fas fa-person-walking-dashed-line-arrow-right

JOIN

CONTACT

Undeb Amaethwyr Cymru yn dathlu'r 70 mewn Cynhadledd Fusnes Blynyddol llwyddiannus

Undeb Amaethwyr Cymru yn dathlu'r 70 mewn Cynhadledd Fusnes Blynyddol llwyddiannus

Eleni, mae Undeb Amaethwyr Cymru yn nodi ei phen-blwydd yn 70 oed, a dathlwyd y garreg filltir arwyddocaol hon yn eu Cynhadledd Fusnes Blynyddol, a gynhaliwyd yn Aberystwyth ar Fehefin 12fed a 13eg.

Daeth dros gant o staff ac uwch swyddogion o'r Undeb a Gwasanaethau Yswiriant FUW ynghyd i rwydweithio, edrych nôl ar y flwyddyn ddiwethaf, a choffáu saith degawd ers sefydlu'r Undeb ym 1955.

Roedd agenda’r gynhadledd yn cynnwys cyflwyniad gan Brif Weithredwr Grŵp Undeb Amaethwyr Cymru, Guto Bebb, yn edrych nôl ar dwf y busnes dros y flwyddyn. Bu trafodaeth banel, yn cynnwys Cadeirydd Gwasanaethau Yswiriant FUW, Ann Beynon OBE, ac Aelod o’r Bwrdd, Louise Coulton, yn ogystal â Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Ian Rickman, a’r Ffermwr Gyfarwyddwr, Gareth Lloyd, hefyd yn ymchwilio’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu’r busnes a’r sector amaethyddol ehangach.

Derbyniodd y gynhadledd gefnogaeth gref gan dros ugain o bartneriaid busnes, gyda FarmWeb - un o bartneriaid yswirwyr Gwasanaethau Yswiriant FUW - yn noddi'r gynhadledd. Yn y cyfamser, noddodd MSAmlin ginio'r gynhadledd, gyda Close Brothers Finance yn noddi derbyniad diodydd cyn y cinio.

Gwobrau

Yn ogystal â’r cyfle i edrych nôl ar y flwyddyn, roedd y Gynhadledd hefyd yn gyfle i gydnabod ac amlygu gwaith staff Undeb Amaethwyr Cymru a Gwasanaethau Yswiriant FUW drwy gydol y flwyddyn, gyda chyflwyniad o wobrau wedi ei noddi gan yr yswiriwr moduron arbenigol, ERS.

Cyflwynwyd Gwobr Tîm Gorau Undeb Amaethwyr Cymru i Adran Gyllid Undeb Amaethwyr Cymru. Roedd y wobr yn cydnabod gwaith caled ac ymroddiad y staff wrth reoli cyllid Undeb Amaethwyr Cymru yn effeithiol, gyda gwaith gofalus ac effeithiol y tîm yn aml yn ennill canmoliaeth gan archwilwyr allanol.

Cyflwynwyd Gwobr Meurig Voyle i Joyce Owens, Cynorthwyydd Gweinyddol yn swyddfa Undeb Amaethwyr Cymru yng Nghaerfyrddin, ac mae’n cael ei gyflwyno i aelod o staff sydd wedi dangos ymrwymiad, teyrngarwch, cefnogaeth a brwdfrydedd tuag at yr undeb. Mae Joyce wedi gweithio i Undeb Amaethwyr Cymru ers dros 20 mlynedd, gan weithio'n effeithiol fel cyswllt allweddol rhwng yr undeb a'i haelodaeth yn Sir Gaerfyrddin.

Roedd yn ddathliad dwbl i Joyce, wrth i dîm Undeb Amaethwyr Cymru Caerfyrddin hefyd ennill Gwobr Owen Slaymaker, a roddir yn flynyddol i'r gangen sirol sydd wedi hyrwyddo buddiannau aelodau ac Undeb Amaethwyr Cymru orau. Yn ogystal â gwasanaethu'r aelodaeth yn Sir Gaerfyrddin, mae'r tîm hefyd wedi cefnogi aelodau ledled Sir Forgannwg yn effeithiol dros y misoedd diwethaf. Roedd y wobr yn arbennig o amserol eleni, wrth i Undeb Amaethwyr Cymru ddathlu 70 mlynedd ers ei sefydlu yn Sir Gaerfyrddin. 

