PRIF SWYDDFA YN ABERYSTWYTH, RÔL CYMRU GYFAN
O £75,000 yn ogystal â buddiannau, yn dibynnu ar brofiad
Mae FUW Cyf yn chwilio am arweinydd a rheolwr effeithiol a phrofiadol, gyda phrofiad helaeth ar lefel uwch, i arwain Undeb Amaethwyr Cymru, a gweithio gyda Bwrdd FUW Cyf i gyflawni amcanion yr undeb.
Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn undeb annibynnol, gyda rhwydwaith o swyddfeydd sirol a lleol ar draws Cymru, a phencadlys yn Aberystwyth. Nod yr undeb yw cynrychioli a gwarchod buddiannau pawb sy’n ennill eu hincwm o amaethyddiaeth yng Nghymru, drwy gydweithio â rhanddeiliaid, partneriaid a’r llywodraeth i siapio a gosod seiliau’r cyfeiriad strategol ar gyfer ffermwyr ac amaethyddiaeth yng Nghymru. Ni yw’r llais annibynnol ar gyfer Ffermydd Teuluol Cymru.
Mae FUW yn sefydliad democrataidd a’i genhadaeth yw creu ffermydd teuluol ffyniannus a chynaliadwy, ac ehangu a gwella gwasanaethau i aelodau.
Bydd y swydd yn golygu cyfrifoldeb cyffredinol dros arweinyddiaeth strategol a rheolaeth weithredol yr undeb. Rhaid i ymgeiswyr allu arddangos llwyddiant blaenorol mewn rolau uwch reoli, oherwydd bydd y rôl yn golygu darparu arweinyddiaeth ar gyfer y sefydliad a’r Uwch Dîm Rheoli, gan sicrhau bod y strategaeth sefydliadol a’r cynllun busnes corfforaethol yn cael eu cyflawni’n llwyddiannus. Mae angen sgiliau arbenigol cynhwysfawr ym maes cyllid, cyllidebu, rheoli pobl a llywodraethu ar gyfer y rôl, yn ogystal â sgiliau cyfathrebu ac ymgysylltu ardderchog. Byddai’r gallu i siarad Cymru neu ymrwymiad i ddysgu’r iaith yn fantais fawr.
Byddwch yn gweithio o fewn y strwythurau llywodraethu sefydledig ar draws grŵp FUW Cyf a byddwch yn atebol i Fwrdd FUW Cyf. Sefydlwyd FUW Cyf “i ariannu a chyflawni amcanion yr Undeb fel y’u gosodir yn y Rheolau.”
Mae gan y rôl swyddogaeth ehangach ar draws Grŵp FUW Cyf, a byddwch yn gyfrifol am gadeirio Tîm Uwch Reoli’r Grŵp ar draws Grŵp FUW Cyf (sy’n cynnwys FUW a Gwasanaethau Yswiriant FUW Cyf) gyda’r nod o oruchwylio cydweddiad strategaeth gyffredinol y grŵp.
I gael mwy o wybodaeth am y swydd, cysylltwch â Margaret Shepherd ar 01970 629433. Dylid anfon ceisiadau at Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. a dylid cynnwys manylion llawn am yrfaoedd hyd yn hyn a lefel cyflog presennol.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 5pm ar Ddydd Llun 23 Tachwedd 2020