyn Williams - Dunbia; a Rhys Davies – Farmers Marts.

Dywedodd Huw Jones, Swyddog Gweithredol Sirol FUW Meirionnydd: “Hoffwn ddiolch i siaradwyr y panel am eu cyfraniadau gwych. Roedd hi'n noson ddiddorol iawn ac yn sicr fe wnaeth amseriad y digwyddiad ei gwneud yn achlysur hanesyddol i ni yma yn y sir.

“Wrth siarad am ddyfodol ein diwydiant ar y noson yr oeddem yn gadael yr UE ar ôl 47 mlynedd, yn sicr bu yna drafod a sgwrsio diddorol.

“Prif neges y noson oedd bod gan y diwydiant amaethyddol yng Nghymru stori dda i’w hadrodd a bod yn rhaid i ni edrych ymlaen at y dyfodol yn hyderus ac yn gadarnhaol o ystyried y newidiadau a’r heriau anochel sy’n wynebu’r diwydiant.”