UAC Sir Benfro yn edrych ymlaen at sioe sir brysur

Mae cangen Sir Benfro o Undeb Amaethwyr Cymru yn edrych ymlaen at sioe sir brysur (Mawrth 14 - Iau 16 Awst), ac yn estyn croeso cynnes i bawb.

 

Dywedodd Swyddog Gweithredol cangen UAC Sir Benfro Rebecca Voyle: "Rydym yn edrych ymlaen at sioe sir brysur le byddwn yn trafod #AmaethAmByth a #CyllidFfermioTeg gyda'n haelodau a'n gwleidyddion etholedig. Gobeithio bydd nifer ohonoch yn medru ymuno â ni am sioe ardderchog arall.”

 

 

Bydd aelodau o staff y Tîm Diogelu Defnyddwyr Safonau Masnach ar stondin UAC drwy gydol y sioe i gynnig cyngor a chymorth ar sut i adnabod sgamiau ac amddiffyn eich hun oddi wrthynt. Hefyd, os oes gennych unrhyw enghreifftiau o sgamiau yr ydych wedi'u derbyn, dewch â nhw gyda chi gan y byddant yn fwy na pharod i'w trafod.

 

Bydd Emma Taylor o ‘Building Resilience Into Catchments’ (BRIC) ar y stondin dydd Mercher y sioe rhwng 10yb a 3.30yp, er mwyn rhannu gwybodaeth am eu prosiect ymchwil i leihau lefel y maetholion sy'n mynd i mewn i Ddyfrffordd Aberdaugleddau trwy wella dŵr, maetholion a rheoli cynefin ar ffermydd. Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar dri is-ddalgylch Pelcomb Brook, Winterton Marsh a Llys y Fran, felly os ydych chi'n ffermio yn unrhyw un o'r ardaloedd hyn, dewch draw i ddarganfod mwy.

 

Bydd Philip Meade, o Davis Meade Property Consultants, un o asiantau tir yr Undeb, ar gael hefyd ar ddydd Mercher y sioe i roi cyngor ar amrywiaeth o faterion sy'n amrywio o adolygiadau rhent i gontractau ynni adnewyddadwy.

 

“Byddwn hefyd yn canolbwyntio ar ymgynghoriad Llywodraeth Cymru 'Brexit a'n Tir' a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar gefnogaeth i’r diwydiant yng Nghymru yn y dyfodol. Rydym yn awyddus iawn i glywed eich barn felly galwch i mewn i'n gweld am sgwrs,” ychwanegodd Rebecca Voyle.