Image
Cynhyrchu bwyd ac edrych ar ôl yr amgylchedd yn mynd law yn llaw ar fferm Pennant
Mae teulu’r Roberts, sydd wedi ffermio Fferm Pennant, Llanymawddwy ers sawl cenhedlaeth, yn cadw gwartheg cig eidion a defaid; defaid mynydd yn bennaf a rhai defaid croesfrid. Hefyd, cedwir buches sugno fach a defaid croesfrid ar yr iseldir, ac mae’r teulu wedi arallgyferio i gynnig llety gwyliau. Mae yna ymdeimlad cryf o gyfrifoldeb tuat at ofalu am yr amgylchedd a chreu cynefinoedd amrywiol, yn ogystal â chynhyrchu bwyd.

Er mwyn symud ymlaen â’u huchelgeisiau amgylcheddol, mae Lisa a Sion Roberts wedi rhoi gwaith adfer ar droed i ailbroffilio a blocio ardaloedd eang o fignoedd a cheunentydd ar draws safle Bwlch y Groes, a gwblhawyd gan gontractwyr mawndir profiadol ar ddiwedd 2020 a dechrau 2021.
Image
Amcangyfrifir y bydd adfer y safle’n atal colli cyfwerth â 2,335 tunnell o allyriadau carbon dros y 35 mlynedd nesaf, sy’n cyfateb yn fras i faint y carbon deuocsid a gynhyrchir wrth losgi gwerth 632* llond tanc cartref o olew. Mae allyriadau o fawndiroedd diraddedig y DU yn cyfrif am oddeutu 4% o’r cyfanswm allyriadau cenedlaethol, gan olygu bod adfer mawndiroedd yn hollbwysig mewn perthynas â thargedau hinsawdd cenedlaethol.

Yn rhedeg ar hyd ymyl dwyreiniol Parc Cenedlaethol Eryri, mae ardal y prosiect yn rhan o’r Berwyn a Mynyddoedd De Clwyd sydd, ar 2,209 hectar, yn un o’r ardaloedd rhostir mwyaf yn Ewrop. Mae safle adfer mawndir Bwlch y Groes yn gorgors sydd wedi’i leoli ar fwlch mawr i’r gorllewin o Lyn Fyrnwy, sy’n swatio rhwng yr Aran Fawddwy a’r Berwyn yn ne Eryri.

Yr ardal hon yw’r ehangdir mwyaf o gorgors lled-naturiol yng Nghymru a’r ucheldir pwysicaf yng Nghymru ar gyfer adar magu, yn gartref i amrywiaeth eang o rywogaethau rhyngwladol bwysig.

Mae safle’r prosiect o fewn nifer o Ardaloedd Cadwraeth Arbennig, Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig a Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Yn ogystal ag atal colli carbon o’r safle a gwarchod y stôr sylweddol o garbon yn y mawndir, rhagwelir y bydd y gwaith adfer yn arwain at gyd-fuddiannau eang, megis gwella ansawdd dŵr, llif dŵr mwy cyson, mwy o fioamrywiaeth, a gwella cynefinoedd infertebratau dŵr croyw.
Image