CONTACT

Undeb Amaethwyr Cymru’n croesawu cyhoeddiadau Llywodraeth Cymru ar gymorth SFS a thaenu slyri

Undeb Amaethwyr Cymru’n croesawu cyhoeddiadau Llywodraeth Cymru ar gymorth SFS a thaenu slyri

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi croesawu’r cyhoeddiad heddiw (Dydd Mercher 23 Medi 2026) gan Llywodraeth Cymru ei bod wedi codi'r gyfradd taliad ymlaen llaw sydd ar gael i ffermwyr o dan y BPS (Cynllun Taliad Sylfaenol) a'r SFS (Cynllun Ffermio Cynaliadwy) o 70% i 80%, ac y bydd yn deddfu i ymestyn y cyfnod agored i ffermwyr daenu slyri a thail tan 15 Tachwedd.

Daw'r cyhoeddiad ddiwrnod ar ôl i gynrychiolwyr yr Undeb gyfarfod â'r Gweinidog Cabinet dros Wydnwch a Chynaliadwyedd Gwledig, Llyr Gruffydd AS, yng Nghaerdydd ddoe ii bwyso am y newidiadau sydd wedi eu hamlinellu heddiw.

Dywedodd Llywydd yr FUW, Ian Rickman:
“Bydd cyhoeddiad heddiw gan Lywodraeth Cymru yn ryddhad i ffermwyr ledled Cymru ar ôl tymor hynod heriol i fusnesau ffermio. Gyda ffermwyr yn wynebu'r dilema o frechu yn erbyn Firws y Tafod Glas neu brynu mwy o borthiant ar gyfer y gaeaf, mae’r cynnydd yn y taliad cymorth fferm ym mis Hydref yn gam pwysig tuag at ysgafnhau’r pwysau ariannol tymor byr.

“Rydym yn croesawu'r camau pragmatig ac amserol y mae'r Gweinidog Cabinet wedi'u cymryd mewn ymateb i'n pryderon. Edrychwn ymlaen at adeiladu ar hyn i gyflawni newidiadau hirdymor i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, gan gynnwys meysydd allweddol sydd angen sylw brys i sicrhau bod haen gyffredinol y Cynllun yn fwy hygyrch ac ymarferol yn 2027.”

Mae cyhoeddiad Llywodraeth Cymru hefyd yn dilyn cyhoeddi papur polisi Undeb Amaethwyr Cymru ar Reoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru), a lansiwyd yn Sioe Brynbuga ar 12 Medi.

Mae'r papur yn dangos sut mae rheoliadau cyfredol wedi cynyddu'r baich gweinyddol ac ariannol ar fusnesau ffermio yn sylweddol; eto i gyd, mae data cydymffurfio Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn cefnogi'r pryder bod cyfran sylweddol o achosion o beidio â chydymffurfio yn ymwneud â gofynion gweinyddol neu gadw cofnodion, yn hytrach nag yn dystiolaeth o ddigwyddiadau llygredd neu niwed amgylcheddol.

Ychwanegodd Mr Rickman:
“Yr hydref hwn, mae llawer o ffermwyr yn disgwyl pori a thorri silwair yn llawer hwyrach nag arfer yn dilyn cynhaeaf haf gwael, wrth iddynt geisio mynd i'r afael â'r prinder porthiant gaeaf ac y mae rhai busnesau eisoes yn ei wynebu. Mae ymestyn y cyfnod ar gyfer taenu slyri ar bob math o bridd a thir yn rhoi amser gwerthfawr iddynt wneud gwell defnydd o'r maetholion hyn a gwagio eu storfeydd yn ddiogel wrth i'r gaeaf agosáu.

“Fodd bynnag, mae'r angen i fynd i'r afael â'r heriau mwy hir-dymor yn parhau. Rydym yn galw am ddull mwy cymesur, sy'n seiliedig ar risg. Byddai hyn yn cynnwys ystyried dewisiadau amgen i’r cyfnodau caeedig sefydlog, adolygu’r modd y mae terfynau nitrogen yn cael eu gweithredu, symleiddio cadw cofnodion a gofynion gweinyddol, a galluogi mwy o hyblygrwydd ac arloesedd yn y ffordd y mae'r rheoliadau'n cael eu cymhwyso. Mae'r rheoliadau fel y maent ar hyn o bryd yn rhy gaeth, yn rhy gostus ac yn rhy fiwrocrataidd, ac mae’r flwyddyn hon ar ei phen ei hun wedi dangos nad yw ffermio yn ôl y calendr yn gweithio.”

Newyddion Diweddaraf

Cysylltwch â ni

Ffôn : 01970 820820

Ebost : post@fuw.org.uk

Cyfryngau Cymdeithasol

Image