CONTACT
Mae cangen Caerfyrddin o Undeb Amaethwyr Cymru yn gwahodd enwebiadau ar gyfer Gwobr Undeb Amaethwyr Cymru - Cymdeithas Amaethyddiaeth a Helwyr y Siroedd Unedig 2026, i berson a farnwyd i fod wedi gwneud Cyfraniad Rhagorol i Amaethyddiaeth yn Sir Gaerfyrddin yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Enillwyd y wobr y llynedd gan ffermwr o Sir Gaerfyrddin, Haydn Evans, gan gydnabod ei gyfraniad rhagorol i amaethyddiaeth yn Sir Gaerfyrddin a Chymru. Mae enillwyr blaenorol y wobr yn cynnwys sylfaenydd Castell Howell Foods, Brian Jones (2017), Cyflwynydd Ffermio, Meinir Howells (2018), a Llywydd presennol Undeb Amaethwyr Cymru, Ian Rickman (2019).
Cyflwynir y wobr yn nigwyddiad mawreddog Noswyl Sioe Laeth Cymru Undeb Amaethwyr Cymru ar ddydd Llun 19 Hydref 2026.
Bydd y beirniaid yn cynnwys cynrychiolwyr o Undeb Amaethwyr Cymru a Chymdeithas Amaethyddol a Helwyr y Siroedd Unedig.
Wrth agor y broses enwebu, dywedodd Rheolwr Gwasanaethau Aelodau Sir Caerfyrddin, David Waters: “Cymuned ffermio Sir Gâr yw asgwrn cefn gwead cymdeithasol ac economaidd ein sir. Mae’r wobr hon yn gyfle gwych i anrhydeddu a chydnabod cyfraniad unigolyn sydd wedi ymroi’n ddiflino i hyrwyddo’r diwydiant hanfodol hwn a chefnogi ei gyd-ffermwyr.”
Ychwanegodd Mr Roger Evans, Cadeirydd Cymdeithas yr Helwyr a’r Siroedd Unedig: “Mae Cymdeithas Amaethyddol a Helwyr y Siroedd Unedig yn falch o barhau â’n partneriaeth gyda Undeb Amaethwyr Cymru wrth anrhydeddu unigolion nodedig sy’n asgwrn cefn ein cymuned wledig. Mae’r wobr hon yn dyst i’r gwaith caled a’r ymroddiad sy’n gyrru’r sector amaethyddol yn Sir Gâr ac edrychwn ymlaen at ddathlu cyfraniad unigolyn arall sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i’n diwydiant.”
Dylai enwebiadau fod ar ffurf llythyr neu ddyfyniad yn rhoi manylion llawn am waith a chyfraniad yr enwebai a dylid eu hanfon drwy e-bost at swyddfa Undeb Amaethwyr Cymru Caerfyrddin sef
Ydych chi'n adnabod unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i’r diwydiant llaeth yng Nghymru?
Mae Undeb Amaethwyr Cymru, law yn llaw â NatWest Cymru, yn chwilio am enwebiadau ar gyfer ein Gwobr Gwasanaeth Rhagorol i Ddiwydiant Llaeth Cymru. Dyma'ch cyfle i dynnu sylw at unigolyn o fewn y sector llaeth sydd wedi gwneud cyfraniad unigryw i’r sector.
Mae'r wobr nodedig hon yn dathlu person sydd, nid yn unig wedi cyfrannu'n sylweddol at ddatblygiad y sector laeth yng Nghymru ond sydd hefyd wedi dod yn rhan allweddol o'i chymuned.
Cyhoeddir ac anrhydeddir yr enillydd mewn cyflwyniad cyhoeddus yn Sioe Laeth Cymru ddydd Mawrth, Hydref 20, 2026 ar Faes Sioe'r Siroedd Unedig yn Nantyci, Caerfyrddin.
Wrth agor y broses enwebu ar gyfer Gwobr Gwasanaeth Rhagorol i Ddiwydiant Llaeth Cymru Undeb Amaethwyr Cymru/NatWest Cymru, dywedodd Rheolwr Gwasanaethau Aelodau Undeb Amaethwyr Cymru Sir Gaerfyrddin, David Waters: “Mae’r wobr hon yn gyfle gwych i gydnabod gwaith caled, ymroddiad ac arloesedd unigolyn sydd wedi helpu i lunio’r diwydiant er gwell. Rydym yn arbennig o falch fod NatWest Cymru yn cyd-noddi’r wobr eleni a bydd eu cefnogaeth yn sicrhau sylw haeddiannol i’r wobr hon.”
