Image
Gwella’r tir ar fferm ddefaid organig

Mae Clyttie Cochion yn fferm ddefaid organig 150 erw wedi'i leoli yn nyffryn Gwili, ar gyrion Llanpumsaint, Sir Gaerfyrddin.  Ar raddfa fach, mae’r fferm deuluol yn cael ei ystyried yn fferm iseldir, yn 350 troedfedd, ond mae’r dirwedd yn debycach i dir mynydd gyda thir diffaith wedi'i orchuddio â brwyn.

Mae hyn yn cyflwyno rhai heriau i berchennog y fferm Phil Jones, sydd am sicrhau bod ei borfa a 350 o ddefaid yn ffynnu wrth weithio o fewn dull gofal hawdd o reoli tir a da byw. Mae'r defaid yn pori allan trwy gydol y flwyddyn, sy'n golygu bod gorchudd dda o borfa a phridd iach yn hollbwysig. Er mwyn rheoli'r tir mewn ffordd sy'n sicrhau ecosystem iach, mae angen lleihau’r toriadau o silwair er mwyn cadw lefelau potash ar y gyfradd orau a'r ddaear yn iach.

Image

Mae ffermwyr fel Phil yn ymateb i'r her o wella iechyd pridd a chynyddu deunydd organig mewn priddoedd. Calch yw'r unig gynnyrch sy'n cael ei roi ar y pridd gan fod cynnal pH sydd bron yn niwtral yn rhan o gynnal pridd iach. Mae'r ecosystem naturiol yma yn dibynnu ar ddefaid yn pori'r caeau, yn ogystal â rhyddhau maetholion i'r ddaear yn raddol.

Mae ffermydd teuluol bach yng Nghymru fel Clyttie Cochion yn arwain y ffordd o ran bod yn gyfeillgar i'r amgylchedd ac maent eisoes yn gyfrifol am adnodd carbon hanfodol mewn priddoedd, coetir a chynefinoedd lled-naturiol. Mae Phil wedi gwella bioamrywiaeth ymhellach ac wedi creu cynefin mwy naturiol trwy ychwanegu 8 erw o goetir Werni ar dir nad oedd yn addas ar gyfer pori da byw.

Gyda'i gyfradd stocio isel a'i dull ystyriol iawn mae Clyttie Cochion yn system mor gynaliadwy ag y gall y fferm deuluol fod - gofalu am yr amgylchedd a chynhyrchu bwyd cynaliadwy, maethlon mewn cytgord.

Image