CONTACT
Y Sioe Fawr: Dewch i'n gweld!
Mae Sioe Fawr 2026 bron yma, a gynhelir o ddydd Llun 20 Gorffennaf hyd ddydd Iau 23 Gorffennaf yn Llanelwedd. Mae Undeb Amaethwyr Cymru a Gwasanaethau Yswiriant FUW yn edrych ymlaen at groesawu aelodau, cwsmeriaid ac ymwelwyr am bedwar diwrnod arbennig yn dathlu'r gorau o Gymru wledig.
Bydd Pafiliwn yr Undeb unwaith eto yn cynnal rhaglen amrywiol o seminarau, trafodaethau panel a digwyddiadau drwy gydol yr wythnos, ynghyd â siaradwyr gwadd, diweddariadau o'r diwydiant a chyfleoedd i ddal i fyny â chydweithwyr a ffrindiau o bob cwr o Gymru.
Rydym hefyd yn falch iawn o groesawu Bwncath yn ôl i'r Pafiliwn nos Fawrth – un o uchafbwyntiau'r Sioe bob blwyddyn.
Cadwch lygad ar ein gwefan a'n sianeli cyfryngau cymdeithasol cyn y Sioe am y manylion diweddaraf am y rhaglen, cyhoeddiadau am ddigwyddiadau a'r holl ddiweddariadau. Edrychwn ymlaen at eich gweld yn Llanelwedd!

11:00yb - Dydd Llun - Pafiliwn Undeb Amaethwyr Cymru
Gair gan y Gweinidog: Llyr Gruffydd AS - Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd
Ymunwch â Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Ian Rickman, am drafodaeth gyda Gweinidog y Cabinet dros Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd Llywodraeth Cymru, Llyr Gruffydd AS.
Bydd y cyfarfod yn gyfle i'r Gweinidog amlinellu ei flaenoriaethau yn y rôl a rhannu ei weledigaeth ar gyfer dyfodol amaethyddiaeth yng Nghymru. Bydd y rhai sy'n bresennol hefyd yn cael y cyfle i glywed yn uniongyrchol gan y Gweinidog a chael cipolwg ar gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer y sector.
2:15yh - Dydd Llun - Pafiliwn Undeb Amaethwyr Cymru
Pweru Economïau Gwledig: Menywod yn Arwain Newid yng Ngwleidyddiaeth Cymru
Mae Women in Public Affairs Cymru (WiPA), gyda chefnogaeth Grasshopper Communications, yn falch o gynnal trafodaeth banel yn Sioe Frenhinol Cymru eleni, yn archwilio rôl menywod wrth lunio dyfodol Cymru wledig.
Bydd y drafodaeth amserol hon yn dod â lleisiau ynghyd o fyd gwleidyddiaeth, amaethyddiaeth, cyfathrebu ac arweinyddiaeth gymunedol i ystyried sut mae menywod yn dylanwadu ar bolisi a phenderfyniadau ledled Cymru wledig. Bydd y sesiwn yn trafod materion allweddol, gan gynnwys llwybrau arweinyddiaeth i fenywod, dyfodol economïau gwledig a'r newid ym maes amaethyddiaeth, yn ogystal â sut i gryfhau llais gwleidyddol a gwelededd menywod iau. Ymhlith y siaradwyr sydd wedi'u cadarnhau mae: Caryl Gruffydd Roberts (FUW), Clare Jones (Grasshopper Communications), Kate Miles (DPJ Foundation).

