Llywydd FUW yn amlinellu pryderon allweddol y sector llaeth cyn Sioe Laeth Cymru

Amlinellodd Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru (FUW), Glyn Roberts, bryderon allweddol sy’n wynebu’r sector llaeth cyn y Sioe Laeth Cymru flynyddol mewn digwyddiad arbennig a gynhaliwyd ym Marchnad Da Byw Caerfyrddin (dydd Llun, 28 Hydref, 2019).

Mewn araith yn annerch y diwydiant, rhoddodd Glyn Roberts ffocws cryf ar enw da'r diwydiant, Brexit a TB.

“Mae'r diwydiant llaeth yn parhau yng nghanol sylw negyddol y cyhoedd gydag amrywiol o sefydliadau hawliau fegan ac anifeiliaid yn mynegi teimladau gwrth-ffermio. 

“Ni ellir anwybyddu cynnydd feganiaeth a dewisiadau amgen llaeth ar sail planhigion, felly wrth i'r ymgyrch yn erbyn llaeth gynyddu, gadewch i mi ddweud hyn: Heb os nac oni bai, mae ein safonau iechyd a lles anifeiliaid ymhlith y gorau yn y byd.

“Ac mae cynnwys maethol ein cynnyrch llaeth yn eu gwneud yn rhan hanfodol o'r diet modern.”

Dywedodd Mr Roberts yn glir bod gwahardd defnyddio’r term ‘llaeth’ ar gyfer rhai dewisiadau amgen sy’n seiliedig ar blanhigion yn gam i’r cyfeiriad cywir, ond rhybuddiodd bod rhaid i ni sicrhau bod y DU yn cadw at y penderfyniad hwn ar ôl i ni adael yr UE.

“Mae’n rhaid i ni hefyd barhau i sicrhau nad yw cwsmeriaid yn cael eu camarwain gan labelu anghywir neu wybodaeth eithafol. I'r perwyl hwnnw, bydd yr Undeb hon yn parhau i ymladd dros ein ffermwyr llaeth yma yng Nghymru.  Byddwn yn parhau i gymryd safbwynt rhagweithiol ac yn sicrhau bod pawb yn gwybod pam mai ein diwydiant llaeth ni yw'r gorau,” dywedodd.

Gyda Brexit yn agosáu’n gyflym dywedodd Llywydd yr Undeb ei fod ef, fel llawer o rai eraill, yn poeni am yr hyn a fydd yn digwydd, nid yn unig i'r diwydiant llaeth yma yng Nghymru, ond i amaethyddiaeth ledled y DU.

“Mae breuder cadwyn gyflenwi llaeth presennol Cymru yn fwy amlwg nag erioed, wrth golli prosesydd llaeth mawr yng Nghymru yn ddiweddar.  Mae'r anghydbwysedd pŵer presennol yn y gadwyn gyflenwi llaeth yn golygu bod ein cynhyrchwyr yn fregus iawn.

“Ni allwn barhau i weithredu mewn system lle mae manwerthwyr yn defnyddio llaeth fel ‘abwyd’.  Mae llaeth yn nwydd gwerthfawr a dylid talu cynhyrchwyr llaeth yn briodol am y llaeth o ansawdd uchel sy’n cael ei gynhyrchu,” dywedodd Glyn Roberts.

Gan droi ei sylw at yr argyfwng TB parhaus, dywedodd wrth y rhai oedd yn bresennol bod ymchwil ddiweddar yn parhau i gefnogi safbwynt FUW na all mesurau rheoli gwartheg yn unig ddatrys y broblem TB yng Nghymru.

“Mi wnaeth astudiaeth a gyhoeddwyd yn ‘Scientific Reports’ y mis hwn asesu effeithiau go iawn y difa 4 blynedd yn Swydd Gaerloyw a Gwlad yr Haf rhwng 2013-2017. Mae'r canlyniadau'n dangos bod difa yn lleihau lefel y TB mewn gwartheg,” dywedodd Glyn Roberts.

Dywedodd hefyd, bedair blynedd ar ôl cyflwyno difa moch daear, gostyngodd lefel TB mewn gwartheg 66% yn Sir Gaerloyw a 37% yng Ngwlad yr Haf.

“Hefyd, ni ddangosodd y data presennol ar ymyl yr ardaloedd difa unrhyw effeithiau aflonyddu a gwasgaru negyddol.  Mae diwydiant gwartheg Cymru yn parhau i weithredu o dan faich trwm o reolaethau gwartheg sydd eto i gael effaith sylweddol ar lefelau TB mewn gwartheg.

“Lladdwyd dros 12,300 o wartheg yng Nghymru yn y flwyddyn a ddaeth i ben Mehefin 2019. Yr uchaf ar gofnod.

“Credwn y dylid newid polisi TB Cymru a sefydlu polisi difa moch daear sydd wedi'i brofi'n wyddonol ac sy'n dysgu gwersi o'r strategaeth a ddefnyddir gan Defra yn Lloegr,” dywedodd.

Wrth edrych i'r dyfodol, dywedodd Glyn Roberts bod gan ddiwydiant llaeth Cymru ddigon o bethau da i frolio amdanynt a bod ein ffermwyr yn cynhyrchu bwyd o’r safon uchaf sy'n cael ei gydnabod ledled y byd.

“Yn wir mae yna lawer o ffermwyr yn yr ystafell yma heno sydd wedi cael eu cydnabod am eu cynnyrch gwych gyda gwobrau mawreddog a haeddiannol.

“Mae’r dyfodol yn edrych yn ansicr ond gallaf eich sicrhau, bydd yr FUW yn parhau i dynnu sylw at pam mae amaethyddiaeth mor bwysig ac yn parhau i ymladd dros ffermwyr Cymru,” dywedodd.