|
|
Y SECTOR DEFAID
Mae
diwydiant defaid Cymru yn cyfrif am tua 29% o holl gynnyrch fferm
y wlad, ond mae gwerth a phwysigrwydd y sector hwn yn llawer iawn
fwy na hyn yn nhermau'i gyfraniad i gynnal yr economi, yn arbennig
yn ardaloedd mynyddig a thiroedd uchel Cymru. Yn wir, byddai dirywiad
y sector yn effeithio'n ddifrifol ar fywyd economaiddgymdeithasol,
amgylcheddol a diwylliannol yr ardaloedd hyn. Mewn rhannau helaeth
o Gymru, nid oes dewis gan ffermwyr ond ffermio defaid, ac o'r herwydd
mae yna ddibynniaeth fawr ar y diwydiant pwysig hwn. Mae'n amlwg fod
y cymorth sydd ar gael i ardaloedd llai ffafriedig yn allweddol i
ddyfodol y sector hwn, ac felly dylech gyfeirio at ein hargymhellion
ar gyfer ALlFfau wrth ddarllen yr adran hon.
Mae UAC yn galw ar y llywodraeth i:
- werthfawrogi'n
llawn rôl bwysig y sector defaid yng Nghymru ac i geisio
ffafriaeth i'r sector oherwydd ei natur fregus a'r absenoldeb
o ddewisiadau ffermio arall;
- annog
y ddarpariaeth o gyfleusterau difa a thrin yng Nghymru er
mwyn sicrhau fod diwydiant cig oen Cymru yn profi'r manteision
o werth ychwanegol;
-
adnabod pwysigrwydd y fasnach allforion byw i'r sector defaid,
a chydnabod yr angen i wasgu am reolau wedi'u seilio ar
ganlyniadau gwyddonol er mwyn sicrhau'r safonnau uchaf wrth
symud stoc o fewn Ewrop;
- annog
yr UE i fabwysiadu, ar y cyfle cyntaf, agwedd mwy unedig
a gwyddonol i ddeunydd o berygl penodol fel na chaiff masnach
cig oen y gymuned ei hamharu; fabwysiadu dull mwy hyblyg
ac ymarferol o adnabod defaid.
|
 |
 |