Ychwanegodd Dai Miles, Dirprwy Lywydd Undeb Amaethwyr Cymru ac un o gyn-enillwyr y wobr yn 2021: "Mae'r diwydiant llaeth yn rhan greiddiol o wead amaethyddol Cymru, ac yn gyfrannwr sylweddol at economi Cymru.
"Bob dydd mae unigolion yn gwneud cyfraniad unigryw wrth ddiogelu a hyrwyddo'r sector. Mae'r wobr hon felly yn gyfle gwych i ddathlu ac anrhydeddu'n gyhoeddus yr arwyr tawel hynny sy'n asgwrn cefn ein diwydiant.”
Dylai enwebiadau fod ar ffurf llythyr yn rhoi manylion llawn am waith a chyfraniad yr enwebai a dylid eu hanfon drwy e-bost at swyddfa FUW Caerfyrddin sef
Ymunodd Undeb Amaethwyr Cymru ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri dros benwythnos cyntaf gwyliau'r haf i hyrwyddo perchnogaeth gyfrifol o gŵn ac annog ymwelwyr i helpu i ddiogelu da byw, bywyd gwyllt a chefn gwlad Cymru.
Cynhaliwyd yr ymgyrch ymwybyddiaeth wrth droed Llwybr Llanberis, un o'r llwybrau prysuraf i gopa'r Wyddfa ac ymhlith llwybrau cerdded mwyaf poblogaidd y DU. Bu cynrychiolwyr yn siarad â channoedd o ymwelwyr, gan bwysleisio pwysigrwydd cadw cŵn o dan reolaeth a'r canlyniadau gall ymosodiadau gan gŵn gael ar dda byw a bywyd gwyllt.
Tynnodd yr ymgyrch sylw at effaith barhaus ymosodiadau gan gŵn ar dda byw, gŵn eraill yn ogystal â'r perygl i adar sy'n nythu ar y ddaear a rhywogaethau eraill o fywyd gwyllt sy'n dibynnu ar gynefinoedd bregusf Eryri.
Datgelodd cais blaenorol gan Undeb Amaethwyr Cymru, o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, i Heddlu Gogledd Cymru fod dros 80 o achosion o ymosodiadau ar dda byw wedi'u cofnodi yn y Gogledd yn ystod 2024, gan amlygu maint y broblem sy'n wynebu cymunedau amaethyddol.
Mae'r ymgyrch hefyd yn cyd-fynd â chyflwyniad Deddf Cŵn (Diogelu Da Byw (Diwygio)) 2025, a ddaeth yn gyfraith yn gynharach eleni. Mae'r ddeddfwriaeth yn cryfhau pwerau'r heddlu i fynd i'r afael ag aflonyddu da byw drwy ganiatáu i swyddogion atafaelu a chadw cŵn yr amheuir eu bod wedi ymosod ar dda byw. Mae hefyd yn darparu pwerau ehangach i gasglu tystiolaeth, gan gynnwys samplau DNA, er mwyn cefnogi ymchwiliadau ac atal digwyddiadau pellach.
Yn ogystal, mae'r ddeddf newydd wedi dileu'r terfyn blaenorol o £1,000 ar ddirwyon am droseddau sy'n ymwneud ag aflonyddu ar dda byw yng Nghymru a Lloegr. O ganlyniad, gall llysoedd bellach osod dirwyon diderfyn, gan gryfhau'r rhwystr yn erbyn perchnogaeth anghyfrifol o gŵn.
Dywedodd Simon Llewelyn Roberts, Uwch Warden Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri: "Mae Eryri yn gartref i fywyd gwyllt o bwysigrwydd rhyngwladol, ffermydd a da byw – pethau sy'n gwneud y Parc Cenedlaethol yn lle mor arbennig i ymweld ag ef.
"Mae perchnogaeth gyfrifol o gŵn yn hanfodol i ddiogelu da byw, gwarchod adar bregus sy'n nythu ar y ddaear, a chynnal y dirwedd unigryw hon ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Gall cadw cŵn o dan reolaeth dynn, yn ddelfrydol ar dennyn, wneud gwahaniaeth sylweddol i ddiogelwch pobl, anifeiliaid a chynefinoedd Eryri."
