CONTACT

Pontio'r bwlch digidol

Pontio'r bwlch digidol

Mae llawer wedi'i ysgrifennu am y diffyg signal symudol a gwasanaethau band eang digonol mewn ardaloedd gwledig, ac am yr ymdrechion i bontio'r bwlch digidol er mwyn sicrhau bod y cymunedau hyn yn cael eu cysylltu at ddibenion busnes a hamdden.

Mae Llywodraethau Cymru a'r Deyrnas Gyfunol wedi ymrwymo i wella cysylltedd mewn ardaloedd gwledig, gan gynnwys gweithio gyda darparwyr telathrebu i ddarparu mastiau symudol 4G wedi eu cyllido gan y llywodraeth er mwyn darparu "cysylltedd symudol ar draws 95 y cant o arwynebedd tir y DG".*

Fel sy'n digwydd yn aml, mae ffermwyr wedi chwarae eu rhan wrth hwyluso'r gwaith hwn drwy gytuno i ganiatáu mastiau ar eu tir; datblygiad sydd hefyd wedi cynnig ffynhonnell incwm ychwanegol a gwerthfawr wrth iddynt chwilio am ffyrdd o arallgyfeirio.

Fodd bynnag, mae'n ymddangos bod datblygiadau diweddar yn tanseilio nodau uchelgeisiol y llywodraethau o wella cysylltedd mewn ardaloedd gwledig, gan fod rhai ffermwyr yn wynebu gostyngiadau sylweddol yn y rhent maent yn ei dderbyn am fod a mastiau ar eu tir.

Mae adroddiadau am ostyngiadau o hyd at 90%, ynghyd â chynnydd sydyn yn nifer yr anghydfodau rhwng tirfeddianwyr a gweithredwyr yn awgrymu bod y consensws a sefydlwyd dros dri degawd wedi torri.

Mae arolwg diweddar o dros 550 o fusnesau sydd â mastiau ar eu tir yn awgrymu bod traean ohonynt yn ystyried peidio â chaniatáu i’r seilwaith barhau ar eu tir. Yn ddi-os, gallai hyn amharu'n sylweddol ar gysylltedd mewn ardaloedd gwledig, gan effeithio ar bob agwedd o’r gymuned, nid dim ond amaethyddiaeth.

Mae mast wedi bod ar dir Alan Watson, Cadeirydd Sir Brycheiniog a Maesyfed Undeb Amaethwyr Cymru, ers 20 mlynedd.

Mewn cyfweliad diweddar ar raglen ‘Farming Today’ BBC Radio 4, amlinellodd Alan sut mae’r newidiadau a wnaed i'r Cod Cyfathrebu Electronig yn 2017 wedi arwain at ostyngiad o 50% yn y rhent a gynigiwyd iddo yn ystod y trafodaethau diweddaraf gyda'i ddarparwr telathrebu.

Mae'r datblygiadau hyn wedi arwain Tim Faire, Cadeirydd Pwyllgor Defnydd Tir a Newid Hinsawdd yr Undeb, i alw am fframwaith polisi sy'n trin ffermwyr yn deg ac yn annog tirfeddianwyr a gweithredwyr i gydweithio, yn hytrach na'u gwthio ymhellach ar wahân.

Fodd bynnag, mae newidiadau a gyflwynwyd eleni o dan y Ddeddf Diogelwch Cynnyrch a Seilwaith Telathrebu, sydd wedi ymestyn elfennau o'r fframwaith a ddaeth i rym ar ôl 2017, yn golygu y gallai miloedd yn rhagor o gytundebau gael eu heffeithio. 

Ar adeg pan fo cysylltedd digidol yn hollbwysig i gymaint o agweddau ar fywyd gwledig ac amaethyddol modern, dylid talu sylw i'r alwad i adolygu a yw'r system bresennol yn darparu'r buddsoddiad, y cydweithio a'r seilwaith sydd eu hangen i wella'r ddarpariaeth symudol mewn ardaloedd gwledig.

Newyddion Diweddaraf

Cysylltwch â ni

Ffôn : 01970 820820

Ebost : post@fuw.org.uk

Cyfryngau Cymdeithasol

Image