CONTACT

Undeb Amaethwyr Cymru yn cyhoeddi Tir Dewi a Prostate Cymru fel elusennau'r Llywydd

Undeb Amaethwyr Cymru yn cyhoeddi Tir Dewi a Prostate Cymru fel elusennau'r Llywydd

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi cyhoeddi bod Tir Dewi a Prostate Cymru wedi cael eu dewis yn elusennau Llywydd yr Undeb ar gyfer y cyfnod 2026–2029, yn dilyn ail-ethol Ian Rickman yn Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru.

Gwnaed y cyhoeddiad yn ystod digwyddiad nos Fercher yn Sioe Frenhinol Cymru, gan nodi dechrau partneriaeth codi arian newydd dros dair blynedd gyda dwy elusen Gymreig sy'n cefnogi iechyd a lles cymunedau ffermio.

Daw'r penodiad yn sgil enwebiadau a gyflwynwyd gan ganghennau sirol Undeb Amaethwyr Cymru gyda Thir Dewi a Prostate Cymru yn cael cefnogaeth gref yn ystod y broses dewis.

Mae'r ddwy elusen yn dilyn elusen Ambiwlans Awyr Cymru, a fu'n elusen ddewisol Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru dros y tair blynedd ddiwethaf. Yn ystod y cyfnod hwnnw, cododd yr Undeb a'i haelodau £65,000 i gefnogi gwaith yr elusen o achub bywydau ledled Cymru.

TIR DEWI

Mae Tir Dewi yn darparu cymorth dwyieithog, cyfrinachol ac am ddim i ffermwyr a'u teuluoedd ledled Cymru, gan gynnig cymorth ymarferol ac emosiynol pan fydd bywyd ar y fferm yn mynd yn ormod i'w ysgwyddo. Drwy ei linell gymorth ddwyieithog sy'n gweithredu 365 diwrnod y flwyddyn, cymorth un-i-un, ymweliadau â ffermydd ac ymgysylltu â'r gymuned, mae'r elusen yn cefnogi mwy na 5,000 o bobl bob blwyddyn, gan ddarparu dros 11,000 o oriau o gymorth rheng flaen.

Gan weithio gyda thîm bach o staff parhaol a mwy na 50 o wirfoddolwyr, mae Tir Dewi yn helpu teuluoedd ffermio sy'n wynebu ystod eang o heriau, gan gynnwys profedigaeth, unigrwydd, problemau iechyd meddwl, pwysau ariannol, cynllunio olyniaeth, newidiadau rheoleiddiol ac anghydfodau teuluol. Mae'r elusen hefyd wedi gweld y galw am ei gwasanaethau yn cynyddu 18% dros y chwe mis diwethaf, gydag achosion cynyddol gymhleth yn gofyn am gymorth.

Dywedodd Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Ian Rickman: “Mae'n anrhydedd gennyf ddewis Tir Dewi a Prostate Cymru yn elusennau’r Llywydd ar gyfer y dair mlynedd nesaf. Mae'r ddau sefydliad yn gwneud gwaith amhrisiadwy wrth gefnogi iechyd a lles pobl ledled Cymru, ac rwy'n falch iawn y bydd yr Undeb yn gweithio ochr yn ochr â nhw dros y tair blynedd nesaf.

"Mae iechyd meddwl yn parhau i fod yn un o'r heriau mwyaf sylweddol sy'n wynebu ein cymunedau ffermio, gyda llawer o unigolion a theuluoedd yn delio â phwysau cynyddol. Mae Tir Dewi yn darparu ffynhonnell amhrisiadwy o gymorth cyfrinachol i'r rhai sy'n wynebu amgylchiadau anodd, ac rwy'n gobeithio y gallwn helpu i godi ymwybyddiaeth o'i gwasanaethau a chodi arian hanfodol ar gyfer ei gwaith.

"Ar yr un pryd, mae cansr y prostad yn effeithio ar filoedd o ddynion a'u teuluoedd ledled Cymru, gan wneud mwy o ymwybyddiaeth a diagnosis cynharach yn fwyfwy pwysig. Drwy gefnogi Prostate Cymru, rydym yn gobeithio tynnu sylw at y materion hyn wrth helpu'r elusen i barhau â'i gwaith pwysig.

"Rwy'n gwybod y bydd ein haelodau yn cefnogi'r ddwy elusen, ac rwy'n edrych ymlaen at weld y gwahaniaeth y gallwn ei wneud gyda'n gilydd dros y blynyddoedd i ddod.”

