Cyfle gwleidyddol gwych Cai

gan Angharad Evans, Golygydd y Gymraeg, Y Tir

10 diwrnod!  Mae’n Fawrth 19 a ninnau 10 diwrnod i ffwrdd o’r diwrnod mawr hanesyddol, Mawrth 29 2019 – diwrnod ‘gadael’ yr UE.  Pwy a ŵyr beth fydd wedi digwydd erbyn i chi ddarllen hwn!  Beth bynnag fo’ch barn am y sefyllfa wleidyddol bresennol, mae’n dda gweld bod y genhedlaeth nesaf yn awchu i fod yn rhan o’r cnwd newydd o wleidyddion, a hynny diolch i Senedd Ieuenctid Cymru.

Mae Senedd Ieuenctid Cymru yn gorff etholedig o bobl ifanc rhwng 11 a 18 oed. Safodd dros 460 o ymgeiswyr i gael eu hethol, ac fe'u dewiswyd gan eu cyfoedion mewn etholiad ar-lein. O'r 60 aelod a etholwyd, mae 40 yn cynrychioli etholaethau Cymru. Cafodd 20 o ymgeiswyr eraill eu hethol gan sefydliadau partner i adlewyrchu cyfansoddiad Cymru a sicrhau y caiff grwpiau amrywiol o bobl ifanc eu cynrychioli.

Mae Senedd Ieuenctid Cymru yn dymuno:

•      Grymuso pobl ifanc Cymru i nodi, cynyddu ymwybyddiaeth, a thrafod y materion sydd o bwys iddynt.

•      Gwrando ar bobl ifanc yng Nghymru, cynrychioli eu barn, a gweithredu ar y materion sy'n bwysig iddynt.

•      Gweithio gyda phobl ifanc yng Nghymru a rhannu'r hyn rydyn ni'n ei wneud gyda'r materion maent wedi'u codi.

Ar ôl cael eu hethol ym mis Tachwedd 2018, cyfarfu Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru yn eu rhanbarthau am y tro cyntaf ym mis Ionawr, a chyfarfod fel senedd lawn yn ystod penwythnos preswyl ym Mae Caerdydd ddiwedd mis Chwefror. Yn ystod y penwythnos preswyl, cynhaliwyd dadl yn siambr y Senedd, pryd y siaradodd pob aelod dros fater penodol i bleidleisio arno.

Aelod Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro yw Cai Phillips, mab i aelod ffyddlon o’r undeb yn Sir Gaerfyrddin a bu’n siarad ynglŷn â Ffermio a Chyfleoedd Gwledig. Cafodd Cornel Clecs gyfle i ofyn i Cai am ei brofiad hyd yn hyn gyda’r Senedd:-

Sut dechreuodd dy ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth?

Mae gan Mamgu ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth ac mae bob tro yn aros lan ar noson etholiad felly cefais fy ngeni mewn i wleidyddiaeth. Dechreuodd fy mrwdfrydedd nôl yn 2016 pan oedd y Refferendwm yr UE yn cael ei gynnal. Roeddwn wedi cyffroi gyda’r ymgyrchu a clywed barn pobl, a theimlais yn rhwystredig fel person ifanc bod ni ddim yn cael lleisio barn. Wedyn nôl ym mis Medi blwyddyn ddiwethaf codwyd y cyfle i fod yn rhan o’r Senedd Ieuenctid a neidiais ar y cyfle. Oherwydd roeddwn eisiau bod yn rhan o’r newid sydd angen; i roi llais i bobl ifanc fy ardal.

Sut brofiad oedd bod yn Siambr y Senedd?

Roedd yn brofiad anhygoel i fod yn eistedd, dadlau, gwrando a phleidleisio mewn lle mor ddylanwadol â’r Senedd. Roeddwn i wedi areithio am 2 munud ar ffermio a chyfleoedd gwledig. Roeddwn yn sôn am sut rydym ni fel ffermwyr yn “crynu yn ein Wellingtons” oherwydd ansicrwydd Brexit. Ac ar y mater pwysig o gysylltiad band eang cyflym sy’n bwysig ar gyfer pobl ifanc a busnesau mewn ardaloedd gwledig. Roedd yn fraint ac yn anrhydedd i fod yn gwrando ar areithiau pwerus, personol a phroffesiynol y grŵp cymhwysol ac ysbrydoledig o bobl ifanc. 

Y blaenoriaethau dewisom fel aelodau i weithio arnyn nhw yn ystod y tymor o ddwy flynedd oedd:

1. Cymorth Iechyd emosiynol ac iechyd meddwl.

2. Sbwriel a gwastraff plastig.

3. Sgiliau bywyd yn y cwricwlwm.

Rwyf yn edrych ymlaen at gydweithio ar y materion holl bwysig yma ac i wneud Cymru yn lle gwell i fyw ynddo heddiw ac yn y dyfodol. 

Mae gweld brwdfrydedd ac egni Cai yn ysbrydoliaeth a dymunwn yn dda iddo fe yn ystod y ddwy flynedd nesaf.  Cai Phillips, cofiwch yr enw, mae dyfodol disglair o’i flaen!