Gwern, y technegydd tractor yn setlo - ac yn helpu i gadw'r economi wledig yn fyw

Ar un adeg, bu Gwern Williams yn gweithio am flynyddoedd lawer ledled Ewrop, De Affrica a’r Dwyrain Canol  fel peiriannydd Massey Ferguson.

Erbyn hyn mae ef, ei wraig a'i ddau blentyn ifanc yn rhedeg fferm eu hunain sef Nantygwyrddail, Islawrdref, ger Dolgellau, ar denantiaeth 15 mlynedd gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a hynny ers mis Hydref 2017.

Ond nid yw Gwern wedi gorffen gyda’r tractorau eto. Yn ogystal â rheoli fferm 350 erw ym Meirionnydd, gyda 250 o hynny yn dir mynydd, mae Gwern yn rhedeg ei fusnes ei hun yn trwsio tractorau a pheiriannau er mwyn sicrhau incwm ychwanegol.

“Dim ond tua 20 erw o'r fferm sy’n addas ar gyfer cynaeafu silwair,” meddai Gwern.

“Dyma ond un o'r heriau penodol sy'n wynebu'r math hwn o fferm, gyda thir cyfyngedig ar gael i gadw gwartheg dros y gaeaf.”

Ar hyn o bryd maent yn cadw diadell o 130 o ddefaid mynydd Cymreig, a 10 o wartheg sugno, ond yn gobeithio cynyddu'r stoc yn raddol yn y dyfodol.

Manteisiodd y gangen FUW leol ar y cyfle i ddangos i Dafydd Elis Thomas AC bwysigrwydd ffermydd teuluol fel y hon a thrafod materion eraill fel mynediad agored i gefn gwlad.

Ar ôl taith o amgylch y fferm, dywedodd Huw Jones, Swyddog Gweithredol FUW Sir Feirionnydd: “Mae'r fferm hon yn enghraifft wych o'r gwaith da mae ein pobl ifanc yn ei wneud ac mae'n amlygu unwaith eto bwysigrwydd cadw ein teuluoedd ffermio ar y tir.

“Mae Gwern a'i deulu, drwy fusnes y fferm, yn cyfrannu at yr economi wledig leol, at fywyd cymdeithasol a diwylliannol Cymru, ac yn nodweddiadol o'r ffermydd sydd angen eu diogelu rhag effeithiau negyddol posibl Brexit.”

Ymunodd Gwern a'i wraig Ceri, sy'n fferyllydd, â chynllun amaeth-amgylcheddol Glastir ym mis Ionawr eleni, ac mae'n gobeithio gwneud cyfraniad cadarnhaol i'r amgylchedd.

“Bydd y cynllun o fudd mawr i'r fferm gyda'r gwaith cyfalaf wedi'i drefnu yn y blynyddoedd i ddod, a gobeithiwn y gall y fferm gyfrannu hyd yn oed yn fwy at yr amgylchedd a chefn gwlad,” meddai Gwern.

Diwedd