Image
Teulu ffermio llaeth yn tynnu sylw at fuddion adnabod eich ffermwr

Y drydedd genhedlaeth i ffermio ym Mhantfeillionen, Horeb, Llandysul, Ceredigion, yw Lyn a Lowri Thomas. Mae’r teulu’n gofalu am 170 o aceri ac yn rhentu 100 acer arall, y cyfan ohono’n borfa.  Mae 70 o fuchod llaeth, ac ychydig o fuchod a lloi sugno sy’n cael eu gwerthu ymlaen fel gwartheg stôr, hefyd yn galw’r bryniau glas hyn yn gartref.

Y ffordd ymlaen i’r teulu yw cynnal ethos graddfa fach y fferm deuluol, a chysylltu ar lefel bersonol gyda’u cwsmeriaid, sy’n prynu llaeth amrwd yn uniongyrchol o’r fferm. 

Mae Lyn a Lowri, sy’n angerddol am y tir sy’n bwydo’r buchod, yn deall y cysylltiad uniongyrchol rhwng yr amgylchedd ag iechyd a lles y gwartheg.  Maen nhw’n osgoi gwthio’r tir yn ormodol ac yn ei ffermio’n gynaliadwy.  Gyda lefelau stocio o tua 0.8 o fuchod yr acer, mi allai’r teulu gadw mwy o stoc, ond byddai hynny’n golygu bod angen mwy o wrtaith a mwy o fwyd ar gyfer y buchod.  Parhau i fod yn gynaliadwy yw’r allwedd iddyn nhw felly.

Image

Gan ofalu am yr amgylchedd, nid yw’r teulu’n defnyddio llawer o wrtaith, oherwydd mae ffermio ar graig, gydag ond ychydig o uwchbridd, yn golygu y byddai’r tir yn llosgi ar y llechweddi sy’n wynebu’r de.  Mae’r boblogaeth pryfaid genwair ar y fferm yn iach, ac mae’r teulu’n compostio tail buarth, sy’n well i’r tir yn ôl y sôn.

Hefyd, mae Lyn a Lowri wedi plannu coed i lenwi bylchau yn y gwrychoedd, gan gynnwys coed derw,  coed crafol, ceirios, cwyros, helyg a choed bedw.  Plannwyd gwrychoedd draenen ddu ar hyd ymyl y caeau hefyd, sydd wedi uno â’i gilydd i ddarparu cysgod rhag y gwynt i’r buchod, a chynefinoedd nythu ar gyfer adar tir ffermio.

Mae’r bywyd gwyllt ar y fferm y doreithiog o farcutiaid, bwncathod, tylluanod, crëyr glas, cnocell y coed, ystlumod, brogaod, llwynogod, cwningod a moch daear, yn ogystal â cheirw, sy’n byw yn y gwrychoedd ac ar y tir sydd allan o gyrraedd torwyr gwrychoedd.

Mae’r teulu’n awyddus i bwysleisio sut mae systemau ffermio yng Nghymru’n wahanol i rai mewn rhannau eraill o’r byd.  Ffermydd teuluol bach, traddodiadol, sy’n gofalu am y tir, yw’r allwedd i gynaliadwyedd a thaclo’r newid yn yr hinsawdd.

 

Image