CONTACT

GWRANDEWCH: BVD - Ble ydyn ni?

Yn ystod Sioe Frenhinol Cymru eleni, recordiodd Undeb Amaethwyr Cymru drafodaeth banel arbenigol ar Ddolur Rhydd Feirysol Buchol (BVD) yng Nghymru.

Daw'r sesiwn ar adeg hollbwysig yn dilyn cyflwyno Gorchymyn BVD (Cymru) 2024, sydd wedi cyflwyno gofynion cyfreithiol newydd i geidwaid gwartheg ledled Cymru. Gan fod BVD yn parhau i effeithio ar iechyd buchesi, cynhyrchiant a phroffidioldeb ffermydd, nid yw deall y ddeddfwriaeth newydd erioed wedi bod yn bwysicach.

Gan ddod ag arbenigwyr blaenllaw ynghyd o'r sectorau da byw, milfeddygaeth a llunio polisi, mae'r panel yn trafod goblygiadau ymarferol y rheolau newydd ar draws yr amrywiaeth o systemau ffermio gwartheg yng Nghymru. Mae'r drafodaeth yn ateb cwestiynau cyffredin, yn egluro beth mae'r ddeddfwriaeth yn ei olygu yn ymarferol, ac yn cynnig cyngor gwerthfawr i helpu ffermwyr i baratoi ar gyfer y gofynion newydd ac i gydymffurfio â nhw.

Cadeiriwyd y sesiwn gan Alun Owen, Is-lywydd Rhanbarthol Undeb Amaethwyr Cymru, ffermwr ym Mhentrefoelas a Chynrychiolydd Ffermwyr BVD Cymru. Roedd y panel hefyd yn cynnwys:

  •  John Griffiths, Cadeirydd Grŵp Llywio BVD Cymru ac Pennaeth Ymchwil a Datblygu Amaethyddol yng Ngholeg Sir Gâr; 
  • Dr Phil Thomas, Cyfarwyddwr Ystwyth Vets a Chyfarwyddwr Canolfan Gwyddor Filfeddygol Cymru; 
  • Gwion Aeron, Arweinydd EIDCymru; 
  • Katie Davies, Partner ym Marchnad Da Byw Trefyclo; 
  • Richard Pizzey o Lywodraeth Cymru.

P'un a ydych am ddeall eich cyfrifoldebau o dan y ddeddfwriaeth newydd yn well, neu glywed safbwyntiau arbenigol ar reoli BVD mewn buchesi yng Nghymru, mae'r drafodaeth wybodaeth hon yn werth gwrando arni.

Newyddion Diweddaraf

Cysylltwch â ni

Ffôn : 01970 820820

Ebost : post@fuw.org.uk

Cyfryngau Cymdeithasol

  • fas fa-x
  • fab fa-facebook-f
  • fab fa-instagram
Image