11:00yb - Dydd Mawrth - Pafiliwn Undeb Amaethwyr Cymru
Niferoedd Da Byw yng Nghymru: Ydyn ni'n mynd i'r cyfeiriad cywir?
A yw niferoedd da byw yng Nghymru yn symud i'r cyfeiriad cywir - a beth sydd gan y dyfodol i'w gynnig? Mae'r panel hwn yn dod a lleisiau allweddol o bob rhan o'r gadwyn gyflenwi at ei gilydd i archwilio'r pwysau, y polisïau a'r blaenoriaethau sy'n llunio ffermio da byw Cymru. Gyda sylw cynyddol ar dargedau hinsawdd a galwadau i leihau allyriadau, bydd y drafodaeth yn archwilio beth allai newid yn niferoedd da byw ei olygu i'r economi, yr amgylchedd, a dyfodol cymunedau gwledig a’r ucheldir. Wedi'i seilio ar safbwynt Undeb Amaethwyr Cymru o na ddylai polisïau effeithio'n negyddol ar niferoedd da byw, bydd y sesiwn yn herio sut rydym yn taro'r cydbwysedd cywir rhwng nodau amgylcheddol a chynaliadwyedd amaethyddol. Bydd hon yn sgwrs agored ac amserol, a bydd y seminar hwn yn cynnig mewnwelediad, dadl a safbwyntiau ymarferol ar un o'r materion pwysicaf sy'n wynebu ffermio Cymru heddiw.
Panel: Y Cynghorydd Cllr Wyn Evans FRAgS (Is-Gadeirydd Welsh Lamb & Beef Producers), Professor Prysor Williams, Alastair Brown (LAA), Wyn Williams (Ffermwr Gyfarwyddwr Undeb Amaethwyr Cymru), Leisa Tudor (Dunbia), Cath Smith (Cadeirydd Hybu Cig Cymru)
1:00yh - Dydd Mawrth - Pafiliwn Undeb Amaethwyr Cymru
Dyfodol cysyllted gwledig yng Nghymru
Sesiwn Ofcom
Mae cysylltedd dibynadwy yn hanfodol i gymunedau, busnesau a gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru. Bydd y sesiwn yn ystyried cysyllted ffonau symudol a band-eang presennol ardaloedd gwledig Cymru a sut mae modd sicrhau bod cysylltedd yn gweithio i bawb yn y dyfoldol.
Gyda phanel o uwch swyddogion o Ofcom, VodafoneThree, Openreach ac Undeb Amaethwyr Cymru, bydd sesiwn holi ac ateb fyw yn rhoi cyfle i chi rannu eich profiadau, gofyn cwestiynau a thrafod yn uniongyrchol gydag arbenigwyr o'r diwydiant a llunwyr polisi.
6:30yh - Dydd Mawrth - Pafiliwn Undeb Amaethwyr Cymru
Gig BWNCATH
Ymunwch a ni am berfformiad gan y band hynod boblogaidd Bwncath. Tocynnau ar gael isod:
https://farmersunionofwales.zohobackstage.com/Bwncath2026#/

10:00yb - Dydd Mercher - Pafiliwn Undeb Amaethwyr Cymru
BVD: Ble ydyn ni?
Wrth i Gam 2 o Orchymyn Dolur Rhydd Feirysol Buchol (Cymru) 2024 ddod i rym, mae deall beth mae'r rheolau newydd yn ei olygu i ffermydd gwartheg Cymru yn bwysicach nawr nag erioed. Yn Sioe Frenhinol Cymru eleni, bydd Undeb Amaethwyr Cymru yn cynnal sesiwn Holi ac Ateb amserol yn archwilio goblygiadau ymarferol deddfwriaeth Dolur Rhydd Feirysol Buchol (BVD) ar draws systemau ffermio amrywiol Cymru. Gyda BVD yn parhau i effeithio ar iechyd buchesi a phroffidioldeb ffermydd, mae'r drafodaeth hon yn cynnig cyfle gwerthfawr i fynd i'r afael â phryderon, egluro’r gofynion a chlywed y mewnwelediad arbenigol.
11:00yb - Dydd Mercher - Pafiliwn Undeb Amaethwyr Cymru
Cynaeafu cynnwys: Ffermio a’r cyfryngau cymdeithasol
Mae’r cyfryngau cymdeithasol wedi trawsnewid sut mae ffermio’n cysylltu â’r cyhoedd, gan gynnig cyfleoedd digynsail i arddangos bywyd ar y tir ac adrodd stori amaethyddiaeth yn uniongyrchol. O greu cynnwys a thyfu dilyniant i fynd i’r afael â chamsyniadau a hyrwyddo realiti amaethyddiaeth fodern, bydd ein panelwyr yn archwilio pŵer llwyfannau digidol i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd. Rydym yn hynod falch o gael ein ymuno gan y ffarmwr ar-lein adnabyddus Cameron Wilson (Cammy) o’r Sheep Game, Leah MeirioN (Pennaeth Marchnata Amaethyddol Mole Valley Farmers) a Caryl Gruffydd Roberts o Undeb Amaethwyr Cymru.

11:00yb - Dydd Mercher - Pafiliwn Undeb Amaethwyr Cymru
Diogelwch eich Fferm, Diogelwch eich Dyfodol
Mae seiberdroseddu yn fygythiad cynyddol i'r sector amaethyddol. Yn y sesiwn hon, bydd y Ditectif Arolygydd Paul Hall o Ganolfan Seiber Gydnerth Cymru yn trafod y dulliau mwyaf cyffredin y mae troseddwyr yn eu defnyddio i dargedu ffermwyr ar-lein, yn tynnu sylw at y bygythiadau seiber diweddaraf, ac yn cynnig cyngor ymarferol ar sut i ddiogelu eich fferm, eich busnes a'ch gwybodaeth rhag seiberdroseddu.

