CONTACT

Ymgyrch amlasiantaeth i hyrwyddo perchnogaeth gŵn gyfrifol yn Eryri yr haf hwn

Ymgyrch amlasiantaeth i hyrwyddo perchnogaeth gŵn gyfrifol yn Eryri yr haf hwn

Ymunodd Undeb Amaethwyr Cymru ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri dros benwythnos cyntaf gwyliau'r haf i hyrwyddo perchnogaeth gyfrifol o gŵn ac annog ymwelwyr i helpu i ddiogelu da byw, bywyd gwyllt a chefn gwlad Cymru.

Cynhaliwyd yr ymgyrch ymwybyddiaeth wrth droed Llwybr Llanberis, un o'r llwybrau prysuraf i gopa'r Wyddfa ac ymhlith llwybrau cerdded mwyaf poblogaidd y DU. Bu cynrychiolwyr yn siarad â channoedd o ymwelwyr, gan bwysleisio pwysigrwydd cadw cŵn o dan reolaeth a'r canlyniadau gall ymosodiadau gan gŵn gael ar dda byw a bywyd gwyllt.

Tynnodd yr ymgyrch sylw at effaith barhaus ymosodiadau gan gŵn ar dda byw, gŵn eraill yn ogystal â'r perygl i adar sy'n nythu ar y ddaear a rhywogaethau eraill o fywyd gwyllt sy'n dibynnu ar gynefinoedd bregusf Eryri.

Datgelodd cais blaenorol gan Undeb Amaethwyr Cymru, o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, i Heddlu Gogledd Cymru fod dros 80 o achosion o ymosodiadau ar dda byw wedi'u cofnodi yn y Gogledd yn ystod 2024, gan amlygu maint y broblem sy'n wynebu cymunedau amaethyddol.

Mae'r ymgyrch hefyd yn cyd-fynd â chyflwyniad Deddf Cŵn (Diogelu Da Byw (Diwygio)) 2025, a ddaeth yn gyfraith yn gynharach eleni. Mae'r ddeddfwriaeth yn cryfhau pwerau'r heddlu i fynd i'r afael ag aflonyddu da byw drwy ganiatáu i swyddogion atafaelu a chadw cŵn yr amheuir eu bod wedi ymosod ar dda byw. Mae hefyd yn darparu pwerau ehangach i gasglu tystiolaeth, gan gynnwys samplau DNA, er mwyn cefnogi ymchwiliadau ac atal digwyddiadau pellach.

Yn ogystal, mae'r ddeddf newydd wedi dileu'r terfyn blaenorol o £1,000 ar ddirwyon am droseddau sy'n ymwneud ag aflonyddu ar dda byw yng Nghymru a Lloegr. O ganlyniad, gall llysoedd bellach osod dirwyon diderfyn, gan gryfhau'r rhwystr yn erbyn perchnogaeth anghyfrifol o gŵn.

Dywedodd Simon Llewelyn Roberts, Uwch Warden Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri: "Mae Eryri yn gartref i fywyd gwyllt o bwysigrwydd rhyngwladol, ffermydd a da byw – pethau sy'n gwneud y Parc Cenedlaethol yn lle mor arbennig i ymweld ag ef.

"Mae perchnogaeth gyfrifol o gŵn yn hanfodol i ddiogelu da byw, gwarchod adar bregus sy'n nythu ar y ddaear, a chynnal y dirwedd unigryw hon ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Gall cadw cŵn o dan reolaeth dynn, yn ddelfrydol ar dennyn, wneud gwahaniaeth sylweddol i ddiogelwch pobl, anifeiliaid a chynefinoedd Eryri."

Dywedodd Aled Morgan Hughes, Pennaeth Cyfathrebu Undeb Amaethwyr Cymru: "Bob blwyddyn, gwelwn gynnydd sylweddol mewn ymosodiadau gan gŵn ar dda byw yn ystod misoedd prysur yr haf wrth i fwy o bobl ymweld â chefn gwlad gyda'u cŵn. Mae'r digwyddiadau hyn yn achosi dioddefaint mawr i anifeiliaid ac yn rhoi baich emosiynol ac ariannol sylweddol ar deuluoedd fferm.

"Rydym yn falch o gefnogi ymgyrch 'Dyma fy Nghartref' gyda'n partneriaid. Mae codi ymwybyddiaeth yn hanfodol os am atal ymosodiadau. Drwy gadw cŵn ar dennyn ac dan reolaeth dynn wrth ymyl da byw, gall ymwelwyr helpu diogelu anifeiliaid fferm, bywyd gwyllt a chefn gwlad Cymru.  Bydd hyn yn ei dro’n sicrhau bod pawb yn gallu mwynhau cefn gwlad yn ddiogel ac yn gyfrifol."

Mae'r ymgyrch hon yn rhan o ymgyrch 'Dyma fy Nghartref' Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, sy'n annog ymwelwyr i barchu'r dirwedd, y bywyd gwyllt a'r cymunedau amaethyddol sy'n gwneud y Parc Cenedlaethol yn unigryw. Cefnogir y fenter gan Undeb Amaethwyr Cymru, Cymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad (CLA), NFU Cymru a Heddlu Gogledd Cymru.

Newyddion Diweddaraf

Cysylltwch â ni

Ffôn : 01970 820820

Ebost : post@fuw.org.uk

Cyfryngau Cymdeithasol

  • fas fa-x
  • fab fa-facebook-f
  • fab fa-instagram
Image