Gweinidog Brexit Cymru yn clywed mae ‘Ffermio yw’r ateb i newid yn yr hinsawdd a’r argyfwng bwyd’

Mae ffermwyr eisiau cynhyrchu bwyd cynaliadwy a gofalu am yr amgylchedd, dyna oedd neges y ffermwr da byw 3ydd genhedlaeth Hywel Davies pan gyfarfu â Gweinidog Brexit Cymru, Jeremy Miles AC.

Mae Hywel Davies yn ffermio Fferm Perthigwion, Rhydfro, Pontardawe, Abertawe, sydd wedi bod yn y teulu ers 1952, ac mi ddangosodd sut y gall, ac mae cynhyrchu bwyd a gofalu am yr amgylchedd yn mynd llaw yn llaw.

Mae'n berchen ar 250 erw ac yn rhentu 130 erw, gan gadw tua 1000 o ddefaid, 42 o fuchod â lloi ynghyd â magu tua 35 o hyrddod y flwyddyn er mwyn eu gwerthu. Mae gan y fferm hefyd hawliau i bori dau dir comin ac mae'n rhan o Gynllun Glastir Uwch.

Wrth siarad ar ei fferm, dywedodd Hywel: “Fi yw’r 3ydd genhedlaeth i ffermio’r tir hwn. Mae’r lle’n golygu llawer i mi ac rwy'n poeni sut mae ein bwyd yn cael ei gynhyrchu. Rydym yn gwybod ers cenedlaethau, os edrychwn ar ôl yr amgylchedd, y bydd yr amgylchedd yn gofalu amdanom ni.

“Felly mae’n fy mhoeni bod 40% o’r bwyd sy’n cael ei fwyta yn y wlad hon yn cael ei fewnforio a bod un rhan o bump o’r bwydydd ffres sy’n cael eu mewnforio yn dod o ardaloedd sydd dan fygythiad o anhrefn hinsawdd.”

Mae Hywel wedi bod yn ymwneud â Coed Cymru a'r Comisiwn Coedwigaeth ers 1988 yn ogystal â chymryd rhan mewn amrywiol gynlluniau cadwraeth ac adfywio sy'n mynd llaw yn llaw â chynhyrchu bwyd. Ychwanegodd:

“Mae’n rhaid i lywodraethau sylweddoli mai ffermwyr yma yng Nghymru yw’r ateb i’r broblem honno. Rydym yn cefnogi marchnadoedd da byw lleol, yn cynnal yr economi wledig leol, yn cefnogi swyddi lleol, yn ogystal â chynhyrchu bwyd o'r radd flaenaf. Ond o edrych ar y sefyllfa ar hyn o bryd, rwy'n poeni am ddyfodol ein sector.

“Edrychwch ar y pris am wlân defaid - mae’n costio £600 i gontractwr gneifio’r defaid a dim ond £200 yr ydym yn ei dderbyn gan y Bwrdd Gwlân. Cawsom £1.50kg am oen ym Marchnad Pontsenni'r wythnos diwethaf, ac eto roedd y pris yn £1.80kg yr wythnos flaenorol.

“Mae’n ymddangos bod pris nwyddau yn gostwng yn gyflym. Ac ie, ar hyn o bryd allwn ni bron dderbyn hynny, ond beth sy'n digwydd pan nad oes gennym farchnadoedd i werthu iddynt ymhen 4 wythnos neu pan fyddwn yn wynebu tariffau sy'n ei gwneud yn amhosibl parhau i gynhyrchu bwyd neu orfod delio â rheoliadau pellach sy'n ein hatal rhag cynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy? Heb sôn am y posibilrwydd go iawn o gefnogaeth uniongyrchol yn diflannu.

“Beth fydd yn digwydd os bydd yn rhaid i ni ddewis rhwng cynhyrchu bwyd a phlannu coed? Os yw tyfu coed yn dod yn fwy hyfyw yn ariannol, ble mae hynny'n gadael cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy? Neu a fyddwn yn hapus i gynyddu ein mewnforion bwyd, a chyda hynny ein hallyriadau nwyon tŷ gwydr?

“A ydym yn mynd i gyflawni'r hyn yr oeddem yn bwriadu ei wneud - lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a bwydo'r genedl - trwy gefnogi gwledydd sy'n cynhyrchu bwyd i safonau a fyddai'n anghyfreithlon yn y wlad hon ac yn gwneud ein hunain hyd yn oed yn fwy agored i gynnydd a dirywiad prisiau a diogelwch bwyd byd-eang? Yr ateb yw na.”

Ar wahân i boeni am gynaliadwyedd y busnes fferm, mae Hywel hefyd yn ymwybodol ac yn poeni am ôl troed amgylcheddol y fferm. Yn awyddus i ddarparu ynni gwyrdd er budd yr amgylchedd a chynhyrchu incwm arall i'r fferm, prynodd y teulu dyrbin gwynt ym mis Tachwedd 2012.

“Rydyn ni bob amser yn chwilio am ffyrdd i gyfrannu’n gadarnhaol at natur, gan edrych ar ffyrdd i fod yn lanach ac yn wyrddach. Dyna pam wnaethon ni fuddsoddi yn y tyrbin gwynt. Y broblem nawr yw nad ydym yn gwybod beth i'w wneud â'n plastig fferm. Arferai Birch Farm Plastics ei gasglu i'w ailgylchu ond nawr mae'n rhaid i ni ei anfon i safleoedd tirlenwi. Nid yw hynny'n iawn gyda ni ac rydym yn gobeithio y gellir gwneud rhywbeth yn ei gylch cyn gynted â phosibl,” meddai Hywel Davies.

Ychwanegodd Llywydd FUW, Glyn Roberts: “Mae'r DU i fod i gyflawni allyriadau sero-net erbyn 2050, ac eto mae ein system fwyd yn fregus ac yn cael ei dominyddu gan gadwyni cyflenwi byd-eang cymhleth. Mae gan ein ffermwyr y wybodaeth, y sgil, a'r parodrwydd i gynhyrchu bwyd cynaliadwy, sy'n gweithio’n berffaith â'r amgylchedd ond mae angen caniatáu iddynt wneud eu gwaith.

“Os ydym am achub yr amgylchedd a bwydo’r genedl, gadewch i ni ganolbwyntio ar fwyd sydd wedi’i gynhyrchu’n lleol; bwyd sydd wedi'i gynhyrchu mewn ffordd gynaliadwy ac ecogyfeillgar.

“Dim ond yn ddiweddar y mae’r pwyllgor archwilio amgylcheddol wedi galw ar Lywodraeth y DU i nodi cynllun clir ar gyfer sut y gallai cyflenwadau bwyd y DU gael eu hamddiffyn rhag argyfwng hinsawdd ac egluro sut y gallai Brexit effeithio ar fwyd, yn ogystal â gofyn i Weinidogion sicrhau bod bwyd yn cael ei ddarparu gan y Llywodraeth yn “gynaliadwy yn ddiofyn”.

“Pam nad ymdriniwyd â hyn eto? Mae gennym 4 wythnos cyn fydd y DU yn gadael yr UE ac nid oes unrhyw beth yn cael ei ddatrys. Nid gyda Brwsel, nid gyda gweddill y byd ac yn sicr nid yma gartref.

“Ydy mai’r sefyllfa’n gymhleth ond mae gan ffermwyr yr ateb i newid yn yr hinsawdd a’r argyfwng bwyd sydd ar ddod. Mae'n hen bryd bod llywodraethau yn gwrando.”