Image
Croesawu cadwraeth bywyd gwyllt a chynhyrchu bwyd yn Sir Benfro

Mae gan ffermio rhan allweddol i'w chwarae wrth ofalu am yr amgylchedd a brwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd, ond rhaid peidio ac eithrio cynhyrchu bwyd o'r sgwrs, yn ôl ffermwr bîff, defaid ac âr o Sir Benfro, Jayne Richards.

Mae’r 350 erw yn Fferm Jordanston, Parc y Santes Fair, Trefwrdan, ychydig y tu allan i Aberdaugleddau, Sir Benfro yn gartref i 400 o ddefaid magu, 140 o wartheg bîff, yn ogystal â buches sugno fach.

Mae’r teulu wedi adfer gwrychoedd, yn gofalu am 6 pwll dyfrhau gyda 3 ohonyn nhw wedi'u hamgylchynu gan lwyni, cynefin gwych i fywyd gwyllt ond hefyd yn storfa garbon. Mae'r pyllau hyn wedi'u ffensio fel coridorau bywyd gwyllt ac maent yn cysylltu'n uniongyrchol â'r coetir. Dros y blynyddoedd mae'r pyllau wedi bod yn llwyddiannus iawn o safbwynt bywyd gwyllt ac yn darparu cynefin ar gyfer crehyrod, giächod, llawer o wahanol rywogaethau o hwyaid ac ieir dŵr.

Mae 50 erw o goetir yn amgylchynu'r fferm, gan greu coridor bywyd gwyllt mawr sydd wedi bod yn fuddiol i fywyd gwyllt ar y fferm a hefyd o ran storio carbon. Mae’r coetir yn cynnwys coed llydanddail fel yr Onnen, Sycamorwydden, Ffawydd a Derw ac mae’r dylluan frech wedi cartrefu yma hefyd. Fel rhan o’r gwaith amgylcheddol, plannwyd 2 filltir o ddraen brodorol a choed gwrych i greu gwrych Sir Benfro.

Mae bod yn fferm gymysg yn beth da i fywyd gwyllt, meddai Jayne, oherwydd mae’n osgoi ungnwd, ac yn sicrhau cynhyrchu bwyd cynaliadwy gyda chynefin ar ôl ar gyfer bywyd gwyllt rhwng y cnydio, sy'n gwella symudiad rhywogaethau o amgylch y fferm.

Mae gofalu am y tir a chynhyrchu bwyd bob amser wedi mynd law yn llaw ar fferm Jordanston, ond er bod y teulu'n frwd dros edrych ar ôl y bywyd gwyllt a gofalu am yr amgylchedd, mae un peth yn glir, er mwyn i un agwedd weithredu'n iawn, mae angen gwerthfawrogi’r llall, sef cynhyrchu bwyd a rôl y da byw.

Mae teuluoedd ffermio fel y teulu Richards yn enghraifft wych o'r gwaith cadarnhaol a wneir ar ffermydd ledled Cymru sy'n helpu i frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd, cynnal a gwella bioamrywiaeth a chynefinoedd, wrth gynhyrchu bwyd cynaliadwy, maethlon.

Image
Image