CONTACT

Undeb Amaethwyr Cymru’n galw am fesurau brys i leihau’r pwysau ar y diwydiant mewn cyfarfod â Gweinidog y Cabinet

Undeb Amaethwyr Cymru’n galw am fesurau brys i leihau’r pwysau ar y diwydiant mewn cyfarfod â Gweinidog y Cabinet

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi dweud wrth Llywodraeth Cymru fod dirfawr angen cymorth a hyblygrwydd ar ffermwyr Cymru o ran rheolau a rheoliadau wedi tymor hynod heriol.

Wrth i ffermwyr orfod dewis rhwng brechu yn erbyn Feirws y Tafod Glas a phrynu porthiant ar gyfer y gaeaf, bu UAC yn trafod y pryderon ynghylch y cyfyng-gyngor dybryd sy'n wynebu'r diwydiant mewn cyfarfod â Gweinidog y Cabinet dros Wydnwch a Chynaliadwyedd Gwledig, Llyr Gruffydd AS, yng Nghaerdydd yn gynharach heddiw, dydd Mawrth 22 Medi.

Anogodd yr Undeb Llywodraeth Cymru i wneud popeth o fewn ei gallu i gyflwyno mesurau ar unwaith i leihau’r pwysau ar y diwydiant, gan gynnwys camau i gynyddu'r taliadau ymlaen llaw o 70% o gymorth fferm ym mis Hydref, er mwyn cefnogi ffermwyr gyda'u llif arian tymor byr.

Daeth y cyfarfod wedi i gynrychiolwyr yr Undeb alw am gamau gweithredu buan a chynllunio rhagweithiol i baratoi ar gyfer y risg o danau gwyllt yn 2027, ac i Lywodraeth y DU sefydlu Cronfa Argyfwng i gefnogi busnesau ffermio wrth iddynt wynebu argyfyngau tymor byr a heriau ariannol, yn ystod cyfarfodydd â gweinidogion Swyddfa Cymru a DEFRA yn Llundain ar 8 Medi.

Mae’r Undeb hefyd wedi galw eto am fwy o hyblygrwydd ar y rheoliadau llygredd amaethyddol; bydd y rheoliadau hyn yn gwahardd ffermwyr rhag taenu slyri a gwrteithiau organig eraill rhwng 15 Hydref a 15 Ionawr 2027 ar y rhan fwyaf o fathau o bridd a glaswelltir. Gan fod ffermwyr yn cael trafferthion gydag argaeledd porthiant yn dilyn tymor hynod sych, bydd angen i fusnesau ffermio ledled Cymru i bori, taenu slyri a thorri silwair yn llawer hwyrach na'r hyn a gynlluniwyd, a thra bod y tywydd yn caniatáu. Codwyd cwestiynau hefyd ynghylch yr amserlen ar gyfer gwneud newidiadau hirdymor i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, gydag UAC yn tynnu sylw at ei gofynion allweddol am sylw brys i sicrhau bod haen gyffredinol y Cynllun yn fwy hygyrch ac ymarferol erbyn 2027.

Dywedodd Llywydd yr FUW, Ian Rickman: “Mae'r flwyddyn hon wedi bod yn hynod heriol i fusnesau ffermio yng Nghymru. Maent wedi wynebu tywydd eithafol, achosion o glefydau a chostau mewnbwn cynyddol yn ystod y cyfnod trawsnewid mwyaf arwyddocaol o ran polisïau cymorth amaethyddol ers degawdau, ac rydym yn croesawu'r cyfle i drafod yr heriau hyn ac atebion posibl gyda'r Gweinidog Cabinet heddiw.

“Mae'r sefyllfa o ran clefyd y Tafod Glas yn peri pryder mawr ac mae'r cyfeiriad y mae pethau'n ei gymryd yn Lloegr o ran profi a diagnosis yn destun pryder difrifol, ac yn tanlilellu’r ddiffyg adnoddau yn y DU pan ddaw’n amser taclo achosion o’r clefyd. Mae Undeb Amaethwyr Cymru eisiau gweithio gyda Llywodraethau Cymru a'r DU ar Strategaeth Tafod Glas sy'n ennyn hyder y sector ein bod yn gallu weithio gyda'n gilydd i reoli'r clefydl. Nid ydym am fod yn ôl yn y man cychwyn ym mis Mawrth 2027 lle mae'r broses yn dechrau eto.

“Yn ogystal â phrinder porthiant ar lawer o ffermydd oherwydd y cyfnodau sychder diweddar a'r haf poethaf ar gofnod, mae llif arian cyfyngedig yn golygu bod rhai ffermwyr yn wynebu cyfyng-gyngor dybryd: a ddylent frechu eu hanifeiliaid yn erbyn Tafod Glas neu brynu mwy o borthiant ar gyfer y gaeaf? Dyma pam rydym yn galw am gamau gweithredu ar unwaith i helpu i leddfu'r pwysau hwn; byddai cynyddu Taliadau Ymlaen Llaw cymorth fferm ym mis Hydref yn gymorth mawr i fusnesau ffermio yn y tymor byr.”

Wrth siarad am y cyfnod gwahardd taenu slyri, ychwanegodd Mr Rickman:
“Mae UAC yn cefnogi camau i wella ansawdd dŵr ac yn cydnabod bod gan amaethyddiaeth rôl i'w chwarae wrth leihau llygredd. Fodd bynnag, mae'r rheoliadau presennol yn rhy gaeth, yn rhy gostus ac yn rhy fiwrocrataidd. Mae’r sychder eleni wedi rhwystro taenu slyri ar yr amser priodol, ac mi allai canlyniadau hyn fod yn ddifrifol os na fydd ffermwyr yn gallu gwagio eu storfeydd cyn y gaeaf.

“Dyma pam rydym yn galw am dderogasiwn cyffredinol ar gyfer dechrau'r cyfnod gwaharddedig, er mwyn caniatáu i ffermwyr gymhwyso maetholion yn briodol a chynaeafu cnydau silwair cyn y gaeaf. Mae angen dull gweithredu synhwyrol arnom sy'n seiliedig ar amodau'r tywydd ac anghenion cnydau, a chydnabod pwysigrwydd hyn ar gyfer y cyflenwad porthiant gaeaf a lles anifeiliaid yng Nghymru.”

Newyddion Diweddaraf

Cysylltwch â ni

Ffôn : 01970 820820

Ebost : post@fuw.org.uk

Cyfryngau Cymdeithasol

Image