Cyflwynwyd gwobrau i staff Gwasanaethau Yswiriant FUW hefyd mewn cyflwyniad a noddwyd gan y cwmni yswiriwr moduron arbenigol, ERS.

Enillodd yr Uwch Weithredwr Yswiriant, Sam Evans, y Wobr Datblygu Busnes yn cydnabod y twf mwyaf mewn portffolio unigol. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Sam wedi sicrhau llawer iawn o dwf trwy'r lefel arbennig o wasanaeth y mae'n ei gynnig i gwsmeriaid presennol a newydd. Cyflwynodd Sam ei wobr i'w diweddar ffrind a chydweithiwr, Will Beynon, a fu farw yn gynharach eleni.

Cafodd Sophie Pritchard a Lowri Williams o Lanrwst eu cydnabod am eu gwaith hefyd, gyda Sophie yn ennill y wobr am y Portffolio a Reolir Orau gan Weithredwr Yswiriant, a Lowri Williams yn ennill y wobr am y Portffolio a Reolir Orau gan Gydlynydd Cyfrif. Roedd y gwobrau'n cydnabod eu hymdrechion i reoli eu portffolio mewn manylder, bodloni dangosyddion perfformiad allweddol a bod ar frig y gynghrair ym mhob archwiliad. Hyn i gyd wrth gyrraedd lefel arbennig o dwf gwerthiant.

Yn olaf, enillodd Heulwen Thomas, sy’n gweithio yn Llanbed, wobr Cydlynydd Cyfrif y flwyddyn. Mae Heulwen yn rhan annatod o dîm Llanbed, lle mae hi'n hynod gydwybodol ac yn gweithio i'r safonau uchaf. Heulwen yw arwres dawel y cwmni gan weithio'n dawel ac yn bwyllog yn y cefndir, felly roedd yn briodol bod ei chyfraniad yn cael ei gydnabod.

Wrth wneud sylwadau yn dilyn cynhadledd lwyddiannus, dywedodd Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Ian Rickman:

"Roedd Cynhadledd Fusnes Blynyddol eleni yn achlysur arbennig iawn, gan nodi 70 mlynedd ers sefydlu Undeb Amaethwyr Cymru. Roedd yn gyfle gwych i ddod â'n timau o'r Undeb a Gwasanaethau Yswiriant FUW ynghyd, dathlu ein cyflawniadau ac edrych ymlaen at ddyfodol amaethyddiaeth.

Ymroddiad a gwaith caled ein staff yw asgwrn cefn ein llwyddiant, ac roedd yn fraint cydnabod eu cyfraniadau arbennig drwy'r seremoni wobrwyo. Rydym yn hynod falch o'n holl enillwyr ac yn wir, pob aelod o'n tîm sy'n parhau i yrru ein twf fel busnes, ac yn gweithio'n ddiflino i wasanaethu anghenion cefn gwlad Cymru.”

Ychwanegodd Cadeirydd Gwasanaethau Yswiriant FUW, Ann Beynon OBE:

"Ni fyddai llwyddiant ein Cynhadledd Fusnes Blynyddol wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth anhygoel ein partneriaid busnes gwerthfawr. Rydym yn ddiolchgar iawn i FarmWeb am eu nawdd i'r gynhadledd, ac i'n holl bartneriaid eraill a gefnogodd y ddau ddiwrnod llwyddiannus. Mae eu hymrwymiad parhaus i'n digwyddiad yn tanlinellu'r partneriaethau cryf rydym wedi'u hadeiladu sy'n caniatáu i'r busnes barhau i dyfu o nerth i nerth."

Roedd yr awyrgylch drwy gydol y ddau ddiwrnod yn hynod gadarnhaol. Roedd hi’n arbennig o ysbrydoledig gweld cymaint o gydweithwyr yn cymryd rhan mewn trafodaethau a rhwydweithio ystyrlon, gan adlewyrchu cryfder yr ysbryd cydweithredol sy'n gyrru ein llwyddiant ar y cyd.

Newyddion Diweddaraf

Cysylltwch â ni

Ffôn : 01970 820820

Ebost : post@fuw.org.uk

Cyfryngau Cymdeithasol

  • fas fa-x
  • fab fa-facebook-f
  • fab fa-instagram
Image