UAC Meirionnydd yn edrych ymlaen at Sioe Sir brysur

Mae cangen Meirionnydd o Undeb Amaethwyr Cymru yn edrych ymlaen at ddiwrnod prysur yn Sioe'r Sir (dydd Mercher, 22 Awst), a gynhelir ar Ystâd y Rhug yng Nghorwen.

Bydd Sioe Sirol Meirionnydd eleni yn achlysur arbennig iawn, gan ei fod yn dathlu 150 mlynedd ers ei sefydlu. Cynhaliwyd y Sioe Sir gyntaf yn Ystâd Rhiwlas, Y Bala ym 1868.

 

Dywedodd Swyddog Gweithredol cangen UAC Meirionnydd Huw Jones: "Rydym yn edrych ymlaen at drafod #AmaethAmByth a #CyllidFfermioTeg ar y stondin gyda'n haelodau a'n gwleidyddion etholedig ac yn croesawu aelodau, gwesteion a ffrindiau UAC i ymuno â ni ar y diwrnod.

 

Bydd AC Dwyfor Meirionnydd, Dafydd Elis-Thomas, yn bresennol ar y stondin rhwng canol dydd a 1yp, a Liz Saville Roberts AS yn bresennol rhwng 2yp a 3yp i gyfarfod â swyddogion yr Undeb ac aelodau unigol. Eleni, y prif bwnc trafod fydd y papur ymgynghorol Brexit a’n tir: Diogelu dyfodol ffermio yng Nghymru.

 

"Bydd swyddogion, staff a Llywydd UAC, Glyn Roberts, wrth law i ateb cwestiynau ein haelodau. Mae cangen y sir yn ddiolchgar iawn unwaith eto i Ferched yr Undeb ledled y sir am gymryd cyfrifoldeb am y lluniaeth ar y stondin."

 

Yn ymuno â UAC ar y diwrnod bydd Cyfarwyddwr FWAG Dr Glenda Thomas rhwng 11yb a 12yp a Swyddog Datblygu Cyswllt Ffermio Meirionnydd Eryl P Roberts rhwng 1yp a 3yp.

 

Bydd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru Arfon Jones hefyd yn bresennol, ynghyd â Chwnstabl Dewi Evans ac aelodau'r Tîm Trosedd Gwledig.

 

Bydd cynrychiolwyr o elusennau’r Undeb yn bresennol ar y stondin trwy gydol y dydd, sef Cymdeithas Alzheimer Cymru a'r Farming Community Network (FCN). Byddant yn codi ymwybyddiaeth o'u gwaith mewn ardaloedd gwledig.

 

Fel yn y blynyddoedd a fu, bydd staff a chynrychiolwyr Gwasanaethau Yswiriant FUW Cyf wrth law i ateb unrhyw gwestiynau neu ymholiadau gan aelodau a cheientiaid fel bo'r angen.