Dywedodd Aled Morgan Hughes, Pennaeth Cyfathrebu Undeb Amaethwyr Cymru: "Bob blwyddyn, gwelwn gynnydd sylweddol mewn ymosodiadau gan gŵn ar dda byw yn ystod misoedd prysur yr haf wrth i fwy o bobl ymweld â chefn gwlad gyda'u cŵn. Mae'r digwyddiadau hyn yn achosi dioddefaint mawr i anifeiliaid ac yn rhoi baich emosiynol ac ariannol sylweddol ar deuluoedd fferm.
"Rydym yn falch o gefnogi ymgyrch 'Dyma fy Nghartref' gyda'n partneriaid. Mae codi ymwybyddiaeth yn hanfodol os am atal ymosodiadau. Drwy gadw cŵn ar dennyn ac dan reolaeth dynn wrth ymyl da byw, gall ymwelwyr helpu diogelu anifeiliaid fferm, bywyd gwyllt a chefn gwlad Cymru. Bydd hyn yn ei dro’n sicrhau bod pawb yn gallu mwynhau cefn gwlad yn ddiogel ac yn gyfrifol."
Mae'r ymgyrch hon yn rhan o ymgyrch 'Dyma fy Nghartref' Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, sy'n annog ymwelwyr i barchu'r dirwedd, y bywyd gwyllt a'r cymunedau amaethyddol sy'n gwneud y Parc Cenedlaethol yn unigryw. Cefnogir y fenter gan Undeb Amaethwyr Cymru, Cymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad (CLA), NFU Cymru a Heddlu Gogledd Cymru.
Yn ystod Sioe Frenhinol Cymru eleni, recordiodd Undeb Amaethwyr Cymru drafodaeth banel arbenigol ar Ddolur Rhydd Feirysol Buchol (BVD) yng Nghymru.
Daw'r sesiwn ar adeg hollbwysig yn dilyn cyflwyno Gorchymyn BVD (Cymru) 2024, sydd wedi cyflwyno gofynion cyfreithiol newydd i geidwaid gwartheg ledled Cymru. Gan fod BVD yn parhau i effeithio ar iechyd buchesi, cynhyrchiant a phroffidioldeb ffermydd, nid yw deall y ddeddfwriaeth newydd erioed wedi bod yn bwysicach.
Gan ddod ag arbenigwyr blaenllaw ynghyd o'r sectorau da byw, milfeddygaeth a llunio polisi, mae'r panel yn trafod goblygiadau ymarferol y rheolau newydd ar draws yr amrywiaeth o systemau ffermio gwartheg yng Nghymru. Mae'r drafodaeth yn ateb cwestiynau cyffredin, yn egluro beth mae'r ddeddfwriaeth yn ei olygu yn ymarferol, ac yn cynnig cyngor gwerthfawr i helpu ffermwyr i baratoi ar gyfer y gofynion newydd ac i gydymffurfio â nhw.
Cadeiriwyd y sesiwn gan Alun Owen, Is-lywydd Rhanbarthol Undeb Amaethwyr Cymru, ffermwr ym Mhentrefoelas a Chynrychiolydd Ffermwyr BVD Cymru. Roedd y panel hefyd yn cynnwys:
- John Griffiths, Cadeirydd Grŵp Llywio BVD Cymru ac Pennaeth Ymchwil a Datblygu Amaethyddol yng Ngholeg Sir Gâr;
- Dr Phil Thomas, Cyfarwyddwr Ystwyth Vets a Chyfarwyddwr Canolfan Gwyddor Filfeddygol Cymru;
- Gwion Aeron, Arweinydd EIDCymru;
- Katie Davies, Partner ym Marchnad Da Byw Trefyclo;
- Richard Pizzey o Lywodraeth Cymru.
P'un a ydych am ddeall eich cyfrifoldebau o dan y ddeddfwriaeth newydd yn well, neu glywed safbwyntiau arbenigol ar reoli BVD mewn buchesi yng Nghymru, mae'r drafodaeth wybodaeth hon yn werth gwrando arni.
Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi cyhoeddi bod Tir Dewi a Prostate Cymru wedi cael eu dewis yn elusennau Llywydd yr Undeb ar gyfer y cyfnod 2026–2029, yn dilyn ail-ethol Ian Rickman yn Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru.
