Image
Tad a merch yn tynnu sylw at bwysigrwydd archwilio carbon ar y fferm

Mae Dylasau Uchaf yn fferm denant yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac yn gartref i’r teulu Roberts.  Mae Glyn a’i ferch Beca’n cadw llygad barcud ar y tir a’r da byw yma yng Nghwm Eidda, sy’n cuddio rhwng uwch Conwy a Machno.  Mae’r fferm ddefaid a chig eidion tua 4 milltir o Betws y Coed a 3 milltir o Ysbyty Ifan.

 Mae’r fferm yn cymryd ei chyfrifoldeb o gynhyrchu bwyd a gofalu am y tir o ddifrif.  Gan weithio gyda Phrifysgol Bangor a Hybu Cig Cymru (HCC), cynhaliwyd archwiliad carbon ar y fferm, yn tynnu sylw at y pethau mae’r busnes yn eu gwneud yn dda a’r pethau sydd angen eu gwella er mwyn lleihau allyriadau carbon.

 Fodd bynnag, un agwedd yn unig o’r gwaith sy’n cael ei wneud yma i sicrhau bod y system ffermio’n cadw’i hôl troed carbon yn isel yw ystyried effeithlonrwydd y da byw.  Mae Beca a Glyn hefyd yn ystyried faint o wrtaith sy’n cael ei ddefnyddio, ac maent wedi mabwysiadu dull pori newydd dros y ddwy flynedd diwethaf gan ddechrau pori mewn cylchdro.  Mae Beca hefyd wedi dechrau monitro sut mae’r gwartheg sy’n pori ar y mynydd yn effeithio ar fioamrywiaeth.

Image

Nid yw’r tîm tad a merch wedi bodloni ar hynny’n unig ac mae gwelliannau pellach i’r system ffermio’n cynnwys blocio rhai o ffosydd y ffridd ar y mynydd, atal dŵr ffo rhag llifo i’r afon Conwy, ac i fynd i’r afael ag erydiad pridd posib, maent wedi gosod arwyneb solet ar fannau bwydo da byw yn y caeau.  Hefyd, crëwyd cwlfertau i fynd dros ffosydd fel nad yw’r tractor yn gorfod gyrru trwyddynt a baeddu’r dŵr.

 Dros y 25 mlynedd diwethaf mae’r teulu wedi plannu 4.5 milltir o wrychoedd ar y fferm, ac eleni maent wedi plannu tua 300 o goed llydanddail cynhenid mewn clytiau ar draws y fferm.  Gwnaed y gwaith o ddewis ble i’w plannu mewn cydweithrediad â warden yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i wneud yn siŵr eu bod yn y llefydd iawn.

 Er mwyn mynd i’r afael â phroblemau llygredd dŵr ar y fferm 30 mlynedd yn ôl, gweithiodd Glyn gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a’r Asiantaeth Dŵr (Cyfoeth Naturiol Cymru erbyn hyn) i roi mesurau yn eu lle i sefydlu system hidlo dŵr gyda choed Helyg.

Image