CONTACT

Gwahodd enwebiadau ar gyfer unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad rhagorol i’r sector laeth yng Nghymru

Gwahodd enwebiadau ar gyfer unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad rhagorol i’r sector laeth yng Nghymru

Ydych chi'n adnabod unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i’r diwydiant llaeth yng Nghymru?

Mae Undeb Amaethwyr Cymru, law yn llaw â NatWest Cymru, yn chwilio am enwebiadau ar gyfer ein Gwobr Gwasanaeth Rhagorol i Ddiwydiant Llaeth Cymru. Dyma'ch cyfle i dynnu sylw at unigolyn o fewn y sector llaeth sydd wedi gwneud cyfraniad unigryw i’r sector.

Mae'r wobr nodedig hon yn dathlu person sydd, nid yn unig wedi cyfrannu'n sylweddol at ddatblygiad y sector laeth yng Nghymru ond sydd hefyd wedi dod yn rhan allweddol o'i chymuned. 

Cyhoeddir ac anrhydeddir yr enillydd mewn cyflwyniad cyhoeddus yn Sioe Laeth Cymru ddydd Mawrth, Hydref 20, 2026 ar Faes Sioe'r Siroedd Unedig yn Nantyci, Caerfyrddin.

Wrth agor y broses enwebu ar gyfer Gwobr Gwasanaeth Rhagorol i Ddiwydiant Llaeth Cymru Undeb Amaethwyr Cymru/NatWest Cymru, dywedodd Rheolwr Gwasanaethau Aelodau Undeb Amaethwyr Cymru Sir Gaerfyrddin, David Waters: “Mae’r wobr hon yn gyfle gwych i gydnabod gwaith caled, ymroddiad ac arloesedd unigolyn sydd wedi helpu i lunio’r diwydiant er gwell. Rydym yn arbennig o falch fod NatWest Cymru yn cyd-noddi’r wobr eleni a bydd eu cefnogaeth yn sicrhau sylw haeddiannol i’r wobr hon.”

Ychwanegodd Dai Miles, Dirprwy Lywydd Undeb Amaethwyr Cymru ac un o gyn-enillwyr y wobr yn 2021: "Mae'r diwydiant llaeth yn rhan greiddiol o wead amaethyddol Cymru, ac yn gyfrannwr sylweddol at economi Cymru.

"Bob dydd mae unigolion yn gwneud cyfraniad unigryw wrth ddiogelu a hyrwyddo'r sector. Mae'r wobr hon felly yn gyfle gwych i ddathlu ac anrhydeddu'n gyhoeddus yr arwyr tawel hynny sy'n asgwrn cefn ein diwydiant.”

Dylai enwebiadau fod ar ffurf llythyr yn rhoi manylion llawn am waith a chyfraniad yr enwebai a dylid eu hanfon drwy e-bost at swyddfa FUW Caerfyrddin sef This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it. neu ei anfon drwy'r post at FUW Caerfyrddin, Swyddfa 10, Tŷ Myrddin, Heol yr Hen Orsaf, Caerfyrddin, SA31 1LP a hynny erbyn diwedd y dydd, Gwener 9 Hydref 2026.

Newyddion Diweddaraf

Cysylltwch â ni

Ffôn : 01970 820820

Ebost : post@fuw.org.uk

Cyfryngau Cymdeithasol

  • fas fa-x
  • fab fa-facebook-f
  • fab fa-instagram
Image