Anrhydeddu ffermwr bîff a defaid o Sir Benfro am wasanaethau i amaethyddiaeth

Mae ffermwr bîff a defaid o Sir Benfro, Brian Thomas, a ddechreuodd ei yrfa ffermio ym 15 mlwydd oed, wedi cael ei gydnabod gyda gwobr fewnol Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) am wasanaethau i amaethyddiaeth.

Wrth gyflwyno'r wobr yn nerbyniad Llywydd FUW (Dydd Mercher, 24 Gorffennaf) yn y 100fed Sioe Frenhinol Cymru, dywedodd Llywydd yr Undeb Glyn Roberts: “Mae Brian wedi bod yn ffrind cadarn ac yn gydweithiwr ers dros 20 mlynedd. Mae bob amser yn barod i helpu, cefnogi a rhoi cyngor. Mae'n deg dweud bod Brian yn rhywun y gallwn ac y gallaf ddibynnu arno.

“Dros y blynyddoedd mae Brian wedi mynd y tu hwnt i’r galw, nid yn unig gyda’r Undeb, ond gyda’r diwydiant yn gyffredinol. Nid yw'n ofni corddi’r dyfroedd os yw'n golygu bod ffermwyr yn cael gwell bargen, boed hynny trwy arwain protestiadau neu ymgyrchu ar lefel y Llywodraeth.

“Mae'n deg dweud bod y diwydiant yng Nghymru wedi elwa'n fawr o lobïo ac ymdrechion gweithredol Brian i wneud ein sector yn lle gwell i bawb.”

Mae Brian yn gyn-gadeirydd FUW yn Sir Benfro, ac yn y gorffennol bu'n aelod o bwyllgor tenantiaid canolog FUW.

Etholwyd ef yn aelod De Cymru o'r pwyllgor cyllid a threfn ganolog yn 2011, yn Is-lywydd FUW yn 2013 ac yn Ddirprwy Lywydd yn 2015.

Mae gan Brian fuches o 40 o wartheg sugno a 80 o ddilynwyr gwartheg bîff byrgorn pur a diadell o 100 o ddefaid yn ogystal â thyfu 60 erw o rawnfwyd ar ei fferm 280 erw, Llwyncelyn Lan, Llanfyrnach.

Yn ystod yr achos BSE ym 1996, arweiniodd Mr Thomas yr ymgyrch yn Ne Orllewin Cymru yn gwrthwynebu mewnforio cig eidion gwael i Gymru. Ym 1997 arweiniodd grŵp o ffermwyr i stondin Tesco yn Sioe Frenhinol Cymru er mwyn amlygu’r ffordd annheg yr oeddent yn trin y diwydiant ac mae wedi bod yn ffigwr blaenllaw yn y frwydr yn erbyn TB mewn gwartheg.