Mae Tîm Polisi Undeb Amaethwyr Cymru yn gyfrifol am arwain a chasglu barn aelodau drwy ddeuddeg Cangen Sirol yr Undeb ac un ar ddeg o Bwyllgorau Polisi. Mae’r staff polisi yn monitro'r datblygiadau amaethyddol diweddaraf yn gyson er mwyn cynghori a lobïo llywodraethau a chyrff y mae eu penderfyniadau'n effeithio ar amaethyddiaeth Cymru.
Mae'r Adran Bolisi yn ymdrechu i gyflawni'r canlyniadau polisi gorau i aelodau Undeb Amaethwyr Cymru. Mae'r gwasanaethau hyn o fudd enfawr i holl aelodaeth Undeb Amaethwyr Cymru, gan gynnwys y rhai sydd ddim o reidrwydd yn derbyn gwasanaeth uniongyrchol drwy Ganghennau'r Sir.
Mae penderfyniadau polisi a wneir gan lywodraethau yn cael effaith uniongyrchol ar fusnesau ffermio a hefyd ar y gwasanaethau y mae'r Undeb yn eu darparu'n uniongyrchol i aelodau, ac felly mae hefyd yn hanfodol bod yr Adran Bolisi yn darparu cefnogaeth a chyngor uniongyrchol i’r Canghennau Sirol.
Strwythur Democrataidd Undeb Amaethwyr Cymru


Gareth Parry, Pennaeth Polisi
Fel Pennaeth Polisi, mae Gareth yn gyfrifol am gyfarwyddo a rheoli Tîm Polisi'r Undeb ochr yn ochr ag arwain ar rai meysydd hanfodol fel y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, Masnach Ryngwladol a Chyllidebau Amaethyddol. Mae hefyd yn gyfrifol am gyfarwyddo gwasanaethu Pwyllgorau Sefydlog Cyngor yr Undeb sy'n ganolog i strwythur democrataidd llawr gwlad Undeb Amaethwyr Cymru.
Mae gan Gareth gefndir teuluol mewn amaethyddiaeth ac mae bellach yn byw ar fferm gwartheg bîff a defaid ger Aberystwyth. Cyn ymuno â'r Tîm Polisi, cwblhaodd radd mewn Amaethyddiaeth ac Astudiaethau Busnes ym Mhrifysgol Aberystwyth gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf.

Elin Jenkins, Swyddog Polisi
Ymunodd Elin ag Adran Bolisi Undeb Amaethwyr Cymru yn 2021, ar ôl gweithio fel Cynorthwyydd Gweinyddol yn cefnogi aelodau Undeb Amaethwyr Cymru yng Ngheredigion ers 2015. Mae hi'n arwain ar faterion polisi sy'n ymwneud ag iechyd a lles anifeiliaid, ymwrthedd i wrthfiotigau, adnabod anifeiliaid a llaeth. Mae hi hefyd yng ngofal Pwyllgorau Iechyd a Lles Anifeiliaid a Llaeth Undeb Amaethwyr Cymru.
Mae gan Elin radd mewn Microbioleg a Sŵoleg o Brifysgol Aberystwyth a gyda’i chefndir amaethyddol, mae ganddi ddiddordeb brwd mewn clefydau anifeiliaid sy'n ategu ei chyfrifoldebau o fewn Undeb Amaethwyr Cymru.
Wedi ei magu ar fferm yn magu defaid Texel pedigri a bellach yn briod â ffermwr llaeth, mae gan Elin flaenoriaethau cadarn ar gefnogi, amddiffyn a hyrwyddo buddiannau ffermydd teuluol Cymru ar gyfer y genhedlaeth nesaf.

Teleri Fielden, Swyddog Polisi
Mae Teleri yn ffermwr tenant bîff a defaid cenhedlaeth gyntaf sy'n byw yn Nantmor, Gwynedd. Ymunodd Teleri â'r tîm Polisi yn 2020 ac mae'n arwain ar faterion amgylcheddol fel Newid Hinsawdd a Bioamrywiaeth.
Astudiodd Teleri Ddaearyddiaeth gydag Amaethyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac mae ganddi Ddiploma Proffesiynol CIM mewn Marchnata a diploma mewn 'Agriculture Écologique' o ffermio yn Alpau Rhône am ddwy flynedd. Mae hi wedi gweithio'n flaenorol mewn amrywiol swyddi yn ymwneud a bwyd, ffermio ac amgylcheddol i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Cyngor Polisi Bwyd Oakland, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Faesyfed a Marchnata Bwyd Cyfan/Menter a Busnes yn cefnogi busnesau bwyd a diod Cymru. Mae hi'n gweld cynrychioli'r diwydiant a'i chymuned ffermio leol fel gwir anrhydedd.

Gemma Haines, Swyddog Polisi
Mae Gemma yn ffermwr genhedlaeth gyntaf sy'n byw ar gyrion Pen-y-bont ar Ogwr, De Cymru. Mae’n cadw defaid a gwartheg brodorol ac mae'n borwr tir comin.
Astudiodd Gemma Reolaeth Cadwraeth Amgylcheddol ym Mhrifysgol Morgannwg ond aeth ymlaen i ddatblygu diddordeb arbenigol mewn arferion ffermio cynaliadwy. Ymunodd â'r tîm Polisi yn 2024 ar ôl bod yn Ddirprwy Swyddog Sirol ar gyfer Morgannwg a Gwent. O fewn yr Adran Bolisi mae’n arwain ar faterion polisi sy'n ymwneud ag Ansawdd Dŵr, Nwyddau a Thir Comin.

Lauren Price, Senedd and Parliamentary Affairs Officer
Ymunodd Lauren ag Undeb Amaethwyr Cymru ym mis Hydref 2023 fel Swyddog Materion Seneddol. Mae hi'n byw ger Llanfair-ym-Muallt gyda'i theulu ifanc ac wedi etifeddu ei hangerdd dros ffermio gan ei rhieni sy'n ffermwyr tenant pedwaredd genhedlaeth.
Ar ôl cwblhau ei haddysg, gweithiodd Lauren mewn iardiau ceffylau rasio proffesiynol, cyn dilyn gyrfa mewn lletygarwch fel landlord tafarn dau dafarn a gwesty gwledig. Datblygodd ei diddordeb brwd mewn gwleidyddiaeth drwy gydol ei gyrfa amrywiol yng nghefn gwlad Cymru a manteisiodd ar y cyfle i ddechrau proffesiwn yn gweithio mewn gwleidyddiaeth pan gododd y cyfle yn ystod pandemig Covid-19.
Mae Lauren yn mwynhau'r her o ymgysylltu â gwleidyddion ac yn teimlo'n freintiedig i fod wrth wraidd lobïo dros y diwydiant amaethyddol a'r cymunedau y mae hi’n teimlo mor angerddol drosto.

Rebecca Voyle, Ymgynghorydd Polisi Arbennig
Ymunodd Rebecca ag Undeb Amaethwyr Cymru yn 2001 fel Swyddog Gweithredol Sirol Sir Benfro. Tra bod hi’n parhau yn y swydd yma, mae ganddi swydd rhan amser yn yr adran bolisi yn canolbwyntio ar RPW Ar-lein a gweithredu cynlluniau Llywodraeth Cymru.

