FUW yn cynnal digwyddiadau ymgynghori ar gynlluniau Cynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) yn cynnal cyfarfodydd ledled Cymru i aelodau ac eraill sydd â diddordeb mewn trafod ymgynghoriad Ffermio Cynaliadwy a’n Tir Llywodraeth Cymru.

Mae'r ymgynghoriad, a lansiwyd gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Lesley Griffiths ym mis Gorffennaf, yn amlinellu cynigion ar gyfer cefnogaeth fferm a gwledig yn y dyfodol sydd wedi'u hadolygu yng ngoleuni'r sylwadau a dderbyniwyd mewn ymateb i ymgynghoriad Brexit a'n Tir 2018.

Mae'n cynnig y dylid cynllunio cefnogaeth yn y dyfodol o amgylch egwyddor cynaliadwyedd mewn ffordd sy'n dwyn ynghyd y 'cyfraniad economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol eang ac arwyddocaol neu ffermwyr', trwy un Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn seiliedig ar yr egwyddorion o ddarparu cynllun ystyrlon a llif incwm sefydlog; gwobrwyo canlyniadau mewn ffordd deg; talu am arferion cynaliadwy newydd a phresennol; a hyblygrwydd sy'n caniatáu iddo fod yn berthnasol i bob math o fferm.

Dywedodd Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Glyn Roberts: “Rydym yn croesawu’r ffaith bod y ddogfen ymgynghori yn cydnabod llawer o’r pryderon a godwyd gan ymatebwyr i ymgynghoriad Brexit a’n Tir llynedd, ac yn canolbwyntio ar ffermwyr a chynhyrchwyr bwyd.

“Mae pryderon a amlygwyd gan FUW y llynedd ynghylch peryglon gosod amserlen sefydlog a bwrw ymlaen gyda chynigion ar adeg o ansicrwydd llwyr ynghylch Brexit a’i effeithiau, ac ymgymryd ag asesiadau manwl ac asesiadau economaidd o gynigion cyn dod i unrhyw benderfyniad, hefyd yn ymddangos bod nhw wedi cael eu hystyried.”

Dywedodd Mr Roberts y byddai’r gydnabyddiaeth hon a naws ymgynghorol y ddogfen yn helpu i drafod y cynigion gyda’r diwydiant ac yn annog ffermwyr i ymuno â FUW yn ei chyfarfodydd ymgynghori.

“Er ein bod yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn ymestyn y cyfnod ymgynghori, nes ein bod wedi cael cadarnhad clir bod hyn yn wir, byddwn yn gwneud ein gorau i sicrhau bod ffermwyr yn deall y cynigion.

“Byddwn felly yn annog unrhyw un sydd â diddordeb yn nyfodol amaethyddiaeth, a'n heconomi wledig i ymuno â ni yn un o'n cyfarfodydd i drafod yr hyn sy'n cael ei gynnig,” ychwanegodd Glyn Roberts.

Felly, trefnwyd digwyddiadau i drafod y ddogfen ymgynghori yn fanwl ar y dyddiadau a'r lleoliadau a ganlyn ac fe'u noddir gan Fanc HSBC:

SIR

DYDDIAD

LLEOLIAD AC AMSER DECHRAU

Dinbych a Fflint

Llun Medi 16 

Theatr Ddarlithio, Coleg Llysfasi, LL15 2LB, 7.30yh

Caernarfon

Mercher Medi 18 

Coleg Glynllifon, LL54 5DU, 7.30yh

Ynys Môn

Gwener Medi 20 

Pafiliwn Maes Sioe Môn, LL65 4RW, 7.30yh

Sir Benfro

Llun Medi 23 

Gwesty Nantyffin, Llandissilio, SA66 7SU, 7.30yh

Ceredigion        

Mercher Medi 25 

Clwb Rygbi Aberaeron, SA46 0JR, 7.30yh

Sir Gaerfyrddin

Gwener Medi 27 

Tafarn White Hart, Llandeilo, SA19 6RS, 7.30pm

Gwent

Mawrth Hydref 1

Canolfan Da Byw Sir Fynwy, Rhaglan, NP15 2BH, 7.30yh

Morgannwg

Mercher Hydref 2 

Clwb Golff The Grove, Porthcawl, CF33 4RP, 7.30yh

Brycheiniog a Maesyfed

Gwener Hydref 4 

Pafiliwn FUW, Llanelwedd, LD2 3NJ, 7yh

Meirionnydd

Llun Hydref 7

Clwb Rygbi Dolgellau, Marian Mawr Enterprize Park, Dolgellau LL40 1UU; 7.30yh

Sir Drefaldwyn

Mercher Hydref 9

Gwesty Elephant & Castle, Broad St, Y Drenewydd SY16 2BQ; 7.30yh