CONTACT
Undeb Amaethwyr Cymru yn amlinellu blaenoriaethau allweddol yr etholiad i Reform UK
Cyn etholiad y Senedd ym mis Mai, mae Undeb Amaethwyr Cymru yn parhau i groesawu cynrychiolwyr ar draws y pleidiau gwleidyddol i ffermydd ledled Cymru. Nod yr ymweliadau hyn yw tynnu sylw at flaenoriaethau polisiau allweddol yr Undeb ar gyfer y sector ffermio a chymunedau gwledig cyn tymor nesaf y Senedd a Llywodraeth Cymru.
Fel rhan o'r ymgysylltiad parhaus hwn, ynghyd â chynrychiolwyr Undeb Amaethwyr Cymru bu Llywydd yr Undeb Ian Rickman, yn cyfarfod ag ymgeiswyr Reform UK ym Mhentrefoelas, Conwy yn ddiweddar i drafod materion allweddol sy'n effeithio ar ffermio a chymunedau gwledig.
Roedd yr ymgeiswyr a oedd yn bresennol yn cynnwys Richard John Jones a Thomas John Clark (Bangor Conwy Môn), Adrian Mason (Clwyd), Nigel Williams, Paul Ashton a Cristiana Emsley (Fflint Wrecsam) ac Andrew Griffin (Gwynedd Maldwyn).
Ailadroddodd Undeb Amaethwyr Cymru ei galwadau maniffesto i Lywodraeth nesaf Cymru ddarparu cyllid digonol, cynnal cydweithrediad agos â'r diwydiant ffermio, a chyflwyno fframwaith ariannol tymor canolig sy'n rhoi sicrwydd i fusnesau ffermio Cymru.
Amlinellodd swyddogion yr Undeb hefyd amcanion eu maniffesto, gan alw am sylfeini cryf ar gyfer cymunedau gwledig ac am roi’r iaith Gymraeg wrth wraidd llunio polisïau yn y dyfodol. Pwysleisiodd cynrychiolwyr yr Undeb bwysigrwydd cydnabod y berthynas agos rhwng ffermio Cymru a bywyd gwledig, a’r angen am wneud penderfyniadau cydgysylltiedig ar draws meysydd fel tai, cysylltedd digidol, addysg a throseddau gwledig.
Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i gefnogi canfyddiadau’r Comisiwn ar gyfer Cymunedau Cymraeg trwy sicrhau bod yr iaith Gymraeg, ynghyd ag egwyddor pwysigrwydd ffermydd teuluol, yn ganolog i ddatblygu polisi amaethyddol ac amgylcheddol Cymru. Mae hefyd yn annog gweithredu ar sail cydnabod cyfyngder mynediad band eang mewn llawer o gymunedau gwledig a sicrhau nad yw busnesau’n cael eu gosod ar anfantais wrth symud tuag at wasanaethau ar-lein yn unig, ochr yn ochr ag ymrwymiadau cryfach i fynd i'r afael â throseddu gwledig drwy strwythurau a strategaethau cydlynu presennol.
Amlinellodd Undeb Amaethwyr Cymru ofynion allweddol pellach yn y maniffesto gan gynnwys: mynd i'r afael â biwrocratiaeth; mesurau newydd i gefnogi newydd-ddyfodiaid i ffermio, dull cyfannol, dan arweiniad gwyddoniaeth, i ddileu TB mewn gwartheg sy'n mynd i'r afael â bywyd gwyllt yn ogystal â gwartheg; ac adolygiad o reoliadau ansawdd dŵr sy'n seiliedig ar risg i sicrhau bod polisïau'n gymesur, yn fforddiadwy ac yn effeithiol.
Wrth wneud sylwadau yn dilyn yr ymweliad, dywedodd Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Ian Rickman: “Mae ffermwyr yng Nghymru yn gweithredu mewn amgylchedd sy’n gynyddol ansicr, a bydd y penderfyniadau a wneir yn nhymor nesaf y Senedd yn hanfodol i ddyfodol ein diwydiant, ein cymunedau gwledig, a’r iaith Gymraeg. Mae’r etholiad hwn yn gyfle allweddol i sicrhau bod amaethyddiaeth Cymru yn cael ei gefnogi gyda sefydlogrwydd hirdymor, cyllid teg, a pholisïau sy’n adlewyrchu realiti ffermio ar lawr gwlad.
“Rydym yn ddiolchgar i ymgeiswyr Reform UK am gyfarfod â ni cyn yr etholiad, ac edrychwn ymlaen at barhau i ymgysylltu â phob plaid wleidyddol yn y cyfnod cyn etholiad y Senedd i sicrhau bod lleisiau a blaenoriaethau ffermwyr Cymru yn cael eu clywed ar draws y sbectrwm gwleidyddol.”

