FUW yn anrhydeddu gwraig contractwr amaethyddol am fod yn ysbrydoliaeth iechyd meddwl

Mae Emma Picton-Jones, gwraig contractwr amaethyddol yn ysbrydoliaeth, ac mae hi bellach yn mynd tu hwnt i’r galw i hyrwyddo materion iechyd meddwl o fewn amaethyddiaeth, ac mae Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) wedi cyflwyno gwobr arbennig iddi.
 
Cyflawnodd gŵr Emma Daniel hunanladdiad yn 2016, ac er cof amdano sefydlodd DPJ Foundation sydd bellach yn dechrau darparu cefnogaeth ledled Cymru i deuluoedd amaethyddol sy'n ei chael hi'n anodd ymdopi â phroblemau iechyd meddwl.
Ac yn y 100fed Sioe Frenhinol Cymru 2019, mae FUW wedi cydnabod ei chyflawniadau drwy gyflwyno ‘Gwobr Allanol am Wasanaethau i Amaethyddiaeth’ yr Undeb iddi yn nerbyniad y Llywydd, dydd Mercher 24 Gorffennaf.
 

“Mae Emma yn ysbrydoliaeth ac yn arloeswraig wrth sicrhau bod iechyd meddwl cymunedau gwledig ledled Cymru ar yr agenda,” dywedodd Llywydd FUW Glyn Roberts.

“Mae ei gwaith wedi dechrau’r sgwrs ynglŷn ag iechyd meddwl, a ni welwyd hyn yn digwydd erioed o’r blaen.

“Hi oedd yn gyfrifol am sefydlu’r ymgyrch ‘Share the load’, sydd bellach yn cynnig therapïau siarad, sef rhai o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o ddelio gydag iechyd meddwl.

“Rydym wedi gweld pa mor bwysig yw gwaith yr elusen ac mae Emma wedi gweithio'n ddiflino i ddod ag ymwybyddiaeth a hyfforddiant iechyd meddwl i gymuned amaethyddol Sir Benfro, sydd bellach wedi ehangu ledled Cymru.  Ni allai'r wobr fynd i berson mwy haeddiannol eleni,” meddai Mr Roberts.

Wrth dderbyn y wobr, dywedodd Emma: “Mae’n anrhydedd wych derbyn y wobr hon. Mae'n golygu llawer i dderbyn gwobr gan bobl o'r sector sy'n gweld drostynt eu hunain bwysigrwydd yr hyn yr ydym yn ceisio'i wneud.

“Yn bersonol, ni allaf ddiolch digon i’r FUW am eu cefnogaeth dros y tair blynedd diwethaf, a gobeithiaf y bydd y sgwrs am iechyd meddwl yn parhau i dyfu ledled Cymru.