DPJ Foundation yw elusen nesaf FUW

Mae’r gymuned amaethyddol yn bwrw ymlaen â phethau, ddim yn dangos teimladau yn aml, nac yn rhannu'r baich. Gall llawer fod yn cuddio problemau oddi wrthynt hwy eu hunain, eu teuluoedd a'u ffrindiau ac mae siarad am deimladau personol yn anghyfforddus i lawer.

Wrth gydnabod y broblem, addawodd Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) yn Sioe Frenhinol Cymru 2017 i godi ymwybyddiaeth o broblemau iechyd meddwl mewn cymunedau gwledig ac i barhau â'r sgwrs am y materion ehangach sy'n ymwneud ag iechyd meddwl mewn ardaloedd gwledig.

Felly roedd Llywydd FUW Glyn Roberts yn falch o gyhoeddi mae DPJ Foundation, elusen iechyd meddwl sy'n ceisio cefnogi pobl mewn cymunedau gwledig sydd â phroblemau iechyd meddwl, yn enwedig dynion yn y sector amaethyddol, sydd wedi cael ei ddewis fel elusen Llywydd FUW ar gyfer 2019 - 2021.

Wrth siarad yn Sioe Frenhinol Cymru, dydd Mercher 24 Gorffennaf, dywedodd: “Bydd 1 o bob 4 person yn dioddef o broblemau iechyd meddwl yn ystod eu hoes, nid yw'n salwch anghyffredin ac mae'n rhaid i ni weithio gyda'n gilydd i fynd i'r afael ag ef.

“Yn drist iawn, amaethyddiaeth sydd â'r gyfradd uchaf o hunanladdiad uwchlaw unrhyw alwedigaeth arall. Mae pryderon am y tywydd cyfnewidiol, clefydau anifeiliaid, taliadau cymorth ac effaith Brexit yn pwyso’n drwm ar feddyliau llawer o ffermwyr ledled Cymru.

“Ynghyd ag unigrwydd ac unigedd ffermio, mae hynny'n golygu bod ffermwyr a gweithwyr amaethyddol yn agored iawn i les meddyliol gwael.

“Gallai methu â delio â hynny arwain at bob math o faterion, megis rhedeg y fferm yn aneffeithlon, anaf difrifol, perthynas yn chwalu, iechyd corfforol gwael a, hyd yn oed yn waeth, yn medru arwain at hunanladdiad.

“Mae’n bwysig cofio bod 16.7% o'r boblogaeth wedi meddwl am wneud niwed i’w hunain, ac yn 2014 bu farw 6,581 trwy hunanladdiad yn y DU, dair gwaith a hanner yn fwy nag ar ffyrdd y DU. Dyna pam mae gwaith DPJ Foundation mor bwysig ac rydym yn edrych ymlaen at gefnogi eu hymdrechion dros y 2 flynedd nesaf.”

Wrth ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd Emma Picton-Jones: “Ar ôl gweithio'n agos gyda FUW eleni, mae’n wych clywed ein bod wedi cael ein dewis fel yr elusen nesaf.

“Mae'r gwaith mae FUW yn ei wneud i gefnogi ymwybyddiaeth yr elusen eisoes yn gwneud gwahaniaeth ac er mwyn gallu parhau mae’n rhaid i’r sgwrs ynglŷn ag iechyd meddwl gyrraedd cynulleidfaoedd ehangach. Ni allwn ddiolch digon i bawb am eu cefnogaeth barhaus.”