Mis y cystadlu, cneifio, cynhaeaf a’r canu

gan Angharad Evans, Golygydd y Gymraeg, Y Tir

Wel, allwch chi gredu bod ni hanner ffordd trwy 2018 yn barod?  I le mae amser yn mynd dwedwch? Mae mis Mehefin wedi bod yn fis prysur i ni, sioe gyntaf y tymor, cneifio, medru gwneud silwair, a hynny ar ddiwrnod hiraf y flwyddyn, sef hirddydd haf.  Yn dyw hi wedi bod yn braf peidio gorfod poeni am ragolygon y tywydd a chynhaeafu’n hamddenol? I gloi’r mis, cafwyd penwythnos arbennig o ddathlu diwylliant cefn gwlad ar ei orau.

Rwy’n ffodus iawn fy mod yn byw mewn lleoliad go arbennig.  Saif y Mynydd Bach uwchlaw’r fferm, a dyma’r ardal rhwng Cors Goch Glan Teifi i'r dwyrain ac arfordir Bae Ceredigion i'r gorllewin. Wrth lethrau gorllewinol y Mynydd mae Llyn Eiddwen, llyn naturiol sy'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Croesir y Mynydd gan lôn wledig gul sy'n cysylltu Trefenter a Blaenpennal. Y pentrefi sy’n perthyn i ardal y Mynydd Bach yw:-Bethania, Blaenpennal, Bronant, Llangwyryfon, Lledrod, Penuwch a Trefenter.

Cynhaliwyd 'Cwrdd Gweddi'r Mynydd' allan yn yr awyr agored ar lethrau'r Mynydd Bach bob mis Mehefin, arfer a gychwynnodd adeg Diwygiad 1904-1905.  Roedd cannoedd o bobl yn ymweld â’r digwyddiad arbennig hwn, o bell ac agos.  Mae’n parhau i fod yn achlysur poblogaidd, er ei fod bellach yn cael ei gynnal yn y capel.

I gyd-fynd gyda phenwythnos Cwrdd y Mynydd eleni, cynhaliwyd cymanfa ganu arbennig iawn ar y Mynydd Bach fel rhan o ddathliadau Cymru-Ohio. Dyma un o nifer o ddigwyddiadau dros wythnos gyfan i ddathlu daucanmlwyddiant ers i chwe theulu o Ddyffryn Aeron ymfudo i’r Unol Daleithiau.

I ddweud mwy o hanes Cymru-Ohio a’r dathliadau mawr, mae Siân Thomas, un sydd wedi bod yn weithgar iawn gyda threfniadau’r dathlu:-

“Rhwng 1818 a 1865, ymfudodd tua 3,000 o gyffiniau’r Mynydd Bach yng nghanolbarth Ceredigion ar draws môr yr Iwerydd i’r Unol Daleithiau. Graddfa anhygoel yn gadael eu bro am diroedd llawn addewidion gyda’r rhan fwyaf ohonynt yn ail-blannu eu gwreiddiau yn nhalaith Ohio.

Er mwyn nodi daucanmlwyddiant ers i’r chwe theulu cyntaf adael, penderfynwyd cynnal wythnos lawn o ddigwyddiadau o fewn yr ardal a brofodd colli cymaint o’u cymdogaeth, gyda’r ardal hynny yn ymestyn o darddle’r afon Aeron i lawr at ei aber yn nhref Aberaeron.

O nosweithiau tafarn i arddangosfeydd, o wasanaethau mewn capeli i gyngerdd mawreddog ar Sgwâr Alban, Aberaeron, un o’r digwyddiadau mwyaf cyffrous i’w threfnu oedd y Gymanfa Ganu ar droed  ‘Y Mynydd Bach’ , Trefenter ger hen Ysgol Cofadail. Roedd ‘Cwrdd Gweddi’r Mynydd Bach yn achlysur pwysig iawn yng nghalendr yr ardal gyda channoedd yn tyrru i wrando ar bregethwyr a chanu emynau’n flynyddol. Bellach Ysgol Llangwyryfon sy’n sicrhau bod y traddodiad yn parhau trwy gynnal ‘Cwrdd y Mynydd’ yng nghapel Bethel, Trefenter ar ddiwedd mis Mehefin.  Dyma gymuned wledig ar ei orau. Y brifathrawes wrth y piano, y plant yn diddanu am awr gyfan, y Gweinidog yn croesawu, pregethwr gwadd yn difyrru, gwragedd yn paratoi gwledd o de i orffen a’r gynulleidfa yn ymuno yn y mwynhad.

Pa well weithgaredd i baratoi ar gyfer croesawu’r Americanwyr sy’n ymweld â thiroedd eu cyndeidiau felly na ail-godi’r canu allan yn yr awyr agored.

Roedd gan yr arweinydd, Delyth Morgans Philips a’r artistiaid Dafydd a Gwawr Edwards a’r gyfeilyddes Menna Griffiths nifer o’u perthnasau Americanaidd yn bresennol yn y gynulleidfa a chafwyd eitemau perthnasol gyda’r ‘Hen Stagers’ disgyblion Ysgol Llangwyryfon.”

Meddyliwch am ddewrder y bobl yma, ddwy ganrif yn ôl, yn gadael bywyd syml, digynnwrf yng nghrombil Ceredigion i deithio ar y môr i gyrraedd byd newydd yr ochr draw.

Felly, pleser a gwefr oedd treulio orig ar nos Sul crasboeth, i weld golygfa o’r gorffennol yn dod nôl i’r Mynydd Bach.  Oedd wir i chi, dyna olygfa oedd gweld cannoedd o bobl wedi ymgynnull ar gyfer y gymanfa ac roedd yr awyrgylch yn wefreiddiol.  Does dim amheuaeth, lle arbennig iawn yw ein cymunedau cefn gwlad.