FUW yn annog eu haelodau i wneud apwyntiad SAF 2019

Mae’r amser yna o’r flwyddyn wedi cyrraedd unwaith eto wrth i ni ddechrau meddwl am Ffurflenni’r Cais Sengl (SAF). Mae ffenestr y cais yn agor dydd Llun 4 Mawrth ac mae Undeb Amaethwyr Cymru yn atgoffa ei haelodau bod staff y sir yn barod i helpu a chymryd y baich o lenwi'r ffurflen.

Mae'r FUW yn darparu'r gwasanaeth rhad ac am ddim hwn i’w holl aelodau fel rhan o'u pecyn aelodaeth, sydd wedi bod yn amhrisiadwy i filoedd o aelodau dros y blynyddoedd - gan arbed amser ac osgoi’r pen tost o waith papur.

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr FUW, Alan Davies: "Nid yn unig y mae ein staff wedi'i hyfforddi'n dda ond maent hefyd yn gyfarwydd iawn â delio gyda’r broses ymgeisio gymhleth.  Ffurflen SAF, o bosib, yw un o’r ffurflenni pwysicaf mae ffermwyr Cymru wedi gorfod ei llanw ers 2004, ac mae’r goblygiadau ariannol yn sgil camgymeriadau ar y ffurflenni yn rhai llym.

Gan fod Llywodraeth Cymru wedi gorchymyn y dylid gwneud pob cais ar-lein, mae FUW yn canolbwyntio ar ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl i'w aelodau.

"Rwy'n annog ein haelodau a’r rhai sy’n llenwi ffurflenni am y tro cyntaf i gysylltu â'u swyddfa leol cyn gynted ag y bo modd i drefnu apwyntiad os bydd angen help arnynt i lenwi'r ffurflen," ychwanegodd Alan Davies.