Llwyddiant ysgubol Sioe Sir Meirionnydd

Cafodd cangen Meirionnydd o Undeb Amaethwyr Cymru sioe sirol lwyddiannus a gynhaliwyd yn Ystâd y Rhug ger Corwen ddydd Mercher, (Awst 22), gyda #AmaethAmByth ac ymgynghoriad cyfredol Llywodraeth Cymru ar ddyfodol amaethyddiaeth ar frig yr agenda.

Dywedodd Swyddog Gweithredol UAC Sir Feirionnydd Huw Jones: "Roedd y sioe ei hun yn llwyddiant eithriadol ac roeddem yn falch o fod yma wrth iddynt ddathlu'r dathliadau 150 oed. Mae'r sioe undydd hon yn mynd o nerth i nerth.

"Roedd y babell yn ferw o weithgaredd trwy gydol y dydd, ac rydym wedi mwynhau sgwrsio gydag aelodau, ffrindiau, gwesteion a gwleidyddion.  Prif bwnc y dydd oedd yr ymgynghoriad cyfredol 'Brexit a’n Tir’ wrth gwrs.

"Mynegodd yr aelodau bryder difrifol ynghylch goblygiadau gwaredu taliadau uniongyrchol o ffermydd Cymru, a fyddai, heb os, yn arwain at aflonyddwch, ansicrwydd a chaledi ariannol ar raddfa nas gwelwyd o'r blaen, a fyddai'n effeithio ar economi wledig Meirionnydd yn ei gyfanrwydd."

Mynegwyd barn gref i Liz Saville Roberts AS a Llyr Huws Gruffydd AC a chafodd yr aelodau eu hannog i lofnodi cerdyn post i'w hanfon at Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, gan dynnu sylw at eu pryderon ynghylch y cynigion i waredu taliadau uniongyrchol.

"Cawsom ddiwrnod hynod o brysur ac rydym bob amser yn ddiolchgar iawn i'r holl wirfoddolwyr a staff y gangen Sir am eu holl gymorth a chydweithrediad. Heb eu holl waith caled a'u hymroddiad, ni fyddai'r diwrnod wedi bod yn gymaint o lwyddiant eithriadol," ychwanegodd Huw Jones.