Gwnaed y cyhoeddiad yn ystod digwyddiad nos Fercher yn Sioe Frenhinol Cymru, gan nodi dechrau partneriaeth codi arian newydd dros dair blynedd gyda dwy elusen Gymreig sy'n cefnogi iechyd a lles cymunedau ffermio.
Daw'r penodiad yn sgil enwebiadau a gyflwynwyd gan ganghennau sirol Undeb Amaethwyr Cymru gyda Thir Dewi a Prostate Cymru yn cael cefnogaeth gref yn ystod y broses dewis.
Mae'r ddwy elusen yn dilyn elusen Ambiwlans Awyr Cymru, a fu'n elusen ddewisol Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru dros y tair blynedd ddiwethaf. Yn ystod y cyfnod hwnnw, cododd yr Undeb a'i haelodau £65,000 i gefnogi gwaith yr elusen o achub bywydau ledled Cymru.
TIR DEWI
Mae Tir Dewi yn darparu cymorth dwyieithog, cyfrinachol ac am ddim i ffermwyr a'u teuluoedd ledled Cymru, gan gynnig cymorth ymarferol ac emosiynol pan fydd bywyd ar y fferm yn mynd yn ormod i'w ysgwyddo. Drwy ei linell gymorth ddwyieithog sy'n gweithredu 365 diwrnod y flwyddyn, cymorth un-i-un, ymweliadau â ffermydd ac ymgysylltu â'r gymuned, mae'r elusen yn cefnogi mwy na 5,000 o bobl bob blwyddyn, gan ddarparu dros 11,000 o oriau o gymorth rheng flaen.
Gan weithio gyda thîm bach o staff parhaol a mwy na 50 o wirfoddolwyr, mae Tir Dewi yn helpu teuluoedd ffermio sy'n wynebu ystod eang o heriau, gan gynnwys profedigaeth, unigrwydd, problemau iechyd meddwl, pwysau ariannol, cynllunio olyniaeth, newidiadau rheoleiddiol ac anghydfodau teuluol. Mae'r elusen hefyd wedi gweld y galw am ei gwasanaethau yn cynyddu 18% dros y chwe mis diwethaf, gydag achosion cynyddol gymhleth yn gofyn am gymorth.
Dywedodd Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Ian Rickman: “Mae'n anrhydedd gennyf ddewis Tir Dewi a Prostate Cymru yn elusennau’r Llywydd ar gyfer y dair mlynedd nesaf. Mae'r ddau sefydliad yn gwneud gwaith amhrisiadwy wrth gefnogi iechyd a lles pobl ledled Cymru, ac rwy'n falch iawn y bydd yr Undeb yn gweithio ochr yn ochr â nhw dros y tair blynedd nesaf.
"Mae iechyd meddwl yn parhau i fod yn un o'r heriau mwyaf sylweddol sy'n wynebu ein cymunedau ffermio, gyda llawer o unigolion a theuluoedd yn delio â phwysau cynyddol. Mae Tir Dewi yn darparu ffynhonnell amhrisiadwy o gymorth cyfrinachol i'r rhai sy'n wynebu amgylchiadau anodd, ac rwy'n gobeithio y gallwn helpu i godi ymwybyddiaeth o'i gwasanaethau a chodi arian hanfodol ar gyfer ei gwaith.
"Ar yr un pryd, mae cansr y prostad yn effeithio ar filoedd o ddynion a'u teuluoedd ledled Cymru, gan wneud mwy o ymwybyddiaeth a diagnosis cynharach yn fwyfwy pwysig. Drwy gefnogi Prostate Cymru, rydym yn gobeithio tynnu sylw at y materion hyn wrth helpu'r elusen i barhau â'i gwaith pwysig.
"Rwy'n gwybod y bydd ein haelodau yn cefnogi'r ddwy elusen, ac rwy'n edrych ymlaen at weld y gwahaniaeth y gallwn ei wneud gyda'n gilydd dros y blynyddoedd i ddod.”
