Image

Achos & Hanes

Yr achos

Ni yw'r unig gorff sy'n cynrychioli ffermwyr ac yn canolbwyntio yn llwyr ar amaethyddiaeth yng Nghymru, heb unrhyw benderfyniadau allanol neu ddylanwadau ariannol.

Gwaith UAC yw datgan safbwyntiau ffermwyr Cymru yn ddiduedd ac yn rhydd o unrhyw fuddiannau ariannol allanol. Prif neges UAC yw ‘Amaeth Am Byth’ gan ein bod yn gwybod bod amaethyddiaeth yn angor mewn nifer o ffyrdd. Nid yn unig mae ffermydd yn cynhyrchu bwyd, ond maent hefyd yn un o gonglfeini ein heconomïau gwledig.  

Fel Undeb rydym yn gwybod bod ffermydd teuluol yn arbennig yn ganolog i'n heconomi wledig, yn gofalu am ein tirwedd, a’n diwylliant wrth gwrs, ac yn cyfrannu mewn nifer o ffyrdd eraill i les Cymru a'r DU

Image

Sefydlwyd UAC ym 1955 ymhlith pryderon y byddai buddiannau ffermwyr Cymru bob amser yn dod yn ail i'r rhai oedd yn ffermio mewn ardaloedd âr mwy ffrwythlon yn Lloegr.

Ar yr 8fed o Ragfyr 1955, trefnodd JB Evans, ysgrifennydd sirol yr NFU lleol gyfarfod anffurfiol yn ei swyddfa gyda cadeirydd y sir Ivor T Davies. Wedi cael llond bol o ffermwyr Cymru yn cael eu hanwybyddu gan y llywodraeth yn Llundain ac agwedd negyddol yr NFU tuag at Gymru, penderfynwyd gwneud rhywbeth am y peth.Yng nghyfarfod nesaf o bwyllgor yr NFU yn Sir Gaerfyrddin, gofynnwyd i’r rheiny oedd yn teimlo bod ffermwyr Cymru’n cael cam i aros ar ôl i ffurfio Undeb Amaethwyr Cymru.

Arhosodd 12 ffermwyr, a dyna gychwyn ar bethau!