UAC yn chwilio am brif gyfrannwr i amaethyddiaeth Sir Gaerfyrddin

 

Mae cangen Caerfyrddin o Undeb Amaethwyr Cymru yn chwilio am enwebiadau ar gyfer Gwobr UAC – Cymdeithas Sioe Amaethyddol a Helwyr y Siroedd Unedig i’r un sydd wedi gwneud y cyfraniad eithriadol mwyaf i amaethyddiaeth yn Sir Gaerfyrddin yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Bydd y beirniaid yn cynnwys cynrychiolwyr o UAC, Banc HSBC Plc a Chymdeithas Sioe Amaethyddol a Helwyr y Siroedd Unedig. Bydd y wobr yn cael ei chyflwyno yn nigwyddiad UAC a fydd yn cael ei chynnal noson cyn y Sioe Laeth.

Dywedodd Swyddog Gweithredol UAC Sir Gaerfyrddin David Waters: "Dylai'r enwebiad fod ar ffurf llythyr neu eirda sy'n rhoi manylion llawn am waith a chyflawniad yr enwebedig gyda phwyslais mawr ar yr effaith gadarnhaol neu fuddiol ar amaethyddiaeth yng Nghaerfyrddin.”

Mae cyn enillwyr y wobr yn cynnwys John James (2004), David Lewis FRICS FRAgS (2005), Bryan Thomas FRAgS (2006), Haydn Jones FRAgS (2007), Lynn Davies ARAgS (2008), Dai Lloyd (2009), Eirios Thomas (2010), Brian Walters (2011), Roy Davies FRAgS (2012), Meinir Bartlett (2013), Mary James (2014), Y Parchg. Canon Eileen Davies (2015), Rita Jones (2016) a Brian Jones MBE FRAgS (2017).

Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw dydd Llun Hydref 8.

Dylai enwebiadau fod ar ffurf llythyr neu eirda sy'n rhoi manylion llawn am waith a chyflawniadau'r enwebai ac mae angen eu hanfon at swyddfa UAC Sir Gaerfyrddin, 13a Barn Road, Caerfyrddin, SA31 1DD neu drwy e-bost i This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it. erbyn dydd Llun Hydref 8.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa'r sir ar 01267 237974.