Y person sy’n gyfrifol am raglen amaethyddol boblogaeth yn cael ei hanrhydeddu gyda Gwobr Goffa Bob Davies UAC

Bob blwyddyn mae Undeb Amaethwyr Cymru'n cydnabod personoliaeth o’r cyfryngau sydd wedi codi proffil cyhoeddus ffermio Cymru gyda gwobr goffa Bob Davies UAC.

Mae enillydd eleni wedi bod yn codi proffil ffermio Cymru, ond nid fel eraill o flaen y camerâu, siarad â ni yn uniongyrchol drwy’r radio neu hyd yn oed ar dudalennau blaen y cyhoeddiadau amaethyddol - ond yn dawel ac yn ddiwyd yn y cefndir yn cynhyrchu unig raglen wledig BBC Wales.

Wrth gyhoeddi Pauline Smith, cynhyrchydd Country Focus BBC Radio Wales fel enillydd eleni, dywedodd Llywydd UAC, Glyn Roberts: " Nid yw Pauline yn un i dynnu sylw at y gwaith sy’n cael ei gyflawni - ond eto mae'r rhaglen y mae wedi bod yn ei chynhyrchu ar gyfer BBC Radio Wales dros yr holl flynyddoedd hynny, yn un sydd wedi parhau i wasanaethu pawb sy'n byw yng nghefn gwlad.

Mae cryfder y person yma a’r rhaglen, y tu ôl i'r penawdau, p'un a yw'n effeithiau pellgyrhaeddol y traed a'r genau, goblygiadau Brexit, diffyg cludiant gwledig neu gyfleoedd i'r ifanc.  Mae'n rhywbeth, fel cynhyrchydd, y mae wedi llwyddo i ddatblygu dros y blynyddoedd, gan roi llais i bobl nad ydynt bob amser yn cael eu clywed.

"Felly, mae'n bleser mawr gennyf gydnabod eich holl waith gyda Gwobr Goffa  Bob Davies UAC."

Bu Pauline Smith yn gweithio yn BBC Radio Wales fel newyddiadurwr ers 1991, yn bennaf bryd hynny ar raglen brecwast Good Morning Wales, ond roedd hi’n sialens gorfod cyfuno’r oriau cynnar a hwyr gyda bywyd teuluol,  a cafodd gynnig y rôl o gynhyrchu Country Focus.

Roedd angen hwb newydd ar y rhaglen ac roedd hi'n falch o dderbyn yr her, gan ddechrau o’r newydd gyda chyflwynydd newydd ar y pryd, Melanie Doel. Datblygodd hyn yn gyfle delfrydol i gyfuno ei angerdd am y radio a’i chariad tuag at cefn gwlad.

Ers hynny, mae wedi teithio ledled Cymru, i fyny ac i lawr yr A470, o gwmpas lonydd y wlad ac i lawr llawer o lwybrau fferm ac, yn ôl hi,  wedi bwyta llawer gormod o Fara Brith a phice bach ond mae wedi mwynhau’r croeso cynnes.

Wrth sôn am y wobr, dywedodd Pauline: "Rydw i wedi cael sioc, ond yn falch iawn o dderbyn gwobr goffa Bob Davies. Rwy'n llawer mwy cyfarwydd gydag annog pobl i sôn amdanynt eu hunain, dod o hyd i'r straeon hynny a gweithio tu ôl i'r llenni. Gallaf wedyn adael pethau i’r cyflwynydd, Rachael Garside i roi pobl yn y fan a'r lle a dod a’r stori i’r golwg. Hoffwn ddiolch i Rachael am oddef yr holl  negeseuon e-bost a’r syniadau ac i fy nghydweithwyr am eu cyfraniadau i Country Focus."