fas fa-person-walking-dashed-line-arrow-right

JOIN

CONTACT

Ffermwyr Gyfarwyddwyr Bwrdd UAC

Mae’r Bwrdd Cyfarwyddwyr yn cynnwys Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru Ian Rickman, Dirprwy Lywydd Undeb Amaethwyr Cymru Dai Miles, Prif Weithredwr y Grŵp Guto Bebb, Cyfarwyddwr Cyllid Simon Longworth, y Ffermwyr Gyfarwyddwyr Darren Williams, Gareth Lloyd ac Wyn Williams, yn ogystal â Chyfarwyddwyr Anweithredol Angela Davies.

Mae ein Cyfarwyddwyr Ffermwyr yn dod â’r elfen llawr gwlad i’r bwrdd gyda’u cyfoeth o arbenigedd o ffermio i fusnes, a diolchaf i’r tri ohonynt am y gwaith y maent eisoes wedi’i wneud dros y blynyddoedd a’u hymrwymiad parhaol i ddyfodol yr Undeb hon.

“Edrychaf ymlaen at greu strategaethau ffres ar gyfer UAC ac rwy’n gyffrous i weithio gyda thîm mor wych. Bydd ein strategaethau yn parhau i gael eu gyrru gan effeithiolrwydd, gwell llywodraethu, tryloywder ac effeithlonrwydd,” meddai Llywydd UAC, Ian Rickman.

Image

Darren Williams

Mae Darren Williams yn ffermwr tenant ar fferm 270 erw y tu allan i Aberhonddu. Ynghyd â'i wraig Rachel a dau fab ifanc, maent yn cadw 500 o ddefaid, 100 o ŵyn benyw a 100 o wartheg. Ar ôl ennill BSc mewn amaethyddiaeth yn Aberystwyth, dechreuodd ffermio ar ddaliad cyngor sir yn Glasbury ac yna bu’n ddigon ffodus i symud i fferm denant fwy 9 mlynedd yn ôl. 

Mae'r fferm yn fferm gymysg, yn tyfu corn eu hunain ar gyfer pesgi gwartheg, ac yn tewhau eu hŵyn ar gnydau porthiant a phorfa a meillion coch. Mae hefyd yn cynrychioli UAC ar y Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth sy'n delio â Chyflogau Amaethyddol.

Image

Wyn Williams

Mae Wyn Williams yn ffermwr ac yn Gyfarwyddwr ar Fwrdd Undeb Amaethwyr Cymru. Mae’n ffermio yn Fferm Penllwyn, Llanfair Caereinion, Powys, fferm fynydd 280 erw lle mae’n cadw 600 o ddefaid a 150 o ŵyn benyw.

Gyda phrofiad helaeth yn y sector da byw, gynt bu Wyn yn gweithio fel Uwch Brynwr Da Byw yn Dunbia (Llanybydder) a bu hefyd mewn swyddi allweddol fel Rheolwr Caffael y Grŵp a Rheolwr Caffael Da Byw. Mae hefyd wedi gwasanaethu ar Fwrdd Hybu Cig Cymru am naw mlynedd.

Ar hyn o bryd mae Wyn yn Gadeirydd Sir Undeb Amaethwyr Cymru Sir Drefaldwyn, ar ôl cael ei ethol ym mis Hydref 2024. Yn ogystal â’i rôl yn Undeb Amaethwyr Cymru, mae hefyd yn Gyfarwyddwr Cynhyrchwyr Cig Oen ac Eidion Cyf (WLBP).

Yn angerddol am ddyfodol ffermio, mae Wyn wedi ymrwymo i sicrhau bod aelodau Undeb Amaethwyr Cymru yn cael y gefnogaeth a’r gynrychiolaeth sydd eu hangen arnynt yn ystod y cyfnod hwn o newid yn y sector amaethyddol.

Image

Gareth Lloyd 

Cafodd Gareth Lloyd ei apwyntio yn gyfarwyddwr ffermio i Undeb Amaethwyr Cymru yn 2024. Gareth yw’r drydedd genhedlaeth i ffermio yng Nghlettwr- fferm 227-erw yn Nhalgarreg, yng nghalon Ceredigion. 

Mae’n byw ar y fferm gyda’i wraig, Cerys, a’i blant, Betsan ac Endaf, gyda’i rieni - nawr wedi ymddeol - yn byw yn y tŷ fferm. Mae’n cadw tua 400 o ddefaid, 100 o wyn menwed, (Texel, Llanwenog, Speckle a Chymraeg), gan fagu 30 - 40 o hyrddod blwydd, a magu tua 100 o loi bob blwyddyn o fwced a gwerthu fel "stores" yn 18 mis oed. Gyda chymorth y plant, mae’n mwynhau arddangos ei ddefaid Llanwenog yn y Sioe Frenhinol a defaid Llanwenog a Texel mewn nifer o sioeau lleol dros yr haf. 

Mae Gareth wedi gwasanaethu fel Cadeirydd Undeb Amaethwyr Cymru Ceredigion ers 2023, gan hefyd gynrychioli ardal Talgarreg ar Gyngor Sir Ceredigion fel Cynghorydd Sir annibynnol yng Ngheredigion ers 2008. Mae Gareth yn weithgar iawn yn ei gymuned, gan eistedd ar nifer o grwpiau a mudiadau, gan gynnwys Cymdeithas Defaid Llanwenog.

Image

Angela Davies (Cyfarwyddwr Anweithredol)  

Penodwyd Angela Davies fel Cyfarwyddwr Anweithredol ym mis Hydref 2025. Wedi’i magu mewn pentref bach gwledig ger Croesoswallt, ar y ffin rhwng Cymru a Swydd Amwythig, mae Angela wedi cael cysylltiad gydol oes gyda’r byd amaeth a bywyd cefn gwlad. Bellach yn byw yn Wrecsam gyda'i gŵr Martyn, mae ei hangerdd dros gymunedau gwledig yn parhau’n gryf.

Mae Angela yn dod â chyfoeth o brofiad i'r rôl, gyda dros 25 mlynedd o weithio ar draws y sectorau gwirfoddol, elusennol a llywodraeth leol.

Yn gyfrifydd cymwysiedig gyda gradd meistr mewn polisi a gweinyddiaeth gyhoeddus, mae hi wedi dal swyddi arweinyddiaeth drwy gydol ei gyrfa, gan gynnwys fel Cyfarwyddwr Gweithredol Cymdeithas Saethu a Chadwraeth Prydain (BASC).

Mae Angela’n edrych ymlaen at gyfrannu at y gwaith pwysig mae Undeb Amaethwyr Cymru yn ei wneud wrth gefnogi ffermwyr a hyrwyddo cefn gwlad Cymru.

Newyddion Diweddaraf

Cysylltwch â ni

Ffôn : 01970 820820

Ebost : post@fuw.org.uk

Cyfryngau Cymdeithasol

  • fas fa-x
  • fab fa-facebook-f
  • fab fa-instagram
Image