Dywedodd Janine Griffiths-Baker, Prif Weithredwr Tir Dewi: “Mae'n anrhydedd i ni gael ein dewis fel un o elusennau Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru. Mae teuluoedd ffermio ledled Cymru yn parhau i wynebu pwysau personol, ariannol ac emosiynol sylweddol, a bydd y bartneriaeth hon yn ein helpu i gyrraedd mwy o bobl a allai fod yn dioddef yn ddistaw. Mae ein Cadeirydd, Peter Harlech Jones, yn ymuno â mi i fynegi ein diolch diffuant i Undeb Amaethwyr Cymru a'i haelodau am eu cefnogaeth. Edrychwn ymlaen at gydweithio dros y tair blynedd nesaf i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd lles o fewn ein cymunedau ffermio.”
PROSTATE CYMRU
Bydd yr Undeb hefyd yn cefnogi Prostate Cymru, elusen Gymreig sy'n gweithio i godi ymwybyddiaeth o ganser y prostad a chlefydau eraill y prostad, gan gefnogi gwelliannau o ran diagnosis, triniaeth a gofal i ddynion ledled Cymru.
Mae penodiad yr elusen yn arbennig o amserol yn dilyn y diagnosisau diweddar o ganser y prostad i ddau Is-lywydd Rhanbarthol Undeb Amaethwyr Cymru, Alun Owen a Brian Bowen.
Canser y prostad yw'r canser mwyaf cyffredin sy'n effeithio ar ddynion yng Nghymru, gyda disgwyl i tua un o bob wyth dyn gael diagnosis yn ystod eu hoes. Bydd y bartneriaeth yn rhoi cyfle i godi ymwybyddiaeth o'r cyflwr ac i gefnogi gwaith yr elusen dros y tair blynedd nesaf.
Dywedodd Is-lywydd Rhanbarthol Undeb Amaethwyr Cymru, Alun Owen: “Ar ôl cael diagnosis o ganser y brostad yn ddiweddar ac wedi cael triniaeth, rwy’n arbennig o falch o weld Undeb Amaethwyr Cymru yn cefnogi Prostate Cymru fel un o elusennau’r Llywydd.
"Rwy’n gobeithio y bydd y bartneriaeth hon yn helpu i godi ymwybyddiaeth o ganser y brostad ac yn annog mwy o ddynion mewn ardaloedd gwledig i siarad â’u meddyg teulu am dderbyn prawf, p’un a oes ganddynt symptomau ai peidio. Gall diagnosis cynnar wneud gwahaniaeth gwirioneddol, a bydd y bartneriaeth hon hefyd yn cefnogi’r gwaith amhrisiadwy y mae Prostate Cymru yn ei wneud dros unigolion a theuluoedd ledled Cymru.”
Dywedodd Tina Tew, Prif Weithredwr Prostate Cymru: “Rydym wrth ein bodd ein bod wedi cael ein dewis fel un o elusennau Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru ar gyfer y tair blynedd nesaf. Mae'r gymuned ffermio wrth wraidd Cymru, ac mae'r bartneriaeth hon yn cynnig cyfle pwysig i godi ymwybyddiaeth o ganser y prostad, annog sgyrsiau am iechyd dynion a chefnogi ymdrechion i wella canlyniadau i ddynion ledled y wlad. Edrychwn ymlaen at weithio ochr yn ochr ag Undeb Amaethwyr Cymru a'i haelodau drwy gydol y bartneriaeth.”
Wrth gyhoeddi'r elusennau, dywedodd Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Ian Rickman, fod y dewis yn adlewyrchu'r blaenoriaethau a nodwyd gan ganghennau sirol yr Undeb, yn ogystal â'r pwysigrwydd o gefnogi sefydliadau sy'n gwneud gwahaniaeth sylweddol i deuluoedd ffermio a chymunedau gwledig ledled Cymru.
Dros y tair blynedd nesaf, bydd Undeb Amaethwyr Cymru yn gweithio'n agos gyda’r ddwy elusen trwy ddigwyddiadau codi arian ac ymgyrchoedd ymwybyddiaeth ledled Cymru, gan helpu i gryfhau'r gefnogaeth i les corfforol a meddyliol cymunedau ffermio.
- Cyflwyno Gwobr i Elwen Roberts am ei Chyfraniad i Amaethyddiaeth
- Cyflwyno Gwobr Bob Davies i Nia Thomas
- Undeb Amaethwyr Cymru yn galw am weithredu ar frys wrth i dân gwyllt y Rhinogydd barhau i ymledu
- Cyllideb amlflwydd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn rhoi'r sicrwydd y mae ffermydd teuluol Cymru ei angen

