|
|
|
Mae gwasanaeth yswiriant cyffredinol ar gael i bob aelod. Mae gwasanaeth Yswiriant Cyffredinol ar gael i aelodau drwy ein tim o 33 o Swyddogion Ardal a all ddewis polisiau priodol i gwrdd a'ch gofynion gan banel o yswirwyr arbenigol ym myd amaeth. Mae prisiau cystadleuol ar gael ar gyfer pob math o warant sydd ei angen - adeiladau fferm, peirianwaith a stoc, moduron, cerbydau amaethyddol a masnachol, cartrefi, cynnwys, atebolrwydd ynghyd â chontractwyr, y fasnach foduro, peirianwaith a gwarant i anifeiliaiad anwes. Rhaid i bob busnes fenthyca cyfalaf ar ryw adeg wrth ddatblygu. Mae cyllid ar gael ar gyfer y tymor byr, canolig a hir er mwyn ateb eich gofynion arbennig. O ran benthyca tymor byr, gweithredu fel cynrychiolwyr i 'Cyllid Fferm ING' y mae'r Undeb. Mae ein Swyddogion Ardal wedi'u hyfforddi i gynnig dyfyniadau ar gyfer Hurbrynu, Prydlesu neu Fenthyca i brynu Tractorau, Peiriannau, Cerbydau Masnachol, Ceir, Cwotâu, Stoc neu Adeiladau. Am Forgeisiau o 5 i 40 mlynedd, ffurfiodd UAC gysylltiadau â'r Gorfforaeth Morgeisiau Amaethyddol (AMC) sy'n darparu cyllid ar gyfer Prynu Fferm, Prynu Tir, Gwelliannau Fferm, Arallgyfeirio, Ariannu Gor-ddrafftiau. Mae'r Gorfforaeth yn enwog am ei Benthyciadau Llog Penodol a Newidiol cystadleuol. Mae Ymgynghorwyr Ariannol cymwysedig Sterling Asset Management yn darparu cyngor ar Gynilion - ynghyd â Bondiau Elw, Cwmnïau Buddsoddi, PEPau, Cynlluniau Gwaddol; Diogelwch - Diogelu Morgeisiau, Aswiriant Cyfnod, Gwaeledd a Damwain, Salwch Difrifol; Ymddeoliad - Cynllun Pensiwn, cynllunio'r Dreth Etifedd. Mae Swyddogion Ardal yr Undeb yn gyflwynwyr awdurdodedig i Grwp Marchnata Pensiynau ac Yswiriant Bywyd y Royal Sun Alliance - caiff ei aelodau'u rheoli gan yr Awdurdod Buddsoddi Personol (ar gyfer Aswiriant Bywyd, Pensiynau a busnes Cwmnïau Buddsoddi yn unig) a gan yr IMRO. Nid yw Grwp Marchnata Pensiynau ac Yswiriant Bywyd y Royal Sun Alliance yn awdurdodi nac yn gyfrifol am unrhyw weithgaredd neu gyngor arall gan y Cyflwynwr. Mae gan yr Undeb rwydwaith o Swyddogion cymeradwyedig ledled Cymru i ddarparu cymorth proffesiynol i'n Haelodau ar amrywiaeth eang o bynciau fel Ffyrdd-freintiau, Prynu Gorfodol, Prisio Tir ac Eiddo, Adolygiadau Rhent, Cynllunio a Materion Amgylcheddol, Rheolaeth Busnes a Fferm, Rheoli Coedwigoedd, Arallgyfeirio, SSIau, ESAau, Ceisiadau Tenantiaeth. Mae'r Ymgynghorwr Rheolaethol, Philip Meade o Davis, Meade a Phartneriaid, yn gweinyddu Asiantaeth Cwota'r Undeb hefyd, ac fe ddarperir cyngor cyfreithiol - yn rhad ac am ddim ar gyfer yr ymgynghoriad cyntaf - gan Barrie Jones, Cyfarwyddwr Cyfreithiol yr Undeb. |
|||