|
|
Un
nôd sylfaenol sydd gan Undeb Amaethwyr Cymru sef amddiffyn a gweithredu
ar ran buddiannau amaethwyr Cymru.Yn Undeb annibynnol gyda’r hawl a’r rhyddid i weithredu drosti ei hun, fe all UAC ddatgan safbwyntiau ffermwyr Cymru yn ddi-duedd, ac yn ddiymatal rhag materion adrannol. Sefydlwyd UAC yn 1955 pan y derbyniodd hawl swyddogol gan y Llywodraeth i gynrychioli a siarad ar ran amaethwyr Cymreig. Gwnaethpwyd hyn a sicrhaodd yr Undeb bod safbwyntiau ffermwyr yn cael eu lleisio gerbron y lefelau uchaf posib - yn y Cynulliad Cenedlaethol, y Llywodraeth ac ym Mrwsel. |
||
|
|