Dywedodd Janine Griffiths-Baker, Prif Weithredwr Tir Dewi: “Mae'n anrhydedd i ni gael ein dewis fel un o elusennau Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru.  Mae teuluoedd ffermio ledled Cymru yn parhau i wynebu pwysau personol, ariannol ac emosiynol sylweddol, a bydd y bartneriaeth hon yn ein helpu i gyrraedd mwy o bobl a allai fod yn dioddef yn ddistaw. Mae ein Cadeirydd, Peter Harlech Jones, yn ymuno â mi i fynegi ein diolch diffuant i Undeb Amaethwyr Cymru a'i haelodau am eu cefnogaeth. Edrychwn ymlaen at gydweithio dros y tair blynedd nesaf i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd lles o fewn ein cymunedau ffermio.”

PROSTATE CYMRU

Bydd yr Undeb hefyd yn cefnogi Prostate Cymru, elusen Gymreig sy'n gweithio i godi ymwybyddiaeth o ganser y prostad a chlefydau eraill y prostad, gan gefnogi gwelliannau o ran diagnosis, triniaeth a gofal i ddynion ledled Cymru.

Mae penodiad yr elusen yn arbennig o amserol yn dilyn y diagnosisau diweddar o ganser y prostad i ddau Is-lywydd Rhanbarthol Undeb Amaethwyr Cymru, Alun Owen a Brian Bowen.

Canser y prostad yw'r canser mwyaf cyffredin sy'n effeithio ar ddynion yng Nghymru, gyda disgwyl i tua un o bob wyth dyn gael diagnosis yn ystod eu hoes. Bydd y bartneriaeth yn rhoi cyfle i godi ymwybyddiaeth o'r cyflwr ac i gefnogi gwaith yr elusen dros y tair blynedd nesaf.

Dywedodd Is-lywydd Rhanbarthol Undeb Amaethwyr Cymru, Alun Owen: “Ar ôl cael diagnosis o ganser y brostad yn ddiweddar ac wedi cael triniaeth, rwy’n arbennig o falch o weld Undeb Amaethwyr Cymru yn cefnogi Prostate Cymru fel un o elusennau’r Llywydd.

"Rwy’n gobeithio y bydd y bartneriaeth hon yn helpu i godi ymwybyddiaeth o ganser y brostad ac yn annog mwy o ddynion mewn ardaloedd gwledig i siarad â’u meddyg teulu am dderbyn prawf, p’un a oes ganddynt symptomau ai peidio. Gall diagnosis cynnar wneud gwahaniaeth gwirioneddol, a bydd y bartneriaeth hon hefyd yn cefnogi’r gwaith amhrisiadwy y mae Prostate Cymru yn ei wneud dros unigolion a theuluoedd ledled Cymru.”

Dywedodd Tina Tew, Prif Weithredwr Prostate Cymru: “Rydym wrth ein bodd ein bod wedi cael ein dewis fel un o elusennau Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru ar gyfer y tair blynedd nesaf. Mae'r gymuned ffermio wrth wraidd Cymru, ac mae'r bartneriaeth hon yn cynnig cyfle pwysig i godi ymwybyddiaeth o ganser y prostad, annog sgyrsiau am iechyd dynion a chefnogi ymdrechion i wella canlyniadau i ddynion ledled y wlad. Edrychwn ymlaen at weithio ochr yn ochr ag Undeb Amaethwyr Cymru a'i haelodau drwy gydol y bartneriaeth.”

Wrth gyhoeddi'r elusennau, dywedodd Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Ian Rickman, fod y dewis yn adlewyrchu'r blaenoriaethau a nodwyd gan ganghennau sirol yr Undeb, yn ogystal â'r pwysigrwydd o gefnogi sefydliadau sy'n gwneud gwahaniaeth sylweddol i deuluoedd ffermio a chymunedau gwledig ledled Cymru.

Dros y tair blynedd nesaf, bydd Undeb Amaethwyr Cymru yn gweithio'n agos gyda’r ddwy elusen trwy ddigwyddiadau codi arian ac ymgyrchoedd ymwybyddiaeth ledled Cymru, gan helpu i gryfhau'r gefnogaeth i les corfforol a meddyliol cymunedau ffermio.

Newyddion Diweddaraf

Cysylltwch â ni

Ffôn : 01970 820820

Ebost : post@fuw.org.uk

Cyfryngau Cymdeithasol

  • fas fa-x
  • fab fa-facebook-f
  • fab fa-instagram
Image