Cytundeb Brexit 'Anghofiedig' yw'r opsiwn gorau o hyd i gefn gwlad Cymru meddai FUW

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) wedi dweud wrth gynhadledd ar ddyfodol cefn gwlad Cymru, ni ddylid anghofio'r opsiwn o adael yr UE wrth barhau o fewn y farchnad sengl a'r undeb tollau, a dyma'r ffordd orau i barchu canlyniad y refferendwm ac atal difrod i'n heconomi a'n cymunedau gwledig.

Wrth annerch digwyddiad Cymunedau Gwledig Cynaliadwy ar ôl 2020 Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, dywedodd Llywydd FUW, Glyn Roberts:

“Dywedir wrthym fod cytundeb ar y bwrdd - cytundeb Brexit Theresa May - a bod gennym ddewis rhwng hyn, cytundeb newydd os daw un, a Brexit heb gytundeb.

"Ond mae cytundeb arall ar y bwrdd a gafodd ei hyrwyddo gan yr FUW yn fuan ar ôl y refferendwm ac y mae gwleidyddion yr UE wedi cyfeirio ato dro ar ôl tro fel y dewis orau:

"Dyna'r opsiwn i anrhydeddu'r refferendwm - trwy adael yr UE - ond aros o fewn y Farchnad Sengl a'r Undeb Tollau er mwyn atal difrod aruthrol i'n heconomi ac yn benodol i'n cymunedau gwledig."

Wrth siarad ar ôl y digwyddiad, dywedodd Mr Roberts er bod rhai yn dehongli'r refferendwm fel gorchymyn i adael yr undeb tollau a'r farchnad sengl, roedd yn credu bod dehongliad o'r fath yn annilys.

“Ni ellir honni o dan unrhyw amgylchiadau bod y mwyafrif wedi pleidleisio o blaid difrod eithafol Brexit heb gytundeb.

“I'r gwrthwyneb, rhwng y rhai a bleidleisiodd yn erbyn gadael yr UE a'r rhai oedd yn credu bod nhw’n pleidleisio am ffurfiau meddalach o Brexit, credaf fod mwyafrif clir o blaid cynnal perthynas agos â marchnad gefnog yr UE y mae cannoedd o filoedd o'n busnesau yn dibynnu arno."

Dywedodd Mr Roberts fod gwleidyddion a gyhuddodd y rhai sydd am ddod allan o’r UE gyda chytundeb yn hytrach nag amserlen synhwyrol o rwystro Brexit yn camarwain y cyhoedd ac yn rhannu’r gymdeithas yn fwriadol.

“Rydyn ni wedi derbyn yr angen i anrhydeddu’r refferendwm, felly mae’n hollol anonest ac yn fwriadol gynhennus i’n cyhuddo o fradychu canlyniad refferendwm trwy eisiau osgoi Brexit diofal gyda goblygiadau trychinebus a fyddai’n effeithio ar genedlaethau i ddod," ychwanegodd.