Cadw cysylltiad gyda’r ffermwyr ifanc – mae yna fywyd ar ôl CFfI

Mae'n ddiwedd cyfnod. Yn swyddogol, mae ffermwyr ifanc yn hen pan fyddant yn cyrraedd 26 oed.  Ond mae Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) wedi sefydlu ffordd newydd o gadw mewn cysylltiad ar gyfer y rhai hynny sydd dros 20 oed, gyda’r pwyslais ar roi cyfle i ffermwyr ifanc gadw mewn cysylltiad - a pharhau i fwynhau cymdeithasu.

Mae FUW Academi, a lansiwyd yn Sioe Frenhinol Cymru (dydd Mawrth, 23 Gorffennaf), yn addo gweithgareddau a digwyddiadau gydol y flwyddyn trwy rwydwaith o grwpiau sy'n canolbwyntio  ar gymdeithasu, a chadw golwg ar y diweddaraf yn y byd amaethyddol.

Bob blwyddyn, bydd tair taith maes FUW Academi yn cael eu trefnu trwy strwythur swyddfa sirol unigryw FUW, gan ddarparu amrywiaeth o ymweliadau â ffermydd a phrofiadau eraill, gan gadw'r to ifanc mewn cysylltiad â’r datblygiadau ffermio diweddaraf a mwy.

Mae yna fwletin amaethyddol ar-lein rheolaidd gyda'r holl newyddion a chyngor diweddaraf ar grantiau, hyfforddiant a phartneriaethau; hyfforddiant a phrawf trelar B + E, wedi'i ostwng i £600 o £420, rhaglenni hyfforddi wedi'u hariannu'n llawn, gostyngiadau aelodau FUW a chopi misol o Y Tir yn gynwysedig yn y pecyn sy'n costio ond £4.50 y mis.

“Rydym am sicrhau bod ffermwyr ifanc yn parhau mewn cysylltiad gyda’r diweddaraf sy’n digwydd yng Nghymru wledig,” meddai Caryl Roberts, Rheolwr Aelodaeth a Gweithrediadau FUW. “Dyma'r cam perffaith nesaf i aelodau sy'n gadael oedran cystadleuol y CFfI - a byddwch yn cael het beanie am ddim!"