Stopio prosesu cig eidion yn Llanidloes yn ergyd arall i'r diwydiant, meddai FUW

Mae stopio prosesu cig eidion yn Llanidloes wedi cael ei ddisgrifio fel ergyd arall i’r diwydiant gan Undeb Amaethwyr Cymru (FUW).

Wrth siarad o’i fferm yng Ngogledd Cymru, dywedodd Llywydd FUW, Glyn Roberts: “Rydyn ni’n deall yn llwyr resymau economaidd Randall Parker Foods dros stopio prosesu cig eidion ar y safle yn Llanidloes. Fodd bynnag, mae'n newyddion drwg i'n ffermwyr.

“Rhaid i ni deithio ymhellach eto a bydd yn ddrytach i gynhyrchwyr fynd â gwartheg i ladd-dy ymhellach i ffwrdd. Yn ogystal, bydd yr ardoll ar gyfer y cig eidion sy'n mynd dros y ffin yn aros yn Lloegr, sy'n ergyd ddwbl.

“Wrth symud ymlaen, mae angen i ni edrych yn ofalus ar gyfleusterau prosesu yma yng Nghymru, er mwyn sicrhau ei fod yn gweithio i ddefnyddwyr sy'n ymwybodol o'r amgylchedd, proseswyr ac, wrth gwrs, cynhyrchwyr.”