Ffermwyr Sir Ddinbych a Sir y Fflint yn annog gwleidyddion i ohirio dyddiad cau ymgynghoriad Ffermio Cynaliadwy a’n Tir

Mae ffermwyr o Sir Ddinbych a Sir y Fflint wedi codi pryderon ynghylch amseriad ymgynghoriad Ffermio Cynaliadwy a’n Tir gyda gwleidyddion, gan gynnwys Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Lesley Griffiths, yn y sioe sir leol (dydd Iau 15 Awst).

Amlygodd Swyddog Gweithredol Sir Ddinbych a Sir y Fflint FUW, Mari Dafydd Jones, fod Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) wedi codi pryderon ers dechrau mis Gorffennaf ynghylch y gwrthdaro rhwng dyddiad cau'r ymateb (30 Hydref) a’r dyddiad y bydd y DU yn gadael yr UE (31 Hydref).

Dywedodd: “Mae FUW wedi croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i adolygu’r dyddiad cau, fodd bynnag, o ystyried penderfyniad Llywodraeth y DU i fynd â’r DU allan o’r UE ar ddiwedd mis Hydref, gyda neu heb gytundeb, mae ein haelodau bellach yn credu bod hi’n hanfodol bod y dyddiad cau yn cael ei estyn.”

Yn siarad yn y sioe ar ôl cyfarfod â Mrs Griffiths, dywedodd cadeirydd cangen FUW Sir Ddinbych, Dylan Roberts: "Mae aelodau yma yn Sir Ddinbych yn rhannu pryderon Llywodraeth Cymru ynghylch effeithiau Brexit heb gytundeb ac yn croesawu'r ymrwymiad i gefnogi amaethyddiaeth.

"Ond o ran yr ymgynghoriad Ffermio Cynaliadwy a'n Tir, mae gennym bryderon mawr oherwydd bod y gwrthdaro rhwng y dyddiad cau ar 30 Hydref a'r dyddiad yr ydym i fod i adael yr UE, yn mynd i ddominyddu sylw ffermwyr ledled y wlad. Ni fydd eu sylw nhw ar y ddogfen ymgynghori bwysig hon.”

Ychwanegodd Melvyn Vaughan, cadeirydd cangen FUW Sir y Fflint: "Rydym yn pryderu am gwymp y marchnadoedd allforio, prinder cyffuriau, a'r effeithiau ar borthladdoedd Cymru mewn sefyllfa o ddim cytundeb ac mae hynny'n golygu ei bod yn debygol iawn wrth i 31 Hydref agosáu, bydd sylw ein haelodau, a fyddai fel arfer yn ystyried cynigion Ffermio Cynaliadwy a’n Tir, ar eu busnesau fferm eu hunain wrth iddynt gynllunio am y dyfodol.

"Oherwydd ein bod ni am roi sylw teilwng i'r papur ymgynghori, byddai oedi’r dyddiad cau am nifer o fisoedd yn cael ei groesawu’n fawr."