Diolch!

Gan Angharad Evans, Golygydd y Gymraeg, Y Tir

Diolch!  Am beth?!  Mae hynny fyny i chi!  Gyda’r hydref wedi cyrraedd, mae’n dymor y diolchgarwch ac yn gyfle i ddiolch am fendithion yr haf, boed hynny am y cynhaeaf (er wrth ysgrifennu mis yma, mae nifer yn dal i aros am dywydd sych er mwyn ceisio gorffen y cynhaeaf - stori dipyn yn wahanol i ychydig fisoedd yn ôl!), iechyd, teulu a chyfeillion.  Mae lle gyda ni gyd i ddiolch am rywbeth, ond yn aml iawn mae’r un gair bach yn cael ei gymryd yn ganiataol.

Wedi haf prysur o fod wrth ddesg Cornel Clecs ac yn teithio o sioe i sioe gyda’r defaid, daeth yn bryd cael seibiant bach a gadael y ddesg a’r defaid am ychydig o ddyddiau.  A dyma ni’n troi ein golygon tuag at ardal Carmel ger Llanrwst am gyfle i ‘rechargo’r batris’.

Rwy’n hoff iawn o’r daith i fyny trwy Gorris, Brithdir ac i’r Bala ac yna ymlaen ar ail hanner y siwrne am Fetws y Coed, gan weld y wlad ar ei gorau.  Un o anfanteision y tywydd eithriadol o gynnes ar gychwyn yr haf oedd bod y borfa ddim yn tyfu ar ôl i bawb gael y crop cyntaf o silwair, ac mi gollais gownt o faint o gaeau silwair oedd yn cael eu trin ar benwythnos cyntaf mis Medi.

Peth arall daeth i’n sylw wrth edrych o gwmpas o wlad oedd gymaint o atyniadau sydd yna ar gyfer twristiaid.  Gyda ninnau ar drothwy'r newid byd mwyaf i’n diwydiant amaethyddol ers degawdau, mae pob un ohonom yn yr un cwch hytrach yn ceisio proffwydo beth fydd y dyfodol yn ei gynnig i ni.  Ond nid fy lle i yw parablu ymlaen am boendod a thrallod Brexit o fewn Cornel Clecs, ond yn hytrach i ganolbwyntio ar y positif sy’n deillio o’r ansicrwydd – ansicrwydd sydd wedi gorfodi rhai i arallgyfeirio i feysydd gwahanol er mwyn sicrhau incwm ychwanegol i’w busnesau.  O fownsio rhwng y coed uchel ar gyrion Betws y Coed i ganŵio ar lyn, mae yna rywbeth at ddant pawb!

I dorri’r siwrne o adre i Lanrwst, penderfynwyd cael cinio wrth lan llyn Tegid yn y Bala.  Wrth reswm, rydym wedi bod yno lawer tro o’r blaen, a bob tro, mae’r lle’n llawn dop o bobl yn mentro ar ryw weithgaredd ar y dŵr.  Ond beth sy’n gwneud y llyn hynod yma’n gymaint o atyniad i ymwelwyr?

Llyn Tegid yw’r llyn naturiol mwyaf yng Nghymru ac yn 3.7 milltiro hyd a 0.5 milltir o led. Mae afon Dyfrdwy yn rhedeg drwyddi ac mae dyfroedd y llyn yn ddwfn ac yn glir.  P'un a hwylio, canŵio, nofio gwyllt neu bysgota brithyll sy’n mynd a’ch diddordeb chi, mae hyn oll yn bosib ar lyn Tegid. 

Mae ychydig o hud a lledrith yn perthyn i’r llyn hefyd!  Yn ôl chwedl Hanes Taliesin, roedd yna gymeriad o’r enw Tegid Foel, ac roedd yn ŵr i’r dduwies neu’r wrach Ceridwen. Mae'r man y safai ei lys bellach o dan ddyfroedd y llyn. Yn ôl traddodiad gwerin, cafodd y llys ei foddi un noson. Dywedir y gellir gweld golau'r llys a'r dref fach o'i gwmpas ar noson olau leuad. Забери бездепозитные бонусы при регистрации.

Mae’r llyn wedi dod yn enwog am reswm arbennig arall hefyd wrth i gannoedd o ieuenctid Cymru heidio yno ar gyfer y gwersyll haf, a phenwythnosau drwy’r flwyddyn ar ôl i’r Urdd lwyddo i i brynu Glan-llyn ym 1964.

Dros y blynyddoedd wrth gwrs mae’r gwersyll wedi datblygu, nid yn unig o ran adeiladau a chyfleusterau ond o ran yr arlwy o weithgareddau a gynigir, a hefyd o ran yr ystod oedran sydd yn cymryd rhan yn y gweithgareddau.  Erbyn hyn mae 13,000 o wersyllwyr yn ymweld â Glan-llyn yn flynyddol a rheini yn mwynhau cyfleusterau llety a gweithgareddau o’r safon uchaf. Gyda’r datblygiadau diweddaraf mae’r Urdd yn medru sicrhau y bydd cenedlaethau o wersyllwyr y dyfodol  yn mwynhau'r un awyrgylch unigryw ar lan Llyn Tegid.

Yn dyw Cymru’n wlad unigryw, ac rydym yn ffodus o beth sydd ar ein stepen drws, dyna ddigon o reswm i ddweud DIOLCH!